Set a phropiau
Dyma'r olygfa a'r celfi ar y llwyfan. Mae rhai setiau theatr yn goeth a manwl iawn, fel drama Henrik Ibsen Hedda Gabler yn Theatr Old Vic yn Llundain yn 2012.
Mae set Hedda Gabler yn cynnwys dwy ystafell mewn t欧, sef ystafell fyw gyda th芒n go iawn yn arwain at ystafell wydr. Mae'r dodrefn a'r addurniadau'n addas ar gyfer darn naturiolaidd. Mae pob manylyn wedi ei ystyried er mwyn creu byd ar y llwyfan sydd mor gredadwy 芒 phosibl.
Serch hynny, mae set syml neu minimalaiddDefnyddio cyn lleied 芒 phosib o set, propiau, gwisgoedd ayyb mewn cynhyrchiad. yn gallu bod yn effeithiol iawn a'r duedd fodern yn y theatr yw rhoi llawer llai ar y llwyfan.
Propiau
Propiau ydy'r gwrthrychau sy'n cael eu dal neu eu defnyddio gan actorion ar y llwyfan i wneud yr hyn sy'n digwydd yn fwy realistig. Gall propiau ychwanegu llawer at y ddrama. Yng nghynhyrchiad enwog y National Theatre, War Horse, roedd y ceffyl ei hun yn brop soffistigedig a oedd yn rhan annatod o lwyddiant y ddrama.
Mae rhai perfformiadau naturiolaidd yn defnyddio llawer o bropiau ond wrth lwyfannu drama dylet ti ystyried beth sydd ei angen mewn gwirionedd. Mae gormod o bropiau'n gallu bod yn anodd i'r actor eu defnyddio. Mae鈥檔 rhaid eu cludo i'r llwyfan ac oddi arno, sy'n gallu arafu'r ddrama.
Os byddi di鈥檔 defnyddio propiau wrth lwyfannu perfformiad mae'n bwysig dy fod yn dechrau eu defnyddio nhw'n gynnar yn y broses ymarfer er mwyn i actorion allu dod yn gyfarwydd 芒'u defnyddio a nodi unrhyw broblemau. Ambell waith mae'n hollol dderbyniol i feimio prop, yn dibynnu ar yr arddull theatr sy'n cael ei chreu. Neu gallet ti fod yn greadigol a dewis prop syml sy'n gallu cynrychioli llawer o bethau.
Yng nghynhyrchiad y National Theatre o The Curious Incident of the Dog in the Night-Time, mae defnyddio propiau'n rhan hanfodol o'r cynhyrchiad. Roedd y blychau gwyn ar y llwyfan yn amlbwrpas ac yn cael eu defnyddio fel set a seddi. Roedd rhai'n goleuo i gynrychioli teledu, ffwrn microdon a thanciau pysgod. Roedd un yn flwch llythyrau a chafodd un hyd yn oed ei godi i ddatgelu toiled tr锚n!