Gwella dealltwriaeth o waith llais
Gwylia鈥檙 clip Saesneg hwn, ateba鈥檙 cwestiynau yna cymhara dy atebion gyda鈥檙 atebion enghreifftiol.
Question
Disgrifia d么n llais David Tennant wrth berfformio'r ymson.
Mae David Tennant yn dechrau gyda th么n llais meddylgar ac ymholgar sy'n dangos i'r gynulleidfa fod ganddo frwydr wirioneddol i benderfynu beth ddylai ei wneud nesaf. Mae ei d么n yn mynd yn fwy anobeithiol, gan fynegi ei boen mewnol wrth ddygymod 芒'r hyn mae'n ei wybod. Yn olaf mae t么n ofnus i'w lais wrth iddo sylweddoli fod rhaid iddo weithredu.
Question
Disgrifia gyflymder y perfformiad - oes yna newid o gwbl?
Mae鈥檙 actor yn siarad yn bwyllog drwy gydol y darn ac mae hyn yn pwysleisio pwysigrwydd ei gwestiwn: gweithredu ai peidio? Mae'r gynulleidfa felly'n gwybod bod hon yn rhan bwysig o'r ddrama. Mae'r saib hir ar 么l ei gwestiwn cyntaf To be, or not to be
yn creu鈥檙 tensiwn ac yn cyfleu ei helbul meddyliol. Mae'n cymryd saib effeithiol ar 么l to die, to sleep
, sy'n cyfleu pa mor flinedig mae'n teimlo. Yna mae cynyddu'r cyflymder yn nodi syniad newydd a dadl ffres, sy'n cyfleu ei ddryswch yn glir.
Question
Pa acen mae David Tennant yn ei defnyddio yn yr ymson?
Mae David Tennant yn defnyddio acen Saesneg safonol (acen yr Alban ydy ei acen naturiol). Gelwir y dull clir hwn o ynganu Saesneg yn 'received pronunciation' neu RP.
Question
Sut fyddet ti'n disgrifio cyflymder ac uchder sain yr ymson?
Mae'r ymson yn eithaf tawel drwyddi draw sy'n dangos yn glir i'r gynulleidfa ei fod yn mynegi ei feddyliau preifat a'i frwydr fewnol. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu gan y cyflymder cyson, pwyllog. Mae'r ddau'n cyfleu ei fod yn ceisio cadw rheolaeth ar ei emosiynau niferus a phenderfynu beth i'w wneud nesaf.
Question
Oes seibiau ag effaith ddramatig yn y darn? Ac os felly, pam?
Mae seibiau鈥檔 cael eu defnyddio'n effeithiol i greu effaith ddramatig. Yr un mwyaf amlwg ydy'r un sy'n dilyn To be, or not to be
. Ceir saib hir sy'n gosod y cwestiwn yn gadarn ym meddwl y gynulleidfa gan gryfhau ei bwysigrwydd. Fodd bynnag ceir seibiau drwyddi draw hefyd, sy'n cael eu defnyddio i ddangos y newid yn ei feddwl wrth iddo symud o un ddadl i ddadl gwbl groes. Mae'r rhain yn rhoi si芒p i'r araith.
Question
Pam mae dehongliad lleisiol David Tennant o'r ymson enwog hwn yn peri syndod?
Mae'n berfformiad eithaf tawel: mae鈥檙 emosiynau yn cael eu cadw i mewn a'u ffrwyno, sy'n ddehongliad cynnil. Mae rhai actorion sydd wedi chwarae'r rhan yn y gorffennol wedi rhoi perfformiadau 'mwy' a llai cynnil o'r ymson hwn. Dylai'r dehongliad gwahanol hwn gydio yn niddordeb y gynulleidfa am ei fod yn annisgwyl. Er bod Tennant yn ymdrin 芒 theimladau anodd iawn, mae鈥檙 ffaith ei fod yn cadw ei araith dan reolaeth o ran uchder, cyflymder a thraw yn ychwanegu mwy at ddwyster ei emosiynau na phe bai'n eu gor-wneud. Cawn ein denu ato wrth i ni ei weld yn ceisio cadw rheolaeth ar ei deimladau a'u deall, yn hytrach nag ildio iddyn nhw.