Elfennau lleisiol i'w cofio
Mae llawer o actorion yn dechrau eu dehongliad o gymeriad drwy ddod o hyd i lais addas. Mae nifer o elfennau lleisiol y dylet ti eu hystyried:
- traw 鈥 siarad mewn llais uchel, isel neu naturiol
- cyflymder 鈥 pa mor gyflym mae rhywun yn siarad, ee cyflymder ymateb mewn dadl
- saib 鈥 saib ydy toriad byr mewn llinell neu weithred. Gallai saib dramatig ar ennyd hanfodol hawlio sylw
- 迟么苍 鈥 迟么苍 y llais ydy lliwio鈥檙 llais i olygu ystyr neu agwedd. Mae dy d么n yn awgrymu dy hwyliau a dy fwriadau i'r gwrand盲wr, ee hapus, trist
- uchder 鈥 efallai dy fod yn gwneud sylw yngl欧n 芒'r gallu i'w glywed, ond mae'n fwy tebygol y byddi di'n trafod effaith llais uchel, pwerus neu lais tawel, nerfus neu drist
- acen 鈥 efallai y byddi di'n s么n am sut mae rhywun wedi llwyddo i feistroli acen sy'n argyhoeddi neu sut mae acen benodol wedi cyfoethogi'r cymeriadu
- pwyslais 鈥 dyma'r pwyslais ar eiriau unigol sy'n gwneud iddyn nhw fod yn amlwg. Mae pwyslais penodol ar gyfer creu effaith yn arwyddocaol a gall newid ystyr brawddeg yn ogystal 芒'r teimlad y tu 么l iddo
- goslef 鈥 y llais yn codi ac yn disgyn. Byddai goslef y llais yn codi ar ddiwedd brawddeg wrth ofyn cwestiwn er enghraifft. Mae goslef hefyd yn ein helpu i ddweud beth rydyn ni'n ei feddwl
Yn y clip sain hwn mae鈥檙 actores Ceri Tudno yn perfformio agoriad y ddrama Dan y Wenallt, sef cyfieithiad T James Jones o ddrama radio enwog Dylan Thomas, Under Milk Wood. Wyt ti鈥檔 hoffi鈥檙 perfformiad? Noda鈥檙 rhesymau pam mae鈥檙 defnydd o lais yn effeithiol neu鈥檔 anffeithiol yn dy farn di.