成人快手

Datblygu cymeriadauSymudiad ac iaith y corff

Wrth ddatblygu cymeriad, meddylia am y llais, symudiadau, iaith y corff ac ystumiau. Dere o hyd i'w hamcanion a'u cymhellion, ac ymchwilia i gyd-destunau cymdeithasol, diwyllianol a hanesyddol.

Part of DramaGwaith sgript

Symudiad ac iaith y corff

Er bod mecaneg symudiadau megis cerdded, eistedd a sefyll yr un peth i bawb, rydyn ni i gyd yn gwneud y rhain yn wahanol. Mae鈥檙 ffordd rydyn ni鈥檔 symud yn dibynnu ar gyfuniad o ffactorau: arferion rydyn ni wedi eu dysgu neu eu hetifeddu, ein personoliaeth ein hun a sut mae ein nodweddion corfforol yn effeithio ar ein gweithredoedd. Wrth ddatblygu cymeriad rhaid i ti ystyried yr holl ffactorau hyn.

Mae emosiynau neu brofiadau yn cael dylanwad mawr ar symudiadau ac iaith corff cymeriad. Efallai fod gan unigolyn hyderus osgo talsyth, gydag iaith y corff yn agored a鈥檌 freichiau鈥檔 ymlacio wrth ei ochr. Gallai cymeriad llai hyderus fod yn llai syth gyda鈥檌 freichiau wedi eu croesi o鈥檌 flaen ac iaith corff sy鈥檔 fwy gofalus. Darllena Disgrifio iaith y corff i ddysgu mwy.

Llais

Os ydy 38% o gyfathrebu鈥檔 cael ei neilltuo i d么n y llais, yna mae dy ddewisiadau lleisiol wrth ddatblygu cymeriad yn hynod o bwysig. Mae t么n y llais yn bwysig achos mae鈥檔 cyfleu emosiwn. Y term cywir am y nodyn cerddorol rwyt ti鈥檔 siarad arno ydy traw. Falle bod traw uchel neu isel gan dy gymeriad ac mae amrywio鈥檙 traw yn bwysig wrth gyfleu emosiwn cymeriad. Edrycha ar Defnyddio dy lais i ddysgu mwy.

Amseru

Dydyn ni byth yn siarad ar yr un cyflymder am gyfnod hir iawn mewn bywyd go iawn. Mae pobl yn cyflymu pan fyddan nhw wedi cynhyrfu ac yn oedi ar hanner brawddeg pan fyddan nhw鈥檔 pendroni. Byddan nhw hefyd yn arafu i greu effaith wrth adrodd stori. Byddai iaith lafar yn ddiflas dros ben heb amrywiaeth mewn cyflymdra a rhythm. Cadwa hyn mewn cof pan fyddi di鈥檔 datblygu cymeriadau.

Y ciw yw鈥檙 arwydd i ti ymateb neu siarad. Rhaid i ti wybod dy linellau ciw er mwyn i ti ymateb mewn pryd neu gallai effeithio ar gyflymder dy ddrama.

Mae鈥檙 clip Saesneg hwn o gyfres Sherlock gan y 成人快手, yn dangos golygfa rhwng tri actor. Sylwa ar y ffordd mae鈥檙 amseru yn amrywio yn ystod yr olygfa a鈥檙 defnydd o seibiannau i greu effaith ddramatig.

Nodweddion penodol

Mae gan bob un ohonon ni arferion a nodweddion unigol sy鈥檔 arbennig i ni. Efallai ein bod ni鈥檔 chwarae gyda鈥檔 gwallt neu鈥檔 symud ein pwysau o un droed i鈥檙 llall. Mae鈥檔 bwysig dy fod ti鈥檔 gallu cael gwared ar unrhyw arferion sy鈥檔 perthyn i ti a allai amharu ar gymeriadu. Pan fyddi di鈥檔 datblygu cymeriad, dylet ti greu cyflwr o er mwyn gallu adeiladu arno.

Daw鈥檙 clip Saesneg hwn o raglen Arena y 成人快手 ac mae鈥檔 dangos gwahanol actorion yn portreadu golygfa enwog o ddrama Macbeth lle mae鈥檙 Arglwyddes Macbeth yn cerdded yn ei chwsg. Sylwa sut mae nodweddion y cymeriad yn newid o actor i actor.

Related links