成人快手

Cyfrwng dramaGwisg, mygydau a cholur

Mae yna lawer o bethau i'w hystyried wrth baratoi i lwyfannu drama. Mae angen i ti gyfuno ystod o elfennau sy'n addas i dy broject megis gwisgoedd, iaith, sain a cherddoriaeth.

Part of DramaByd y ddrama a dylunio theatr

Gwisg, mygydau a cholur

Gwisg ydy鈥檙 hyn mae'r actorion yn ei wisgo wrth berfformio. Mae gwisg yn gallu dynodi cymeriad, cyfnod hanesyddol ac arddull y cynhyrchiad, ee neu .

Mae'n bwysig ystyried y math o wisgoedd sy'n addas ar gyfer dy waith di a hefyd pa mor hawdd ydy newid o un wisg i'r nesaf. Os wyt ti am gadw pethau鈥檔 syml galli di osgoi newidiadau gwisg diangen sy'n gallu arafu dy gynhyrchiad. Ambell waith mae ychwanegu het syml yn gallu helpu i gyfleu cymeriad, yn enwedig os ydy'r actorion yn chwarae mwy nag un rhan.

Ond os ydy drama am fod yn naturiolaidd, mae angen i'r gwisgoedd fod yn ddilys ac yn addas i'r cymeriad ac i statws a lleoliad y ddrama. Mae hyn yn golygu ymchwilio i ddillad, arddulliau, lliwiau a defnyddiau鈥檙 cyfnod. Er enghraifft yn Lloegr yn yr , roedd yn ddrud, felly dim ond y dinasyddion mwyaf cyfoethog fyddai'n gwisgo dillad lliwgar. Felly gall gwisgoedd yn aml ddangos statws cymdeithasol.

Symbolaeth mewn gwisg

Graffeg i ddangos y gwahanol ystyron y gall gwisgoedd lliw ei gael

Gallet ti ddewis gwisg i helpu i gyfleu personoliaeth cymeriad. Er enghraifft gallai cymeriad llawn bywyd wisgo cot liwgar tra bo cymeriad mwy syber neu ddifrifol yn gwisgo lliwiau tywyll.

Mae gan liw ei iaith ei hun a gellir ei ddefnyddio'n symbolaidd. Gall coch gynrychioli perygl, tra bo gwyn yn awgrymu diniweidrwydd a phurdeb. Yn oes Shakespeare byddai actor a oedd yn portreadu brenin yn gwisgo porffor brenhinol, yn symbol o sancteiddrwydd, oherwydd byddai brenhinoedd yn cael eu hystyried yn ail i neb ond Duw.

Anthony Hopkins yn chwarae rhan Hrothgar yn Beowulf, 2007
Image caption,
Anthony Hopkins yn chwarae rhan Hrothgar yn Beowulf, 2007 LLUN: Imagemovers/Shangri-La Entertainment/Warner Bros/Paramount Pictures/Ronald Grant Archive

Gall gwisgoedd helpu actor i deimlo fel y cymeriad y mae鈥檔 ei chwarae ac mae'n cael effaith fawr ar y perfformiad. Mae'r hyn rydyn ni'n ei wisgo'n effeithio ar y ffordd rydyn ni'n symud ac ambell waith ar y ffordd rydyn ni'n siarad, felly gall gwisgo'r peth cywir ein helpu ni i ddod o hyd i fanylion wrth greu.

Dau actor mewn gwisgoedd cyfnod yn dal gwydrau siamp锚n o gynhyrchiad y Barbican Theatre o The School for Scandal
Image caption,
Cynhyrchiad y Barbican Theatre o The School for Scandal, 2011 LLUN: Neil Libbert/Barbican Theatre

More guides on this topic

Related links