˿

Problemau dŵr – CBACDull Mtumba

Dydy’r galw am ddŵr a faint o ddŵr sy’n cael ei ddefnyddio yn y byd ddim yn gyfartal. Mae angen rheoli cyflenwadau dŵr ac mae strategaethau er mwyn cyflawni hyn. Mae cynaliadwyedd dŵr yn bryder byd-eang.

Part of DaearyddiaethMaterion datblygiad ac adnoddau

Dull Mtumba

Rhaid i’r dulliau o reoli dŵr mewn fod yn . Mae rhai pentrefi yn Tanzania wedi llwyddo i leihau ansicrwydd dŵr drwy ddefnyddio dulliau cynaliadwy.

Lleoliad

LIC yn Nwyrain Affrica yw Tanzania. Does gan 14 miliwn o bobl yn Tanzania ddim mynediad at ddŵr diogel. Does gan 27 miliwn o bobl ddim mynediad at doiledau. Mae’r ddwy broblem yn gysylltiedig â’i gilydd, oherwydd mae’r diffyg cyfleusterau toiledau yn caniatáu i garthion a bacteria dreiddio i'r dŵr sy’n cael ei yfed a’i ddefnyddio i goginio. Mae hyn yn achosi dolur rhydd, sy’n lladd dros 7,000 o blant yn Tanzania bob blwyddyn.

Mae Mtumba ger Dodoma, Tanzania.

Beth yw dull Mtumba?

Dull cynaliadwy o reoli dŵr yw dull Mtumba, sydd wedi cael ei enwi ar ôl pentref Mtumba yn Tanzania. Bwriad dull Mtumba yw adeiladu toiledau i drigolion y pentref yn Tanzania. Mae’n rhwystro carthion a bacteria rhag mynd i mewn i ddŵr yfed. Mae elusen WaterAid yn hyfforddi pobl leol i adeiladu eu toiledau eu hunain. Aelodau o’r gymuned sy’n penderfynu ar y math o doiled a’i ddyluniad, ac mae’r deunyddiau yn fforddiadwy. Mae WaterAid hefyd yn addysgu pobl am mewn toiledau, fel golchi dwylo.

Canlyniadau

Mae llawer o fanteision wedi codi o ganlyniad i brosiect Mtumba.

  • Nid yw’r trigolion yn mynd yn sâl mor aml. Mae hyn yn golygu eu bod yn gallu gweithio. Ym Mtumba, mae rhai preswylwyr yn gwneud dillad a’u gwerthu i drigolion pentrefi eraill.
  • Mae cymorth gan y llywodraeth wedi helpu pobl i ddeall pam bod angen toiledau. Mae hyn yn golygu bod pobl yn fwy tebygol o dderbyn y cymorth mae WaterAid yn ei gynnig.
  • Mae tua 420,000 o bobl wedi cael budd o doiledau newydd hyd yn hyn.
  • Mae dull Mtumba nawr yn cael ei ddefnyddio mewn pentrefi eraill yn Tanzania.

Project ar raddfa fach yw project Mtumba ac felly dim ond nifer cyfyngedig o bobl mae’n eu helpu. Fodd bynnag, mae’n gynaliadwy felly dylai'r effeithiau cadarnhaol barhau i fod o fudd i bobl.