Tibet
Cyn gynted ag y mae beirniaid a sylwebwyr yn dechrau galaru o achos marwolaeth y git芒r unwaith eto, mae band gwych 芒 gitarau yn ei wreiddiau yn ymddangos ac yn ennyn cyffro pob un ohonom ni sydd 芒 mwy o ddiddordeb mewn gwrando ar ganeuon gwerth chweil na rhagfynegiadau arwynebol.
Fact title | Fact data |
---|---|
Artistiaid: |
Joel Hertz , Ethan Hertz, Tom Rees, Rhys Carey
|
Arddull: |
Roc Indie
|
O: |
Caerdydd
|
Mae Tibet, o Gaerdydd, yn un o’r bandiau hynny. Mae caneuon egnïol a swynol y band - Kinks i’r 3ydd mileniwm - wedi ennyn cefnogaeth frwd ar Radio 1 a Radio X.
Mae dau o aelodau’r band - Joel ac Ethan Hertz - yn frodyr, sydd bob amser yn ychwanegu naws ddifyr at bethau.
Cafodd Tibet ei enw o linell yn Twin Peaks ac, yn briodol, does dim byd yn Tibet fel y mae’n ymddangos. Pan rydych chi ar fin meddwl bod y band, fel sawl un o’i flaen, yn ceisio dod â'r 60au yn ôl yn fyw, mae newid annisgwyl neu dro yng ngeiriau’r gân sydd yn sicr wedi ei ddylanwadu gan y byd cyfoes o’n cwmpas.