Yr Eira
Mae Yr Eira o Fangor yn ymosod ar y templed a gr毛wyd gan fandiau fel Big Leaves, Yr Ods a S诺nami gyda'i gitarau deintiog a chyflenwad di-dor o alawon tanbaid.
Teitl ffaith | Data ffaith |
---|---|
Aelodau: |
Lewys Wyn Jones (llais/ Git芒r), Guto Gwyn Howells (Drymiau), Ifan Sion Davies (Git芒r), Trystan Huw Thomas (Bas)
|
Sain a Fideo
Oriel Digwyddiadau
Oriel Lluniau
Mae'r band yr un mor fywiog â'r Two Door Cinema Club cynnar, ac os mai S诺nami yw'r Beatles Cymraeg, Yr Eira yw Rolling Stones y Sîn Roc Gymraeg. Neu a ddylai hynny fod i'r gwrthwyneb? Y naill ffordd neu'r llall, mae Yr Eira wedi darparu seiniau cofiadwy ar gyfer llu o ddefodau ledled Cymru yn y ddwy flynedd ers iddo ffurfio.
Enillodd y band Frwydr y Bandiau G诺yl Wakestock yn 2013 gan berfformio i gynulleidfa frwd ym Maes B a theithio gyda S诺nami a Candelas.
Mae dwy sengl ac EP y band ar gyfer Recordiau IkaChing wedi cael eu croesawu a'u dathlu gan y radio fel y meibion afradlon. Cafodd y gân bop berffaith 'Elin' ei henwebu am gân y flwyddyn yng ngwobrau cerddoriaeth cylchgrawn Selar 2013. Chwaraeodd Huw Stephens 'Trysor' ar ei sioe ddylanwadol ar Radio 1. Ac enwebwyd y band hefyd am ragor o wobrau Selar yn 2014 (band y flwyddyn, EP gorau, cân orau).
Ddylai'r storm eira hon o gymeradwyaeth a gweithgarwch ddim cuddio'r ffaith bod rhai symudiadau eang iawn ymhlith rhai o'r alawon pob bachog hyn, yn bennaf, y gitâr gwyllt ar ddiwedd Ymollwng.
Storm "Eira" yng ngwir ystyr y gair.