成人快手

Datblygu cymeriadauYmlacio a rhyddhau tyndra

Wrth ddatblygu cymeriad, meddylia am y llais, symudiadau, iaith y corff ac ystumiau. Dere o hyd i'w hamcanion a'u cymhellion, ac ymchwilia i gyd-destunau cymdeithasol, diwyllianol a hanesyddol.

Part of DramaGwaith sgript

Ymlacio a rhyddhau tyndra

Mae hyn yn dy helpu i ryddhau tyndra ac i ganfod cyflwr o niwtraliaeth sy鈥檔 fan cychwyn i greu cymeriad ohono. Bydd hefyd yn helpu gyda gwaith anadlu a chynhyrchu llais.

Gorwedda ar dy gefn, gan wneud yn si诺r dy fod yn syth. Dylet ti orwedd naill ai gyda dy freichiau wrth dy ochr neu gyda dy ddwylo鈥檔 gorwedd yn ysgafn ar dy stumog. Cau dy lygaid ond canolbwyntia. Bydda鈥檔 ymwybodol o dy anadlu dy hun ond paid 芒鈥檌 newid na鈥檌 orfodi. Teimla dy gorff yn codi a disgyn wrth i ti anadlu allan ac yn 么l i mewn. Cymera dy amser.

Nawr yn dy feddwl canolbwyntia ar dy draed, fesul un. Does dim rhaid i ti eu symud, dim ond bod yn ymwybodol ohonyn nhw. Ceisia eu hymlacio a rhyddhau unrhyw dyndra rwyt ti鈥檔 ei ddal yn dy draed neu yn dy figyrnau. Os wyt ti鈥檔 teimlo eu bod yn dynn, ceisia wasgu鈥檙 cyhyrau ac yna eu rhyddhau unwaith neu ddwy er mwyn iddyn nhw deimlo鈥檔 fwy llac a thrwm. Ceisia ryddhau. Yn araf, fesul tipyn, symuda鈥檙 ffocws i fyny dy gorff, gan barhau i fod yn ymwybodol o unrhyw dyndra rwyt ti鈥檔 ei ddal ar hyd y ffordd. Dylet ti dalu sylw penodol i ysgwyddau, gwddf a genau gan fod y rhain yn aml yn ardaloedd lle ceir cryn dyndra.

Gad i bopeth ryddhau a theimla dy hun yn suddo鈥檔 drwm i鈥檙 llawr. Dychmyga dy ben yn symud i fyny ac i ffwrdd oddi wrth dy draed fel bod dy wddf yn mynd yn hirach a dy gorff cyfan yn lledu. Yr allwedd ydy peidio ag ymdrechu, ond rhyddhau鈥檙 tyndra fesul tipyn. Pan fyddi di鈥檔 teimlo dy fod wedi ymlacio鈥檔 llwyr, rholia ar un ochr a choda gan sefyll yn syth. Symuda o gwmpas yn araf yn y cyflwr niwtral hwn. Byddi di鈥檔 edrych ac yn teimlo鈥檔 dalach!

Darlun i gynrychioli 'Cadair Boeth', o ddyn yn chwysu, yn eistedd ar gadair ar d芒n

Techneg ymarfer neu strategaeth ymchwiliol ydy cadair boeth i ddarganfod mwy am gymeriad. Mae鈥檙 actor yn cael ei holi yn ei r么l a鈥檌 orfodi i feddwl am agweddau ar fywyd neu bersonoliaeth y cymeriad nad ydyn nhw yn y sgript o bosibl. Mae鈥檔 helpu actor i ddod i adnabod y cymeriad mae鈥檔 ei chwarae a gall arwain at syniadau newydd i ymchwilio iddyn nhw yn ystod yr ymarfer. Darllena Strategaethau ymchwiliol i ddysgu mwy.

Mae鈥檙 clip Saesneg hwn o gynhyrchiad y National Theatre yn dangos yr actor Daniel Rigby yn gwneud ymarfer cadair boeth

Related links