Strategaethau i gynyddu'r cyflenwad dŵr
Wrth i boblogaeth y byd barhau i gynyddu, mae gwledydd yn dod o hyd i ffyrdd o sicrhau bod ganddyn nhw gyflenwad dŵr.
Argaeau a chronfeydd dŵr
Mae afonydd yn cludo dŵr i’r môr. Mae argaeWal goncrid fawr sy’n cael ei chodi i ddal dŵr mewn cronfa. yn rhwystro afonydd fel bod cronfaPwll o ddŵr sydd wedi cael ei greu ar gyfer storio dŵr yfed. yn casglu y tu ôl iddynt yn hytrach na llifo i ffwrdd. Mae hyn yn darparu cyflenwad dŵr yfed gydol y flwyddyn ac yn lleihau ansicrwydd dŵr, yn enwedig pan mae’r dyodiad yn dymhorol. Gall argaeau a chronfeydd dŵr atal llifogyddDŵr yn gorlifo gan foddi’r tir. hefyd, gan fod llif yr afon yn cael ei reoli, ac maen nhw'n gallu cynhyrchu trydan drwy pŵer trydan dŵrEgni’n cael ei greu gan ddŵr yn llifo’n gyflym.. Mae dros 600 o argaeau yn Affrica. Mae Argae Akosombo yn Ghana ac Argae Aswan yn yr Aifft yn ddau o’r rhai mwyaf.
Trosglwyddo dŵr
Pan mae gan wlad ddŵr dros ben mewn un ardal a phrinder dŵr mewn ardal arall, mae modd trosglwyddo cyflenwad. Gelwir hyn yn gynllun trosglwyddo dŵr. Mae argaeau yn casglu dŵr a’i storio mewn ardaloedd lle ceir llawer o law. Mae camlasDyfrffordd wedi ei gwneud gan bobl. a phibellau yn cludo’r dŵr i afonydd neu i argaeau mewn rhannau eraill o'r wlad. Ceir cynlluniau trosglwyddo dŵr mewn llawer o wahanol wledydd. Mae dinas Las Vegas yn gallu bodoli yn Niffeithdir Nevada oherwydd bod dŵr yn cael ei drosglwyddo yno. Caiff dŵr ei drosglwyddo o gronfeydd dŵr yng Nghymru i ddinasoedd ledled Lloegr yn aml. Yng Nghwm Elan yng nghanolbarth Cymru, mae cyfres o gronfeydd dŵr wedi cael eu hadeiladu’n bwrpasol i ddarparu dŵr yfed i ddinas Birmingham.
Gweithfeydd dihalwyno
Nid yw’n bosibl yfed dŵr môr oherwydd bod halen ynddo. Mae gwaith dihalwynoSafle lle caiff halen ei dynnu o ddŵr môr. yn tynnu’r halen o ddŵr môr i’w wneud yn ddiogel i’w yfed. Gallai gweithfeydd dihalwyno ddatrys llawer o faterion y byd yng nghyswllt ansicrwydd dŵr, ond mae’r broses yn ddrud ac felly nid yw’n ymarferol mewn rhai gwledydd sy’n datblygu. Mae’r DU wedi agor drysau ei chyfleusterau dihalwyno cyntaf ar Afon Tafwys. Mae’r orsaf yn tynnu'r halen o'r dŵr llanw yn Afon Tafwys i helpu’r DU yn ystod cyfnodau hir o sychder a phrinder glaw.