HMS Morris
Mae HMS Morris yn deall yn gynhenid bod yn well datgelu llai, a bod cuddio rhywbeth yn rhannol yn ei wneud yn fwy hudolus.
Teitl ffaith | Data ffaith |
---|---|
Aelodau: |
Heledd Watkins (llais/ Gitâr/ Synths), Sam Roberts (Bas/ Synth/ Loops/ Llais Cefndir), Wil Roberts (Drymiau)
|
Sain a Fideo
Oriel Lluniau
Dychmygwch hwylio ar fôr anghyfarwydd, yn ceisio dilyn Will-o'-the Wisps drwy niwl ysbeidiol, yn wynebu'r perygl y bydd corff y llong yn torri yn erbyn y creigiau miniog o dan yr wyneb. Wel, dyna sut mae HMS Morris yn swnio.
Mae sain y band yn gerddoriaeth bop hefyd; yn enwedig os tybiwch chi fod albwm cyntaf Syd Barrett yn gerddoriaeth bop (mae dirgryniadau seicedelig yn rhan o ymylon aneglur HMS Morris).
Ac mae syntheseiswyr aml-ddimensiwn gogoneddus a niwlog yn chwarae hefyd. Ond mewn ffordd wahanol i sut mae pawb arall yn defnyddio syntheseiswyr ar hyn o bryd, i brocio atgofion o'r 80au. Mae'r synths hyn yn swnio fel pe baent wedi cael eu dwyn o un o albymau da 'Yes'. Mae hyn yn ganmoliaeth fawr, credwch fi.
Mae'r cyfan yn canolbwyntio ar lais melodaidd Heledd Watkins. Mae'n hyfryd gwrando ar y llais hwnnw. Mae'n llais sy'n eich cyfareddu o'r eiliad gyntaf. Dydy'r llais ddim yn ceisio'n rhy galed i greu argraff arnoch chi, ond mae'n llwyddo i wneud hynny rywsut - llais soniarus, hudolus a melodaidd.
Daw Heledd o Lanymddyfri ac mae ei chriw ar fwrdd yr HMS Morris yn cynnwys Sam a Wil Roberts o Lanelwy.
Mae Heledd wedi treulio rhywfaint o'r ddwy flynedd diwethaf yn chwarae'r gitâr fas ar daith gyda Emmy the Great a Chloe Howl. Roedd Sam a Wil yn rhan o'r band gwych, Mwsog (na chafodd ei werthfawrogi ddigon). HMS Morris yw eu blaenoriaeth ar hyn o bryd, sy'n newyddion gwych i ni.