Patrymau dŵr ledled y byd
Nid yw cyflenwadau dŵr wedi’u rhannu’n gyfartal. Mae gan rai llefydd gwarged dŵrLleoliad sydd â mwy o ddŵr na’r hyn sydd ei angen arno. ac mae diffyg dŵrLleoliad sydd â llai o ddŵr na’r hyn sydd ei angen arno. mewn llefydd eraill.
Y cyflenwad dŵr byd-eang
Mae faint o ddŵr sydd ym mhob gwlad yn amrywio. Yn gyffredinol:
- Mae gan wledydd ar y CyhydeddY llinell o gwmpas canol y Ddaear, sy’n baralel â Throfan y Cranc a Throfan yr Afr. ddigon o ddŵr. Mae’r aer yn codi yma, sy’n golygu bod lefel y glawiad yn uchel.
- Mae prinder dŵr ffisegolPan fo diffyg dŵr yn effeithio ar bawb. mewn gwledydd i’r gogledd o’r Cyhydedd (lledred tua 30°). Ystyr hyn yw nad oes digon o law. Mae’r aer yn disgyn yma, felly mae’n sych iawn.
- Mae gwledydd i’r de o’r Cyhydedd (lledred tua 30°) hefyd yn wynebu rhywfaint o prinder dŵrPan fo dŵr ffres yn brin.. Mae’n llai eithafol na’r gogledd oherwydd bod llai o dir yn hemisffer y de.
- Mae gwledydd â’r lledred uchaf (y rheini sydd bellaf oddi wrth y Cyhydedd) yn cael digon o law i ddarparu digon o ddŵr croyw.
- Ceir eithriadau i’r rheol yma mewn gwledydd sydd â dwysedd poblogaethNifer y bobl sy’n byw mewn ardal arbennig ar gyfartaledd. uchel, fel y DU, neu wledydd lle mae tlodi yn achosi prinder dŵr economaiddPan fydd dŵr yn rhy ddrud i lawer o bobl ei fforddio., fel Nigeria.
Mae faint o ddŵr sy’n cael ei ddefnyddio wedi bod yn codi ledled y byd dros amser. Mae dau brif reswm dros hyn.
Twf poblogaeth
Mae pawb angen dŵr i fyw. Dŵr sy’n gyfrifol am 60 y cant o bwysau unigolyn, ac mae ei angen ar gyfer pob un o weithredoedd y corff. Mae pobl hefyd yn defnyddio dŵr at ddibenion hylendidCadw pethau’n lân., coginio a glanhau. Mae poblogaeth y byd yn cynyddu, ond dim ond hyn a hyn o ddŵr croyw sydd ar gael i bobl ei ddefnyddio.
Datblygiad economaidd
Wrth i wledydd ddatblygu, maen nhw’n defnyddio mwy o ddŵr. Mewn gwledydd mwy cyfoethog mae dŵr yn cael ei gludo i gartrefi pobl drwy bibellau. Mae offer modern, fel peiriannau golchi llestri a pheiriannau golchi dillad, yn defnyddio llawer o ddŵr. Mae amaethyddiaeth fasnacholFfermio fel busnes., diwydiant a thwristiaeth mewn gwlad incwm uchel (HIC)Gwlad sydd ag incwm gwladol crynswth (IGC) y pen sy’n uwch na $12,476 (Banc y Byd, 2017). yn defnyddio llawer iawn o ddŵr hefyd. Mae ôl-troed dŵrY dŵr a ddefnyddir gan wlad – gan gynnwys dŵr domestig a mewnforion. HICs yn llawer uwch na gwlad incwm isel (LIC)Ar sail dosbarthiadau incwm Banc y Byd, mae gan wledydd incwm isel (low income country: LIC) incwm gwladol crynswth (IGC y pen) o $1,045 neu is.. Wrth i fwy o wledydd ddatblygu, bydd y galw am ddŵr yn cynyddu.
Ôl troed dŵr
Diffiniad ôl troed dŵr yw cyfaint y dŵr croyw sy’n cael ei ddefnyddio a’i lygru i gynhyrchu’r nwyddau a’r gwasanaethau ar gyfer defnyddwyr. Caiff ei gyfrifo drwy adio faint o ddŵr mae pobl yn ei ddefnyddio’n uniongyrchol a faint o ddŵr mae pobl yn ei ddefnyddio’n anuniongyrchol.
Astudiaeth achos – sychder yng Nghaliffornia
Talaith ar arfordir gorllewin UDA yw Califfornia. Mae’n cynnwys diffeithdir mewndirol i’r dwyrain, ond fel arfer mae digon o law i ddarparu dŵr ar hyd yr arfordir.
Mae Califfornia wedi dioddef o sychderCyfnod hir o lawiad isel sy’n creu prinder dŵr mawr. ers 2011. Mae dyfrio cnydau yn defnyddio llawer o’r cyflenwadau dŵr croyw yn yr ardal. Mae tymheredd sy’n codi, lefelau glaw sy’n gostwng a phoblogaeth sy’n tyfu hefyd yn cyfrannu at y broblem.
Mae’r lefelau dŵr daearPan fydd dŵr yn cael ei storio mewn creigiau o dan y ddaear. wedi gostwng oherwydd y sychder. Gall hyn achosi llawer o broblemau.
- ymsuddiantCwymp yn lefelau’r tir. - lefel y tir yn gostwng, sy’n difrodi eiddo.
- Dŵr môr yn ymwthio - pan mae dŵr môr yn llifo i fannau o ddŵr daear, a elwir yn dyfrhaenCronfeydd dŵr tanddaearol sy’n rhai naturiol.. Dydy pobl ddim yn gallu yfed dŵr mor oherwydd ei fod yn hallt.
- Tanau gwyllt - mae llystyfiant yn mynd yn sych iawn a gall gwres llethol, fel mellt, ei gynnau’n hawdd.
- Difrodi ecosystemYr organebau byw mewn ardal benodol, ynghyd â’r pethau yn yr amgylchedd sydd ddim yn fyw..
Does dim rheolau swyddogol sy’n atal perchnogion tai rhag pwmpio mwy o ddŵr o’r tir yng Nghaliffornia. Mae cyfyngiadau ar ddŵr daear yn cael eu hystyried ar hyn o bryd, ond ni fyddai’r rhain yn cael eu rhoi ar waith tan 2020. Tan hynny, mae pobl yn cael eu hannog i ddefnyddio llai o ddŵr.