Main content

Hannah Grace

Wrth ysgrifennu bywgraffiadau, mae'n gallu bod yn rhy hawdd cynnwys ystrydebau a gormodiaeth i ddisgrifio person mewn modd darbwyllol.

Teitl ffaith Data ffaith
Aelodau:
Hannah Grace

Oriel Lluniau

Darn yn llawn jargon sy'n cynnwys mwy o adferfau a mwy byth o gyfeiriadau at The Velvet Underground.

Y peth yw, rydych chi wedi darllen bywgraffiadau o'r blaen hefyd, ac fe wyddoch na ellir ymddiried ynddynt yn llwyr. Pe bawn i'n ysgrifennu: "Mae gan Hannah Grace lais rhyfeddol, aruthrol, unigryw. Llais a all sibrwd yn dorcalonnus i'ch enaid, gan ffrwydro fel daeargryn o hyfrda dwys", mae'n siŵr y byddech yn meddwl, "Dyma ni eto, y 'diwydiant cerddoriaeth' gyda'i iaith jargonllyd".

Ac wela' i ddim bai arnoch chi am deimlo mor sinigaidd.

Ond beth am i chi fynd ati a theipio 'Hannah Grace' a 'Meant To Be Kind' i'ch hoff chwilotwr, gwrando ar y gerddoriaeth ac ar ôl gwneud hynny, gwneud eich gorau glas i ddisgrifio eich profiad i mi. Oherwydd rydw i, yn bersonol, yn fud.

Yn y cyfamser, dyma rydyn ni'n ei wybod am Hannah. Mae'n 21 oed ac yn hanu o Ben-y-bont ar Ogwr yn Ne Cymru.

Mae sawl genre yn dylanwadu ar ei cherddoriaeth yn cynnwys cerddoriaeth werin, 'soul', jazz a phop. Sylwodd Gabrielle Aplin ar Hannah yn 2012. Yn dilyn hyn aeth ar daith gefnogi lwyddiannus gyda Gabrielle, ac ar ôl hynny, fe'i gwahoddwyd i ganu yn y cefndir i Gabrielle ar ei thaith lwyddiannus o amgylch y DU, sef English Rain yn 2013 a Glastonbury yn 2014.

Aeth Hannah yn ei blaen i ryddhau ei EP cyntaf 'Meant to be Kind' drwy gwmni recordio Never Fade Records Gabrielle Aplin ym mis Gorffennaf 2014 a chafodd ymateb cadarnhaol tu hwnt. Dewiswyd un o'r traciau o'r EP, 'Broke' gan iTunes fel 'sengl yr wythnos' yn y DU, Ffrainc, yr Iseldiroedd, yr Eidal, Norwy, y Ffindir a Denmarc.

Aeth Hannah yn ei blaen i gefnogi Hozier ar ran o'i daith Ewropeaidd ddiweddar ddiwedd 2014 ac mae bellach yn gweithio ar gerddoriaeth newydd. Mae wedi bod yn gweithio ar ei cherddoriaeth ei hun ac ar yr un pryd yn mynychu Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd lle mae'n astudio Lleisiau Jazz.

A dydy hi ddim yn swnio'n debyg i The Velvet Underground o gwbl.

Dolenni Perthnasol