成人快手

Defnyddio gwaith byrfyfyr

Mae gwaith byrfyfyr yn golygu dyfeisio a chreu cynnwys ar y pryd. Mae drama fyrfyfyr yn waith nad yw wedi ei sgriptio o flaen llaw ond sy鈥檔 cael ei greu wrth fynd ymlaen. Mae鈥檔 bwysig peidio 芒 rhwystro aelodau o鈥檙 gr诺p wrth wneud gwaith byrfyfyr ond i dderbyn eu syniadau ac arbrofi gyda nhw. Bydd hyn yn eich annog i gyd i gydweithio ar syniad yn hytrach na cheisio cyfarwyddo neu gynllunio鈥檙 gwaith byrfyfyr.

Mae gwaith byrfyfyr yn ffordd wych o gynhyrchu cynnwys newydd ac arbrofi gyda syniadau wrth greu drama. Gan nad ydy wedi ei gynllunio o flaen llaw, dwyt ti byth yn hollol si诺r i le y bydd yr olygfa yn dy arwain na beth fydd yr actorion eraill yn ei ddweud. Gall hyn fod yn ffordd gyffrous a difyr iawn i arbrofi a chreu gwaith. Mae gwaith byrfyfyr yn datblygu dy allu i feddwl yn gyflym ac i gefnogi actorion eraill.

Gall byrfyfyrio ar y pryd sydd heb ei gynllunio o gwbl, gynhyrchu deialog neu senario fydd yn gweithio ar gyfer y darn rwyt ti鈥檔 ei greu. Gall hyn wedyn gael ei fireinio a鈥檌 ymarfer, a鈥檌 gynnwys yn y darn terfynol.

Mae gwaith byrfyfyr yn ffordd ragorol hefyd o hogi sgiliau actio. Gall bod yn hollol ddi-gynllun ac agored i鈥檙 hyn sy鈥檔 digwydd wella sgiliau gwrando ac ymateb ar y llwyfan, adeiladu cydberthynas, miniogi鈥檙 ddealltwriaeth a chynyddu hyder fel perfformiwr. Galli di wneud gwaith byrfyfyr ar thema a welaist mewn sgript neu greu golygfa hollol newydd o ddrama. Mae鈥檔 werth edrych ar Sgript a gwaith byrfyfyr i ddysgu mwy.

Mae nifer o ddram芒u wedi defnyddio gwaith byrfyfyr mewn ymarferion ac yna ei gynnwys yn y gwaith terfynol sy鈥檔 cael ei berfformio. Un esiampl ydy鈥檙 ddrama, Un nos ar Radio Cymru, a ysgrifennwyd gan Ian Rowlands ac Aled Jones Williams. Dyma glip sain o鈥檙 olygfa fyrfyfyr gyntaf ar gyfer y ddrama, golygfa sy鈥檔 cynnwys rhai eiliadau comig effeithiol.