Main content

Anna Tilbrook

Song Prize Jury

Anna Tilbrook has collaborated with many leading singers and instrumentalists including James Gilchrist, Ian Bostridge, Lucy Crowe, Mary Bevan, Sophie Bevan, Barbara Hannigan, Sir John Tomlinson, Nicholas Daniel, Michael Collins, Natalie Clein, Chloe Hanslip, Guy Johnston, Jess Gillam and the Fitzwilliam, Carducci, Sacconi, Elias, Navarra and Barbirolli string quartets. Since her 1999 Wigmore Hall debut, Anna has become a regular artist at many major concert halls and festivals and frequently broadcasts for 成人快手 Radio 3. She has also accompanied José Carreras, Angela Gheorghiu and Bryn Terfel in televised concerts.

Recent performances include at Concertgebouw Amsterdam and Carnegie Hall New York, Wigmore Hall, St John’s Smith Square, De Singel Antwerp, Alte Oper Frankfurt, appearances at the Edinburgh, Aldeburgh, Cheltenham, Oxford Lieder, West Cork and Savannah (Georgia) Chamber Music festivals. She has curated various series of concerts for the 成人快手.

In 2022 Anna and James Gilchrist celebrated 25 years as a duo partnership. They have made a series of acclaimed recordings of English song, the Schubert and Schumann song cycles, the songs and chamber music of Vaughan Williams and most recently Solitude, settings of Purcell, Schubert, Barber and a cycle written for James and Anna by Jonathan Dove. In 2021 Lucy Crowe and Anna marked 20 years of working together by releasing their disc Longing featuring Lieder by Strauss, Berg and Schoenberg.

Anna also teaches at the Royal Academy of Music and University of Oxford.

When away from the piano, Anna can normally be found watching cricket, playing tennis, having a gin and tonic or eating a curry.

Anna Tilbrook

Rheithgor Gwobr y Gân

Mae Anna Tilbrook wedi cydweithio â llawer o gantorion ac offerynwyr blaenllaw, gan gynnwys James Gilchrist, Ian Bostridge, Lucy Crowe, Mary Bevan, Sophie Bevan, Barbara Hannigan, Syr John Tomlinson, Nicholas Daniel, Michael Collins, Natalie Clein, Chloe Hanslip, Guy Johnston, Jess Gillam a phedwarawdau llinynnol Fitzwilliam, Carducci, Sacconi, Elias, Navarra a Barbirolli. Ers ei hymddangosiad cyntaf yn Neuadd Wigmore yn 1999, mae Anna bellach yn artist rheolaidd mewn nifer o neuaddau cyngerdd a gwyliau mawr, ac mae’n darlledu’n rheolaidd ar gyfer 成人快手 Radio 3. Mae hefyd wedi cyfeilio i José Carreras, Angela Gheorghiu a Bryn Terfel mewn cyngherddau ar y teledu.

Mae ei pherfformiadau diweddar yn cynnwys rhai yn y Concertgebouw yn Amsterdam a'r Carnegie Hall yn Efrog Newydd, Wigmore Hall, St John’s yn Smith Square, De Singel Antwerp, Alte Oper Frankfurt, ac ymddangosiadau yng ngwyliau Caeredin, Aldeburgh, Cheltenham, Lieder Rhydychen, Gorllewin Cork a G诺yl Cerddoriaeth Siambr Savannah (Georgia). Mae hi wedi curadu cyfresi amrywiol o gyngherddau ar gyfer y 成人快手.

Yn 2022, dathlodd Anna a James Gilchrist 25 mlynedd fel deuawd mewn partneriaeth. Maen nhw wedi rhyddhau cyfres o recordiadau clodfawr o ganeuon Saesneg, cylchoedd o ganeuon gan Schubert a Schumann, caneuon a cherddoriaeth siambr Vaughan Williams, a'r diweddaraf yw Solitude, gosodiadau o waith Purcell, Schubert, Barber a chylch a gyfansoddwyd ar gyfer James ac Anna gan Jonathan Dove. Yn 2021, nododd Anna a Lucy Crowe 20 mlynedd o gydweithio drwy ryddhau eu disg, Longing, sy’n cynnwys Lieder gan Strauss, Berg a Schoenberg.

Mae Anna hefyd yn dysgu yn yr Academi Gerdd Frenhinol ac ym Mhrifysgol Rhydychen.

Pan nad yw wrth y piano, mae Anna yn mwynhau gwylio criced, chwarae tennis, yfed jin a thonig a bwyta cyri.