Celloedd bonyn
Celloedd bonyn mewn bodau dynol
Mae embryo yn datblygu o wy a gafodd ei ffrwythloni. Celloedd bonyn yw鈥檙 term am gelloedd yng nghamau cyntaf datblygiad embryo. Celloedd yw鈥檙 rhain sydd heb brofi gwahaniaethuPan mae cell anarbenigol yn dod yn fath o gell sy鈥檔 fwy arbenigol.. Cell heb ei gwahaniaethu yw cell sydd heb droi鈥檔 cell arbenigolCell gyda si芒p arbennig ar gyfer swyddogaeth arbennig. eto.
Os tynnir celloedd o鈥檙 embryo byddant yn gwahaniaethu gan newid i unrhyw fath o gell. Celloedd bonyn embryonig yw鈥檙 term am y rhain. Bydd rhai celloedd bonyn yn aros yng nghyrff oedolion fel celloedd bonyn oedolyn.
Mae ychydig o gelloedd bonyn oedolyn i鈥檞 cael mewn sawl rhan o鈥檙 corff, ee:
- yr ymennydd
- y llygaid
- y gwaed
- y galon
- yr iau/afu
- m锚r yr esgyrn
- y croen
- y cyhyrau
Dim ond i fathau celloedd perthynol y gall celloedd bonyn oedolyn newid. Er enghraifft, gall celloedd m锚r esgyrn wahaniaethu鈥檔 gelloedd gwaed a chelloedd y system imiwnedd, ond nid yn unrhyw fathau eraill o gelloedd.
Defnyddio celloedd bonyn dynol
Gall celloedd bonyn rannu i gynhyrchu celloedd newydd, a gall y rheini ymrannu wedyn yn wahanol fathau o gelloedd. Felly mae ganddynt y potensial i gael eu trawsblannu i gleifion i drin cyflyrau meddygol a chlefydau. Gellid eu defnyddio i adnewyddu celloedd a gafodd eu niweidio neu eu difa, er enghraifft:
- mewn diabetes math 1
- mewn achosion o sglerosis ymledol, a all arwain at barlys
- mewn achosion o anaf i fadruddyn y cefn neu鈥檙 ymennydd, sydd wedi arwain at barlys
Gellid defnyddio:
- celloedd bonyn embryonig
- celloedd bonyn oedolyn
Gall celloedd bonyn embryonig wahaniaethu i amrediad ehangach o fathau o gelloedd, ond mae鈥檔 anodd cael gafael arnynt. Yr embryo pum diwrnod oed yw鈥檙 ffynhonnell orau.
Bydd celloedd bonyn oedolyn yn gwahaniaethu i amrediad llai o fathau o gelloedd. Mae trawsblaniadau m锚r esgyrn yn enghraifft o drawsblaniad celloedd bonyn oedolyn. Bydd celloedd m锚r esgyrn yn gwahaniaethu鈥檔 fathau gwahanol o gelloedd gwaed. Gwneir trawsblaniadau m锚r esgyrn:
- mewn achosion o canserAfiechyd sy鈥檔 cael ei achosi gan gelloedd arferol yn newid ac yn tyfu drwy fitosis yn afreolus. Mae鈥檙 tyfiant hwn yn achosi i lwmp, o鈥檙 enw tiwmor, gael ei ffurfio. celloedd gwaed, ee lewcemia a lymffoma
- pan fydd celloedd gwaed wedi鈥檜 difa, ee yn ystod triniaeth am ganser
Buddiannau a risgiau cysylltiedig 芒 defnyddio celloedd bonyn mewn meddygaeth
Mae gan gelloedd bonyn botensial mawr, ee ar gyfer trin cleifion 芒 chyflyrau na ellir eu trin ar hyn o bryd, tyfu organau ar gyfer trawsblaniadau, ac ymchwil. Dyma rai o fanteision defnyddio eich celloedd bonyn eich hun:
- dim gwrthodiad
- dim angen canfod rhoddwr
- dim angen gwirio math meinwe
Ond mae cwestiynau clinigol, moesegolYn ymwneud 芒鈥檙 hyn sy鈥檔 iawn neu ddim yn iawn, ee mae cwmn茂au moesegol fel arfer yn rhai sy鈥檔 ymddwyn yn gyfrifol. a chymdeithasol yngl欧n 芒鈥檜 defnyddio. Bydd y cwestiynau hyn yn wahanol ar gyfer tyfu a thrawsblannu celloedd bonyn oedolyn, embryonig, neu wedi鈥檜 clonio鈥檔 therapiwtig. Byddant yn dibynnu hefyd ar sut y bwriedir defnyddio鈥檙 celloedd bonyn 鈥 ar gyfer therapi neu ymchwil.
Problemau clinigol
- Does dim gwarant pa mor llwyddiannus fydd y therap茂au hyn, er enghraifft, defnyddio celloedd bonyn i adnewyddu celloedd nerfol a gollwyd mewn cleifion clefyd Parkinson.
- Mae鈥檔 anodd canfod rhoddwyr celloedd bonyn addas ar hyn o bryd.
- Mae鈥檔 anodd cael a storio celloedd bonyn embryonig gan glaf. Byddai鈥檔 rhaid casglu鈥檙 rhain cyn geni鈥檙 person 鈥 mae rhai clinigau鈥檔 cynnig storio gwaed o鈥檙 llinyn bogail pan gaiff rhywun ei eni.
- Gwelwyd mwtaniadau mewn celloedd bonyn a feithrinwyd am sawl cenhedlaeth, a gwelwyd bod rhai celloedd bonyn 芒 mwtaniadau yn ymddwyn fel celloedd canser.
- Gallai celloedd bonyn wedi鈥檜 meithrin gael eu halogi gan firysau, a ch芒i鈥檙 rheiny eu trosglwyddo i鈥檙 claf.
Cwestiynau moesegol
- Un ffynhonnell o gelloedd bonyn embryonig yw embryonau sb芒r a gynhyrchwyd wrth ffrwythloni in vitro (IVF).
- Ar gyfer clonio therapiwtigDefnyddio technoleg clonio at ddibenion meddyginiaethol. Un enghraifft fyddai defnyddio DNA unigolyn i glonio un o鈥檌 organau er mwyn ei thrawsblannu., a ydyw鈥檔 iawn creu embryonau ar gyfer therapi, a鈥檜 difa yn y broses?
- Gellid dod i weld embryonau fel nwydd, ac nid fel embryo a allai ddatblygu鈥檔 berson.
- Ar ba gam yn ei ddatblygiad y dylid ystyried embryo, a鈥檌 drin, fel person?
Cwestiynau cymdeithasol
- Mae鈥檔 bwysig addysgu鈥檙 cyhoedd am yr hyn y gall celloedd bonyn ei wneud a鈥檙 hyn na allant ei wneud.
- A ydyw buddiannau defnyddio celloedd bonyn yn fwy na鈥檙 risgiau.
- Clinigau masnachol sy鈥檔 gwneud llawer o鈥檙 gwaith ymchwil, felly nid yw llwyddiannau honedig yn destun adolygiad gan gydweithwyr.
- Gellid ecsbloetio cleifion a鈥檜 cael i dalu am driniaethau costus a rhoi gobaith ffug iddynt am iach芒d gan mai dim ond yn eu camau datblygiadol y mae therap茂au celloedd bonyn.