˿

Problemau dŵr – CBACCronfa ddŵr Kielder

Dydy’r galw am ddŵr a faint o ddŵr sy’n cael ei ddefnyddio yn y byd ddim yn gyfartal. Mae angen rheoli cyflenwadau dŵr ac mae strategaethau er mwyn cyflawni hyn. Mae cynaliadwyedd dŵr yn bryder byd-eang.

Part of DaearyddiaethMaterion datblygiad ac adnoddau

Cronfa ddŵr Kielder

Mae cronfa ddŵr Kielder yn Northumberland yn enghraifft o gynllun trosglwyddo dŵr .

Mae Kielder Water ar afon Tyne, ger Newcastle-upon Tyne yng ngogledd ddwyrain Lloegr.

Lleoliad

Mae Kielder mewn ardal o dir uchel o’r enw’r Penwynion (Pennines) yn y DU. Mae hyn yn golygu ei fod yn cael mwy o law nag ardaloedd i’r dwyrain, sydd yng . Caiff y dŵr sy’n casglu yng nghronfa ddŵr Kielder ei drosglwyddo i'r de a’i ryddhau i afonydd sy’n llifo i ddinasoedd Newcastle-upon-Tyne, Sunderland, Durham, Darlington a Middlesbrough.

Manteision

Mae gan gronfa ddŵr Kielder lawer o fanteision.

  • Caiff trydan ei greu drwy yn yr argae. Mae hon yn ffynhonnell egni lân a dibynadwy.
  • Mae’r gronfa ddŵr wedi lleihau ansicrwydd dŵr yng ngogledd-ddwyrain Lloegr. Mae llawer mwy o ddŵr yn yr afonydd sy’n llifo i ddinasoedd fel Middlesbrough a Sunderland.
  • Mae twristiaeth yn Kielder wedi creu swyddi newydd ac wedi creu incwm. Mae pobl yn ymweld â'r gronfa ddŵr i wneud chwaraeon dŵr ac i fwynhau’r golygfeydd hardd sydd wedi’u creu o amgylch y llyn.

Anfanteision

  • Mae’r argae sy’n rhwystro’r afon wedi amharu ar batrymau bridio pysgod. Hefyd, mae llai o gerigos yn teithio i lawr yr afon, sy’n effeithio ar gynefinoedd.
  • Cafodd llawer o deuluoedd eu symud o’u cartrefi i wneud lle i'r argae a’r gronfa ddŵr.
  • Cafodd tir fferm a llawer o gynefinoedd eu colli pan gafodd y tir y tu ôl i’r argae ei foddi.