Tystiolaeth dros esblygiad – Diflaniad rhywogaeth
Bydd rhywogaeth yn diflannu pan nad oes dim unigolion o’r rhywogaeth yn dal yn fyw. Mae anifeiliaid sydd heb ymaddasu’n dda i’w hamgylchedd yn llai tebygol o oroesi ac atgenhedlu na rhai sydd wedi ymaddasu’n dda. Gall yr anifeiliaid sydd heb ymaddasu i’w hamgylchedd ddiflannu.
Mae gan ddiflaniad ran mewn esblygiad wrth i rai rhywogaethau ddiflannu, tra bod eraill yn goroesi ac yn dal i esblygu. Gall sawl ffactor achosi i rywogaeth ddiflannu, gan gynnwys:
- clefydau newydd
- ysglyfaethAnifail sy’n dal anifeiliad eraill i'w bwyta. newydd
- cystadleuwyr newydd, mwy llwyddiannus
- newidiadau i’r amgylchedd dros gyfnod daearegol, fel newid hinsawdd
- un digwyddiad catastroffig, fel ffrwydrad llosgfynydd mawr, neu wrthdrawiad rhwng asteroid a’r Ddaear
Gall rhywogaeth ddiflannu hefyd drwy ffurfiant rhywogaethauFfurfio rhywogaethau newydd ac unigryw yn ystod esblygiad..
Mae’r cofnod ffosilau yn dangos bod llawer o rywogaethau wedi diflannu ers dechrau bywyd ar y Ddaear. Mae rhywogaethau’n dal i ddiflannu, a hynny’n aml oherwydd gweithgareddau dynol. Mae bodau dynol yn cystadlu ag organebau byw eraill am le, bwyd a dŵr – mae dyn yn ysglyfaethwr llwyddiannus iawn.
Y dodo
Aderyn trwm o gorff tua’r un maint ag alarch oedd y dodo, oedd yn methu hedfan. Diflannodd wedi i bobl gyflwyno ysglyfaethwyr newydd.
Roedd y dodo’n byw ar ynys Mauritius yng Nghefnfor yr India. Doedd neb yn byw ar yr ynys a doedd gan yr aderyn ddim ysglyfaethwyr naturiol. Pan goloneiddiwyd Mauritius gan yr Iseldirwyr yn 1638, dechreusant hela’r dodo am fwyd. Roedd yn hawdd ei ddal, a daeth y bobl â chystadleuwyr newydd i’r ynys, fel moch, cathod a llygod mawr. Roedd y rheiny’n bwyta wyau’r dodo a’r cywion. O fewn 80 mlynedd, roedd y dodo wedi diflannu.