John Gilhooly
Chair, Song Prize jury
John Gilhooly is Director of Wigmore Hall in London. At the time of his appointment in 2005, aged 32, he became the youngest director of any leading concert hall. He programmes the largest chamber music and vocal programme in the world, presenting over 500 concerts each season.
Since 2010, John has been Chairman of the Royal Philharmonic Society, the UK’s oldest musical society, responsible for administering classical music’s most prestigious honours and awards. He has served on numerous international competition juries. He was an outspoken advocate for the importance of live performance during the coronavirus pandemic, and initiated the gradual return to concerts through live streaming from an empty Wigmore Hall in a landmark series in June 2020. He was awarded CBE in recognition of his services to music in the 2022 New Year Honours.
Born in Limerick, John grow up in an environment steeped in Irish music, chamber music and opera. He studied singing with Veronica Dunne whilst pursuing his degree in history and politics at University College Dublin.
Recognising his contribution to promoting European classical music in the UK, Gilhooly was made Knight of the Order of the White Rose of Finland and is a recipient of the Austrian Cross of Honour for Science and Art, the Order of the Star of Italy, and the German Order of Merit, Germany’s highest civilian honour. He is Honorary Fellow of the Royal Academy of Music, the Guildhall School of Music and Drama, the Royal Irish Academy of Music and is Honorary Member of the Royal College of Music.
John Gilhooly
Cadeirydd, rheithgor Gwobr y Gân
John Gilhooly yw Cyfarwyddwr Neuadd Wigmore yn Llundain. Pan gafodd ei benodi yn 2005, ac yntau ond yn 32 oed, ef oedd cyfarwyddwr ieuengaf unrhyw neuadd gyngerdd flaenllaw. Mae’n gyfrifol am y rhaglen fwyaf o gerddoriaeth siambr a lleisiol yn y byd, gan gyflwyno dros 500 o gyngherddau bob tymor.
Ers 2010, mae John wedi bod yn Gadeirydd y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol, cymdeithas gerddorol hynaf y DU, gyda chyfrifoldeb dros weinyddu’r anrhydeddau a'r gwobrau uchaf eu bri ym myd cerddoriaeth glasurol. Mae wedi gwasanaethu ar sawl rheithgor mewn cystadlaethau rhyngwladol. Roedd yn eiriolwr brwd dros bwysigrwydd perfformiadau byw yn ystod pandemig y coronafeirws, a dechreuodd y dychweliad graddol at gyngherddau drwy ffrydio’n fyw o Neuadd Wigmore wag mewn cyfres nodedig ym mis Mehefin 2020. Cyflwynwyd CBE iddo i gydnabod ei wasanaethau i gerddoriaeth yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn 2022.
Ganed John yn Limerick, ac fe gafodd ei fagu mewn amgylchedd a oedd yn gyforiog o gerddoriaeth Wyddelig, cerddoriaeth siambr ac opera. Astudiodd ganu gyda Veronica Dunne tra oedd yn astudio gradd mewn hanes a gwleidyddiaeth yng Ngholeg Prifysgol Dulyn.
Gan gydnabod ei gyfraniad at hyrwyddo cerddoriaeth glasurol Ewropeaidd yn y DU, cafodd Gilhooly ei wneud yn Farchog Urdd Rhosyn Gwyn y Ffindir ac mae wedi derbyn Croes Anrhydedd Awstria am Gelfyddyd a Gwyddoniaeth, Urdd Seren yr Eidal, ac Urdd Teilyngdod yr Almaen, sef yr anrhydedd uchaf i ddinasyddion yn yr Almaen. Mae’n Gymrawd Anrhydeddus yr Academi Gerdd Frenhinol, Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall ac Academi Gerdd Frenhinol Iwerddon, ac yn Aelod Anrhydeddus o’r Coleg Cerdd Brenhinol.