成人快手

Mygydau

Cast cynhyrchiad y National Theatre o Bacchai, yn gwisgo masgiau, 2002
Image caption,
Cast cynhyrchiad y National Theatre o Bacchai, yn gwisgo masgiau, 2002 LLUN: Manuel Harlan/National Theatre

Mae mwgwd yn cuddio rhan o'r wyneb neu'r wyneb cyfan. Dydy'r rhan fwyaf o gynyrchiadau gorllewinol ddim yn defnyddio mygydau y dyddiau hyn ond mae rhai o waith yn parhau i wneud hynny. Mewn byddai'r actorion i gyd yn gwisgo mygydau a oedd wedi eu gor-wneud i bortreadu cymeriad. Roedd y rhain wedi'u gwneud o bren neu ledr ac yn chwyddo'r llais fel bod modd clywed yr actorion yn yr Groegaidd enfawr. Drama Roegaidd sydd wedi ysbrydoli'r symbol a ddefnyddir yn aml i gynrychioli drama, sef dau fwgwd, gyda'r naill yn dangos trasiedi a'r llall yn dangos comedi.

Mae'r clip Saesneg hwn o waith y National Theatre yn esbonio pwysigrwydd mygydau mewn Theatr Roegaidd

Gwaith mwgwd y cyfnod modern

Mae rhai cwmn茂au theatr modern yn defnyddio mygydau'n rheolaidd. Roedd cynhyrchiad Punchdrunk o The Drowned Man: A Hollywood Fable, yn mynnu bod y gynulleidfa hefyd yn gwisgo mygydau. Mae cwmn茂au megis Trestle Theatre Company a Vamos Theatre hefyd yn defnyddio gwaith mwgwd.

Mae'r clip di-ddeialog hwn o gynhyrchiad Vamos Theatre o yn dangos y symudiadau corfforol mawr sydd eu hangen wrth ddefnyddio mygydau ar y llwyfan

Os byddi di鈥檔 defnyddio mwgwd wrth berfformio

  • rhaid i iaith dy gorff fod yn hynod o glir
  • mae angen gor-wneud dy symudiadau a dy ystumiau i ddangos emosiynau
  • rhaid i ti ddefnyddio dy gorff cyfan yn y perfformiad

Anawsterau wrth ddefnyddio mygydau

Mae angen bod yn ofalus wrth ddefnyddio mygydau ar y llwyfan gan fod rhaid i'r actor sicrhau bod y mwgwd yn wynebu'r blaen. Os ydy e鈥檔 wynebu cefn y llwyfan caiff y rhith ei golli. Hefyd mae angen i'r actor rannu pob ystum yn glir gyda'r gynulleidfa i wneud yn si诺r fod yr ystyr yn amlwg. Rhaid i bob perfformiwr roi a chymryd ffocws, fel bod y gynulleidfa'n gwybod ble i edrych. Mae syllu allan yn uniongyrchol ar y gynulleidfa i rannu ymateb yn cael ei alw'n 'clocio'r gynulleidfa'.

More guides on this topic

Related links