Adnabod ystyr ystumiau
Question
Edrycha ar y delweddau canlynol a meddylia beth mae pob ystum yn ei gyfleu. Yna cymhara dy atebion di 芒'r ateb enghreifftiol.
Delwedd un
Mae'r ddelwedd hon yn dangos cymeriadau mewn melodrama o Oes Fictoria. Mewn melodrama mae'r ystumiau'n gadarn ac wedi eu gor-wneud. Mae'r fenyw ar ei gliniau'n dal ei dwylo mewn ystum sy'n ymbil neu ddeisyfu. Mae'r dyn yn dangos ing a rhwystredigaeth drwy ddal ei dalcen 芒'i law, fel pe bai'n methu ag ymdopi. Mae ei law arall wedi'i hymestyn mewn ystum clir o gadw pellter a gadael llonydd.
Delwedd dau
Mae cydio'n dyner yn llaw rhywun arall yn ystum clir o gyfeillgarwch. Nid ydy e'n ysgwyd llaw yn ffurfiol felly nid trefniant busnes ydy hyn. Mae'r cymeriadau'n cyfarch ei gilydd yn gynnes wrth iddyn nhw sgwrsio. Gan fod eu cyrff yn agos at ei gilydd maen nhw'n ymddangos yn gyfarwydd 芒'i gilydd ac maen nhw鈥檔 gyfartal o ran statws. Rydyn ni'n gwybod, serch hynny, nad ydyn nhw mewn perthynas ramantaidd gan fod ysgwyd llaw yn fwy ffurfiol na chusan.