Main content

Anelog

Anelog, o Ddinbych, yw un o'r bandiau newydd mwyaf diddorol yng Nghymru. Mae’n bur anodd rhoi cerddoriaeth y band mewn un categori penodol, gydag arddull disgo electro ‘Retro Party’ yn galw Hot Chip i gof, a ‘Siabod’ yn cynnig ansawdd synth analog moethus, melodïau gwerinaidd a harmonïau hudolus.

Fact title Fact data
Artistiaid:
Danny Cattell, Sam Cattell, Alfie Cattell, Lois Rogers, Sion Rogers
Arddull:
Pop Seicedelig
O:
Dinbych

Cân sy’n cael ei henw gan fynydd mawreddog yn Eryri, mae Siabod yn seicedelig ond yn urddasol ar yr un pryd. Mae hefyd yn enghraifft amlwg o sut mae daearyddiaeth Cymru - ac yn enwedig harddwch bryniog Sir Ddinbych - wedi ysbrydoli eu cerddoriaeth.

Mae eu sain yn debyg i Air, pe bai Air wedi tyfu i fyny yn Ninbych yn hytrach na Pharis; Gweithdy Radioffonig y ³ÉÈË¿ìÊÖ pe bai hwnnw wedi cael ei sefydlu ym Mhentrefoelas, a / neu M83 ar gyfer y rhosydd dirgel ac iasol sy’n cysylltu gogledd ddwyrain Cymru ag Eryri.

Mae Radio 1, 6Music, ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Wales a C2 wedi chwarae caneuon Anelog ac wedi bod yn frwd eu cefnogaeth dros y band.

Dydy enw’r band ddim wedi ei ysbrydoli gan eu hoffter o hen syntheseiswyr, ond yn hytrach gan y pentref o’r un enw ar Benrhyn LlÅ·n.

MORE ANELOG