Main content

Cut Ribbons

Mae Cut Ribbons o Lanelli yn gyfuniad cyffrous o wrthgyferbyniadau sonig: bachgen / merch yn cyd-ganu; caneuon epig ond agos atoch; cerddoriaeth bop athrylithgar dros seiniau atmosfferig. Mae'n "indi-pop" ond ar ei newydd wedd.

Teitl ffaith Data ffaith
Aelodau:
Aled Rees (Llais / Gitâr), Lluan Bowen (Llais), Christian James (Gitâr), Ray Thomas (Drymiau)

Mae dau EP a senglau'r band hyd yma, ar y label recordio adnabyddus, Kissability, wedi ennill cefnogaeth frwd iddynt gan Radio 1, XFM, Radio Wales, The Line Of Best Fit a chylchgrawn Clash.

Mae wedi treulio'r ddwy flynedd diwethaf yn perfformio ei anthemau chwerw felys, llifeiriol o flaen cynulleidfaoedd brwd, gan deithio gyda bandiau fel Thumpers, The Fratellis a The Joy Formidable.

Mae aelodau'r band yn disgrifio eu sengl newydd, 'Clouds' fel yr M83 yn cael brwydr bwyd mewn ffilm 'Technicolor'. Mae'r disgrifiad hwn yn taro'r hoelen ar ei phen. Mae eu sain yn gyfiawn, yn fywiog ac yn ddigywilydd ac mae'n ymestyn y tu hwnt i fywyd yn eu tref enedigol.

Mae albwm cyntaf y band ar fin cael ei ryddhau'r haf hwn.

Dolenni Perthnasol