˿

Problemau dŵr – CBACProjectau dŵr cynaliadwy

Dydy’r galw am ddŵr a faint o ddŵr sy’n cael ei ddefnyddio yn y byd ddim yn gyfartal. Mae angen rheoli cyflenwadau dŵr ac mae strategaethau er mwyn cyflawni hyn. Mae cynaliadwyedd dŵr yn bryder byd-eang.

Part of DaearyddiaethMaterion datblygiad ac adnoddau

Projectau dŵr cynaliadwy

Mae rhai atebion i ansicrwydd dŵr yn fwy .

Cadwraeth dŵr

Mae offer modern, fel peiriannau golchi llestri a pheiriannau golchi dillad, yn defnyddio llawer o ddŵr. Mae pobl yn defnyddio llawer o ddŵr i olchi ceir ac i ddyfrio gerddi hefyd. Mae yn cynnwys defnyddio llai o ddŵr. Mae llawer o fesurau y gall pobl eu rhoi ar waith i gyflawni hyn. Mae angen llai o ddŵr i fflysio ac fe gaiff cadwraeth dŵr ei ystyried wrth ddylunio offer modern. Gall cwmnïau dŵr osod i fesur faint o ddŵr sy’n cael ei ddefnyddio mewn cartrefi, a chodi tâl yn unol â hynny. Mae hyn yn annog pobl i ddefnyddio llai. Ar lefel genedlaethol, mae cwmnïau dŵr yn ceisio cynilo dŵr drwy drwsio pibellau dŵr sy’n gollwng.

Rheoli dŵr daear

Pibell ddraenio wedi ei chysylltu â gwrthrych plastig tebyg i fwced â chaead arno.

Mae dan fwyfwy o fygythiad gan lygredd a . Mae sylweddau fel yn treiddio i o ganlyniad i ffermio. Mae mwyngloddio a wedi cael eu cysylltu â llygru dŵr daear hefyd.

Yn y DU, mae'r llywodraeth wedi neilltuo parthau gwarchod a diogelu, lle caiff datblygiadau eu cynllunio a’u rheoli’n ofalus. Mae hyn yn cynnwys mapio llif cyflenwadau dŵr daear, yn ogystal â’r mathau o bridd a chreigiau. Mae mesurau ymateb ar waith i glirio unrhyw lygredd sy’n codi.

Dŵr ‘llwyd’

Dŵr sydd ddim yn bur yw . Gall fod yn ddŵr glaw sydd heb ei drin neu’n ddŵr sydd wedi cael ei ddefnyddio eisoes, ee i olchi dwylo neu ddannedd. Y syniad y tu ôl i ddefnyddio dŵr llwyd bod rhai achosion lle does dim angen defnyddio dŵr sydd bob amser. Mae fflysio toiledau yn enghraifft o hyn. Mae rhai cwmnïau nawr yn defnyddio dŵr glaw i fflysio toiledau yn eu swyddfeydd. Gall cartrefi gasglu dŵr glaw mewn casgenni a’i ddefnyddio i ddyfrio gerddi.