˿

Problemau dŵr – CBACFaint o ddŵr sydd ar gael

Dydy’r galw am ddŵr a faint o ddŵr sy’n cael ei ddefnyddio yn y byd ddim yn gyfartal. Mae angen rheoli cyflenwadau dŵr ac mae strategaethau er mwyn cyflawni hyn. Mae cynaliadwyedd dŵr yn bryder byd-eang.

Part of DaearyddiaethMaterion datblygiad ac adnoddau

Ffactorau sy’n effeithio ar faint o ddŵr sydd ar gael

Mae sawl rheswm pam nad yw’r cyflenwad dŵr byd-eang yn gyfartal. Mae’r ffactorau canlynol yn effeithio ar gyflenwad dŵr croyw.

Hinsawdd

Mae lefel glawiad isel a thymheredd uchel yn arwain at . Pan nad oes llawer o law, mae llai o ddŵr ar gael. Pan mae’r tymheredd yn uchel, mae dŵr yn anweddu ac felly mae llai ohono ar gael i’w ddefnyddio. Mae yn gyffredin pan mae llawer o law a phan mae'r tymheredd yn is.

Daeareg

Mae glaw yn llifo i lawr i'r creigiau o dan y tir. Mae rhai creigiau yn athraidd ac yn caniatáu i ddŵr lifo drwyddyn nhw. Gall arwain at lai o ddŵr wyneb. Er enghraifft, ceir afonydd sych ar dirwedd calch – dim ond pan mae hi newydd lawio mae’r afonydd yn ymddangos. Mae creigiau athraidd yn ffurfio , sy’n golygu eu bod yn storio dŵr. Mae 70 y cant o’r cyflenwad dŵr yn ne ddwyrain Lloegr yn dod o'r ddyfrhaen sialc o dan y wyneb. Mae creigiau eraill yn . Dydy'r creigiau hyn ddim yn dal dŵr, ond maen nhw'n gallu ei ddal yn yr haenau uwch eu pen.

Llygredd

Mae digon o ddŵr mewn rhai llefydd, ond nid yw’n ddiogel oherwydd llygredd. Mae heb eu trin a dŵr gwastraff o ffatrïoedd yn achosi problemau. Mae fel arfer yn fwy glân, er bod llygryddion yn gallu treiddio i lawr i’r ddaear. Mae cloddio aur ger Johannesburg yn Ne Affrica wedi arwain at wraniwm, arsenic ac asid sylffwrig yn llygru nentydd ac afonydd.

Gorechdynnu dŵr

Pan gaiff dŵr ei dynnu o ddyfrhaenau, mae lefel y dŵr daear yn gostwng. Os caiff mwy o ddŵr ei dynnu na faint o law sy’n disgyn, yw'r term a ddefnyddir ar gyfer hyn. Mae gormod o dynnu dŵr wedi bod yn niffeithdir Sonora yn Arizona, wrth i ddŵr gael ei ddefnyddio ar gyfer dyfrio a threfoli. Mae'r tir yma yn ac mae dŵr yn mynd yn fwy prin.

Isadeiledd cyfyngedig

Mae angen piblinellau i symud dŵr o le i le yn ddiogel. Mae pibellau wedi’u selio yn lleihau’r posibilrwydd o lygredd a dŵr yn gollwng. Dydy’r pibellau hyn heb gael eu gosod mewn rhai llefydd. Maen nhw’n gallu bod yn ddrud i'w gosod oherwydd bod angen eu claddu o dan y ddaear. Mae pympiau dŵr hefyd yn rhan o’r dŵr. Yn ddiweddar, gosodwyd ar bympiau dŵr mewn pentrefi yn Kenya, sy’n anfon neges os yw’r dyfeisiau’n torri.

Tlodi

Does gan bron i 1 biliwn o bobl yn Affrica ddim mynediad at ddŵr glân a diogel. Mae hyn yn golygu eu bod methu dianc o'r - allan nhw ddim fforddio dŵr felly maen nhw’n mynd yn sâl, a phan maen nhw’n mynd yn sâl, allan nhw ddim gweithio i ennill arian.

Gwleidyddiaeth

Mae angen cyfathrebu mewn gwledydd ac ar draws ffiniau. Mae angen i wledydd gydweithio i ddefnyddio adnoddau dŵr sy’n croesi ffiniau rhyngwladol. Er enghraifft, os caiff dŵr ei lygru mewn un wlad, bydd hyn yn effeithio ar yr holl wledydd i lawr yr afon.

Mae’r adnoddau dŵr sydd ar gael yn effeithio ar wleidyddiaeth dŵr, sy’n cael ei alw’n hydrowleidyddiaeth weithiau. Er enghraifft, yr Afon Nîl yw prif ffynhonnell ddŵr yr Aifft a’r Swdan. Mae’r Nîl yn cael ei hystyried yn afon ryngwladol ac mae’n llifo drwy naw o wledydd cyn cyrraedd Môr y Canoldir.

Effeithiau ar ansicrwydd dŵr

Ystyr sicrwydd dŵr yw pan mae gan boblogaeth gyfan gwlad fynediad cynaliadwy at ddigon o ddŵr sy’n lân i lefel dderbyniol. Mae llawer o sgil-effeithiau o ran ansicrwydd dŵr. Mae rhai o’r effeithiau hyn yn gysylltiedig â chylch tlodi.

Diffyg dŵr glân drwy bibellau

Mae llawer o ferched ledled Affrica yn treulio oriau yn cerdded i nôl dŵr yn hytrach na mynd i'r ysgol.

Afiechydon sy’n cael eu cario mewn dŵr

Mae yfed neu ddefnyddio dŵr budr yn rhoi pobl mewn perygl o gael fel dolur rhydd, a sgistosomiasis. Llyngyren barasitig sy’n mynd i mewn i'r corff drwy gyffwrdd dŵr sy’n cynnwys carthion heb eu trin yw sgistosomiasis. Mae cofnod o’r afiechyd mewn 78 o wledydd ac mae 90 y cant o’r bobl sy’n cael eu trin ar gyfer yr afiechyd yn byw yn Affrica.

Cynhyrchu bwyd

Gall ansicrwydd dŵr arwain at lefelau is o gynhyrchu bwyd. Mae cnydau yn gallu arwain at 400% yn fwy o gnydau. Mae gan lefydd heb ddigon o ddŵr lai o fwyd i’w fwyta.

Allbwn diwydiannol

Mae angen dŵr ar ddiwydiant ym mhob cam cynhyrchu. Caiff dŵr ei ddefnyddio fel , oerwr, dull o deithio ac, mewn rhai achosion, ffynhonnell egni. Nid yw ardaloedd sy’n wynebu ansicrwydd dŵr yn gallu cynnal ffatrïoedd a gwneud cynnyrch. Mae hyn yn golygu eu bod yn ddibynnol ar fewnforion, sy’n gallu bod yn ddrud.

Gwrthdaro

Mae dŵr yn achosi gwrthdaro mewn rhannau o'r byd. Mae meddiannu yn ffordd bwerus o reoli cyflenwad dŵr a thrydan dŵr.

Llun o’r awyr o strwythur concrit mawr, argae, o flaen corff mawr o ddŵr â mynyddoedd yn y pellter.
Image caption,
Argae Mosul yn Irac