Aidan Lang
Chair, main prize
Aidan Lang began his career as a Staff Director at Glyndebourne, before joining Welsh National Opera. In 1990, he was appointed as the first Artistic Director of Opera Zuid in the Netherlands, where his productions included Werther, Ariadne auf Naxos, Don Giovanni and The Cunning Little Vixen. Concurrent with this, he was Director of Production at Glyndebourne Touring Opera where operas he directed included La bohème and the British première of Cornet Christoph Rilke's Song of Love and Death by Siegfried Matthus.
Between 2000-2006, he was Artistic Director of the Buxton Festival, and was also busy as a freelance director working around the world, including the first Brazilian production of Wagner's Ring at the historic Teatro Amazonas in Manaus. Other noted productions include Monteverdi's Il ritorno d'Ulisse in patria (Lisbon), The Turn of the Screw (Salzburg) and the British première of The Magic Fountain by Delius (Scottish Opera).
In 2006, he became General Director of New Zealand Opera, until 2014, when he moved to the US to become General Director of Seattle Opera. His tenure in Seattle saw a large growth of younger opera-goers, along with the development and opening of a new $60m opera centre which houses all of Seattle Opera’s operations.
In July 2019, he returned to Welsh National Opera as its General Director.
Aidan Lang
Cadeirydd, prif wobr
Dechreuodd Aidan Lang ei yrfa fel Cyfarwyddwr Staff yn Glyndebourne, cyn ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru. Yn 1990, cafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Artistig cyntaf Opera Zuid yn yr Iseldiroedd, lle roedd ei gynyrchiadau’n cynnwys Werther, Ariadne auf Naxos, Don Giovanni a'r Llwynoges Fach Gyfrwys. Ar yr un pryd â hyn, roedd yn Gyfarwyddwr Cynhyrchu gydag Opera Teithiol Glyndebourne ac roedd yr operâu a gyfarwyddwyd ganddo yn cynnwys La bohème a’r perfformiad cyntaf erioed ym Mhrydain o Cornet Christoph Rilke's Song of Love and Death gan Siegfried Matthus.
Rhwng 2000 a 2006, ef oedd Cyfarwyddwr Artistig G诺yl Buxton, ac roedd hefyd yn brysur fel cyfarwyddwr llawrydd yn gweithio ar gynyrchiadau ym mhob cwr o'r byd, gan gynnwys y cynhyrchiad cyntaf o Ring gan Wagner ym Mrasil, yn adeilad hanesyddol Teatro Amazonas ym Manaus. Mae ei gynyrchiadau nodedig eraill yn cynnwys Il ritorno d'Ulisse in patria gan Monteverdi (Lisboa), The Turn of the Screw (Salzburg) a’r perfformiad cyntaf erioed ym Mhrydain o The Magic Fountain gan Delius (Opera'r Alban).
Yn 2006, daeth yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Opera Seland Newydd a bu yno tan 2014, pan symudodd i’r Unol Daleithiau i ddod yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Opera Seattle. Yn ystod ei gyfnod yn Seattle, gwelwyd twf mawr yn nifer y bobl ifanc a oedd yn mynd i operâu, ac fe ddatblygwyd ac agorwyd canolfan opera newydd gwerth $60m, sy’n gartref i holl weithrediadau Opera Seattle.
Ym mis Gorffennaf 2019, dychwelodd i Opera Cenedlaethol Cymru fel Cyfarwyddwr Cyffredinol.