Goleuo, lefelau a gofod
Goleuo
Mae gan oleuo amrywiaeth o swyddogaethau ar y llwyfan:
- nodi amser neu leoliad
- ei ddefnyddio'n haniaethol neu鈥檔 symbolaidd i gyfleu neges
- ei ddefnyddio i anelu sylw'r gynulleidfa at gymeriad neu weithred benodol
- creu ymdeimlad ac awyrgylch i gyfoethogi drama a phrofiad y gynulleidfa ohoni
Wrth gwrs, mae'n bwysig bod y perfformwyr yn gallu cael eu gweld yn y lle cyntaf! Mae goleuo'n faes technegol iawn ac mae'n bwysig gwybod beth mae gwahanol oleuadau'n ei wneud gan fod yr effaith sy'n cael ei greu yn wahanol i bob un. Mae'r ongl sy'n cael ei defnyddio i hongian y goleuadau yn gallu effeithio ar sut mae unrhyw gysgodion yn cael eu creu.
Darllena Dylunio theatr i ddysgu mwy am ddefnyddio gwahanol fathau o oleuadau ac am swyddogaeth y dylunydd goleuo.
Lefelau
Mae defnyddio gwahanol uchder neu lefelau ar y llwyfan yn creu diddordeb gweledol. Hefyd gall helpu i wneud yn si诺r bod y gynulleidfa'n gweld popeth sy'n digwydd. Mae modd defnyddio lefelau i awgrymu statws, sef y p诺er neu'r grym sydd gan un cymeriad dros un arall. Mae'n bwysig ystyried beth mae defnyddio lefelau'n ei awgrymu wrth lwyfannu golygfa.
Gall lefelau hefyd awgrymu gwahanol leoliadau. Er enghraifft gallai platfform uchel weithredu fel ystafell fewnol tra bo lefel y llawr o'i flaen yn cynrychioli'r stryd.
Gofod
Rydyn ni鈥檔 cyfeirio at y gofod lle mae'r actorion yn perfformio fel llwyfan. Ambell waith mae hwn yn blatfform uchel traddodiadol, ond nid bob tro. Gall fod ar yr un lefel 芒'r gynulleidfa neu hyd yn oed yn gornel neuadd neu ystafell. Mae'r math o lwyfan sy'n cael ei ddewis yn effeithio ar y berthynas sy'n cael ei chreu rhwng perfformwyr a chynulleidfa. Darllena Defnyddio'r gofod i ddysgu mwy am y gwahanol fathau o lwyfan sydd ar gael i ti.
Mae'r ffordd mae'r gofod yn cael ei ddefnyddio'n bwysig ac mae'r gofod rhwng cymeriadau ar y llwyfan yn aml yn dweud rhywbeth am eu perthynas a'u hemosiynau. Y gair am hyn ydy cynefinegY pellter rhwng dau unigolyn sy'n rhyngweithio 芒'i gilydd.. Felly mae'r ffordd mae actorion yn defnyddio'r gofod yn bwysig. Cofia hefyd fod rhai llefydd ar y llwyfan yn gryfach nag eraill ac yn tynnu sylw at yr hyn sy'n digwydd yn fwy effeithiol. Rhaid i actorion a chyfarwyddwyr ystyried hyn wrth ystyried sut i ddefnyddio'r gofod.