成人快手

Prosiect y Genom Dynol

Genom yw鈥檙 term am y wybodaeth enetig mewn organeb. Cychwynnwyd Prosiect y Genom Dynol (Human Genome Project), ddiwedd y ganrif ddiwethaf. Roedd yn uchelgeisiol iawn ac yn anelu at sawl nod, gan gynnwys:

  • canfod trefn neu ddilyniant pob un o鈥檙 tri biliwn o barau basau yn y genom dynol
  • adnabod y genynnau i gyd
  • datblygu dulliau cyflymach ar gyfer dilyniannu DNA

Daeth y prosiect dilyniannu i ben yn 2001, ac mae gwaith yn parhau ar geisio adnabod yr holl enynnau yn y genom dynol. Y gobaith yw y bydd gwybodaeth o Brosiect y Genom Dynol yn caniat谩u i wyddonwyr ddatblygu ffyrdd newydd o drin neu ddiagnosio clefydau, yn enwedig anhwylderau genetig a chanser.

Anhwylderau genetig

Mae dioddefwr ffibrosis cystig wedi etifeddu dau alel diffygiol ar gyfer genyn penodol ar un o鈥檌 gromosomau, sef cromosom 7. Y gobaith yw y gallai ryw ddydd fod yn bosibl trwsio鈥檙 alelau diffygiol drwy therapi genynnol, er enghraifft drwy roi鈥檙 alel normal i mewn i gelloedd yr ysgyfaint. Byddai hyn yn hwb mawr i fywydau pobl 芒 ffibrosis cystig, sydd angen trawsblaniad ysgyfaint yn aml wrth i鈥檞 clefyd ddatblygu.

Canser y fron

Mae risg arbennig i rai pobl ddatblygu rhai mathau o ganser y fron, am bod aelodau o鈥檜 teulu鈥檔 cludo alelau diffygiol. Mae鈥檙 alelau hyn wedi鈥檜 hadnabod, ac erbyn hyn mae鈥檔 bosibl rhoi prawf i bobl i weld a oes risg uwch iddynt ddatblygu canser y fron. Mae hyn yn caniat谩u iddynt wneud penderfyniadau ynghylch a ddylent gael llawdriniaeth i dynnu meinwe鈥檙 fron cyn i unrhyw ganser ddatblygu yn eu bronnau.