Main content

Aled Rheon

Mae caneuon gwerin prydferth ac oesol Aled Rheon yn gyfansoddiadau twyllodrus o syml a ddaw yn uniongyrchol o'r galon.

Teitl ffaith Data ffaith
Aelodau:
Aled Rheon

Oriel Luniau

Mae mawredd distaw ac unigryw yn perthyn i'w gerddoriaeth, trwbadŵr sy'n disgyn yn uniongyrchol o eiliadau mwy myfyriol Meic Stevens, Nick Drake ar ei fwyaf moel, a recordiadau unigol Richard James.

Yn ôl Aled, sy'n hanu o Gaerdydd, drwy Gaerfyrddin a Llundain, ac sy'n perfformio yn ei famiaith ac yn Saesneg, mae plentyndod a dreuliwyd yng nghefn gwlad Cymru a'i brofiad o gariad a bywyd yn y brifddinas yn dylanwadu ar ei gerddoriaeth.

Rhyddhaodd Aled ei EP cyntaf, sef 'Sêr yn Disgyn' yn 2013 a chafodd hwnnw gryn gymeradwyaeth. Ar 'Sêr yn Disgyn', a gafodd ei recordio yn Stiwdios Seindon yn Nghaerdydd a'i gynhyrchu gan Osian Gwynedd (Sibrydion), gweithiodd Aled gyda nifer o gerddorion gorau Cymru, yn cynnwys Gareth Bonello o The Gentle Good, Greta Isaac (The People The Poet), Dan Lawrence (Olion Byw) a chymysgwyd yr EP gan Cian Ciarán (Super Furry Animals).

Ac yntau'n awyddus i ddatblygu a meistroli ei sgiliau fel perfformiwr, treuliodd Aled y rhan fwyaf o 2014 yn canolbwyntio ar chwarae'n fyw. Roedd hyn yn cynnwys perfformiadau yn FOCUS Cymru, Gŵyl Pili Pala, The Big Cwtch, Tafwyl, yr Eisteddfod Genedlaethol, Gŵyl y Gelli a Gŵyl y Dyn Gwyrdd.

Mae Aled wrthi'n gweithio ar ddeunydd newydd i'w ryddhau yn 2015.

Dolenni Perthnasol