Cellraniad a chelloedd bonynCelloedd bonyn mewn planhigion
Mae celloedd yn rhannu trwy fitosis er mwyn tyfu ac atgyweirio. Maen nhw'n rhannu drwy feiosis i greu gametau ar gyfer atgenhedlu rhywiol. Mae celloedd bonyn yn gwahaniaethu鈥檔 gelloedd arbenigol.
Mae rhaniad celloedd mewn planhigion yn digwydd mewn rhannau a elwir yn meristemMan penodol lle mae celloedd yn rhannu mewn planhigion, ee blaen gwreiddyn a blaen egin.. Gall celloedd y meristem wahaniaethu i gynhyrchu pob math o gell planhigyn ar unrhyw bryd yn ystod oes y planhigyn.
Mae鈥檙 prif feristemau鈥檔 agos at flaen yr egin, a blaen y gwreiddyn.
Mewn eginyn sy鈥檔 tyfu, caiff celloedd newydd eu cynhyrchu鈥檔 barhaus yn agos at y blaen. Wrth i鈥檙 celloedd heneiddio, byddant yn symud ymhellach i ffwrdd o鈥檙 blaen ac yn gwahaniaethu.