Main content

Errollyn Wallen

Both juries

Errollyn Wallen CBE is a multi-award-winning Belize-born British composer. Her prolific output includes over twenty operas and a large catalogue of orchestral, chamber and vocal works, which are performed and broadcast throughout the world. She has composed for the opening ceremony of the Paralympic Games 2012, for the Queen’s Golden and Diamond Jubilees, a specially commissioned song for COP 26 in 2021, and a re-imagining of Jerusalem for the Last Night of the Proms 2020. 成人快手 Radio 3 featured her music across the first week of 2022 for Composer of the Week, and she has made several radio documentaries including Classical Commonwealth, nominated for the Prix Europa.

Errollyn collaborated with artist Sonia Boyce on her installation, Feeling Her Way, for the British Pavilion at the 2022 Venice Biennale, which won the Golden Lion prize. Her critically-acclaimed opera, Dido’s Ghost, was premiered at the Barbican in 2021 and will receive its US première in San Francisco in November.

Forthcoming works include a violin concerto, Dances for Orchestra for Scottish Chamber Orchestra and a song cycle for Dame Sarah Connolly. Her book, Becoming a Composer, will be published by Faber this year.

Errollyn Wallen composes in a Scottish lighthouse and her recordings have travelled 7.84 million km in space, completing 186 orbits around the Earth on NASA’s STS-115 mission.

Errollyn Wallen

Y ddau reithgor

Mae Errollyn Wallen CBE yn gyfansoddwr Prydeinig a aned yn Belize sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae ei hallbwn toreithiog yn cynnwys dros ugain opera a chatalog mawr o weithiau cerddorfaol, siambr a lleisiol, sy’n cael eu perfformio a’u darlledu ledled y byd. Mae hi wedi cyfansoddi ar gyfer seremoni agoriadol Gemau Paralympaidd 2012, ar gyfer Jiwbilî Aur a Diemwnt y Frenhines, cân a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer COP 26 yn 2021, ac ailddychmygiad o Jerusalem ar gyfer Noson Olaf y Proms 2020. Fe wnaeth 成人快手 Radio 3 chwarae ei cherddoriaeth yn ystod wythnos gyntaf 2022 fel Cyfansoddwr yr Wythnos, ac mae wedi gwneud nifer o raglenni dogfen ar gyfer y radio, gan gynnwys Classical Commonwealth, a enwebwyd ar gyfer y Prix Europa.

Cydweithiodd Errollyn gyda'r artist Sonia Boyce ar ei gosodiad, Feeling Her Way, ar gyfer y British Pavilion yn La Biennale de Venezia yn 2022, a enillodd wobr y Llew Aur. Cafodd ei hopera nodedig, Dido’s Ghost, ei berfformio am y tro cyntaf erioed yn y Barbican yn 2021, a bydd yn cael ei berfformio am y tro cyntaf yn yr Unol Daleithiau yn San Francisco ym mis Tachwedd.

Mae'r gweithiau sydd ar y gweill ganddi yn cynnwys concerto i’r ffidil, Dances for Orchestra ar gyfer Cerddorfa Siambr yr Alban, a chylch o ganeuon ar gyfer y Fonesig Sarah Connolly. Bydd ei llyfr, Becoming a Composer, yn cael ei gyhoeddi gan Faber eleni.

Mae Errollyn Wallen yn cyfansoddi mewn goleudy yn yr Alban ac mae ei recordiadau wedi teithio 7.84 miliwn o gilometrau yn y gofod, gan gwblhau 186 cylchdro o amgylch y Ddaear ar daith STS-115 NASA.