Cerddoriaeth a sain
Nid dram芒u cerdd yn unig sy'n defnyddio cerddoriaeth a sain. Mae cerddoriaeth fyw neu gerddoriaeth wedi ei recordio yn gallu ychwanegu llawer at gynhyrchiad dramatig. Gellir defnyddio cerddoriaeth ac effeithiau sain i:
- greu ymdeimlad ac awyrgylch
- creu tyndra
- cryfhau emosiwn neu bwysleisio'r gweithgaredd ar y llwyfan
- helpu i osod yr olygfa
- nodi newid amser neu leoliad
- canoli'r sylw ar gymeriad penodol
Pan fydd cerddoriaeth yn cael ei chwarae dan yr olygfa a'i defnyddio i greu ymdeimlad, caiff hyn ei alw'n isgerddoriaeth. Er enghraifft mewn golygfa ar ffordd unig yn y nos gallai isgerddoriaeth ac effeithiau sain brawychus helpu i greu awyrgylch o ofn.
Gwna'n si诺r fod y gerddoriaeth yn cyfoethogi dy ddrama ac nad ydy hi鈥檔 tynnu sylw o'r hyn sy'n digwydd ar y llwyfan. Mae rhai dram芒u鈥檔 gweithio'n well heb unrhyw gerddoriaeth o gwbl felly paid ag ychwanegu cerddoriaeth heb reswm da. Rhaid i gyfarwyddwr ystyried arddull ei gynhyrchiad a dethol cerddoriaeth a sain i ategu hynny. Mae rhai dramodwyr yn dweud pa gerddoriaeth maen nhw am ei defnyddio gyda'u sgriptiau. Dynododd y dramodydd, Tennessee Williams y dylid defnyddio cerddoriaeth bluesMath o gerddoriaeth Affricanaidd Americanaidd. Er bod caneuon blues yn aml yn s么n am galedi eu bwriad ydy bod yn bositif a chodi calon y gwrand盲wr. mewn sawl un o'i ddram芒u.
Mae Theatr Gorfforol yn aml yn defnyddio llawer o gerddoriaeth i gyd-fynd 芒'r gwaith symud ar y llwyfan gan ei fod yn aml yn agos iawn at ddawns. Mae hyn yn bwysig i roi egni, cyflymder a rhythm i'r gwaith.
Mewn gwaith annaturiolaidd, byddai鈥檔 bosib defnyddio cerddoriaeth yn eironig gan chwarae yn erbyn y cynnwys ar y llwyfan. Mae hyn yn dweud rhywbeth am yr hyn sy'n digwydd ar y llwyfan. Er enghraifft, os ydy cymeriad wedi gwneud penderfyniadau gwael ac yn digalonni, gallet ti ddefnyddio isgerddoriaeth sy鈥檔 cynnwys darn hapus. Byddai hyn yn enghraifft o ddefnyddio eironi i bwysleisio ei boen. Gall defnyddio cerddoriaeth yn y modd hwn fod yn dda iawn wrth greu gwaith sy'n gomig neu sy'n cynnwys 'hiwmor du'.
Enghraifft o hyn fyddai yn y ffilm Reservoir Dogs, a gyfarwyddwyd gan Quentin Tarantino, lle mae golygfa arteithio greulon wedi ei chyfosod 芒 dewis o g芒n bop hwyliog yn y cefndir, Stuck in the Middle with You.