成人快手

Disgrifio llaisIaith lafar

Mae'r llais yn arf pwerus mewn drama. Wrth ddisgrifio gwaith llais, ystyria elfennau megis traw, cyflymder a thonyddiaeth. Dylai cymeriadau ddefnyddio cywair iaith sy'n addas iddyn nhw bob tro.

Part of DramaYsgrifennu am ddrama a theatr

Iaith lafar

Mae amrywiaeth enfawr o iaith lafar y gallet ti ei defnyddio mewn drama. Mae'r geiriau y byddi di鈥檔 eu dewis yn gorfod bod yn iawn i'r cymeriad, y lleoliad a'r sefyllfa:

  • Cyweiriau iaith - cofia newid y ffordd y byddi di鈥檔 siarad gyda phobl wahanol. Fydden ni ddim yn dweud "Haia, ti'n iawn cyw?" wrth farnwr mewn bywyd go iawn, felly os byddi di鈥檔 perfformio barnwr mewn drama, cadwa'r cywair yn ffurfiol a phaid 芒 holi dy dyst drwy ddweud "Reit te boi, be ddigwyddodd nesa te?" Dylai cywair ein hiaith gyd-fynd 芒'r r么l.
Barnwr yn llys y goron 芒 swigen siarad yn dweud: "Yffach gols! Byddi di yn y clinc nawr!"
  • Barddoniaeth - defnyddia hyn mewn drama , neu mewn megis pantomeim.
  • Iaith Shakespearaidd - gall hyn fod yn ddefnyddiol os byddi di am adlewyrchu cyfnod Shakespeare neu ddwyn drama gan Shakespeare i gof.
  • Slang/tafodiaith - defnyddia hwn os byddi di am bortreadu bywyd cyffredin bob dydd. Mae gwahanol ardaloedd yn defnyddio gwahanol eiriau megis 鈥榝ferins鈥 yn y gogledd a 'losin' yn y de. Cofia beidio 芒 defnyddio bratiaith ar yr adeg anghywir. Byddai dweud 'OK' yn lle 'Iawn' mewn drama o oes Fictoria yn swnio'n rhyfedd iawn.

Related links