We鈥檙e No Heroes
We鈥檙e No Heroes yw'r plant indi oedd ag awydd cyfrinachol erioed am y recordiau disgo a gynhyrchwyd gan Nile Rodgers oedd yn perthyn i'w rhieni. Maen nhw wedi bod yn gwneud i bobl ddisymud s卯n gerddoriaeth Gaerdydd ddawnsio dros y blynyddoedd diwethaf, gan gyfuno Chic, Liquid Liquid, Friendly Fires, Jungle ac amryw byd o felod茂au disglair gyda chanlyniad llesmeiriol.
Fact title | Fact data |
---|---|
Artistiaid: |
Luke Llewellyn, Michael Owen, Tom Collins
|
Arddull: |
Indie Disco
|
O: |
Caerdydd
|
Am resymau nad ydynt yn amlwg ar hyn o bryd, ffurfiodd y triawd hwn, sydd bellach wedi eu lleoli yng Nghaerdydd, yn Chicago.
Maen nhw’n debycach i'r synau a ysbrydolwyd gan DFA oedd i'w clywed ym mlynyddoedd cyntaf y mileniwm (The Rapture, Radio 4 a’u tebyg) na llawer o’u cyfoeswyr, ac mae’n chwa o awyr iach cael band sy’n anelu eu cerddoriaeth at y traed cymaint ag y mae wedi ei hanelu at y galon a’r ymennydd.
Er mai ar y llawr dawns mae'r ffocws, mae caneuon We’re No Heroes yn sicr yn ganeuon yn hytrach na siantau. Mae’r geiriau yn trafod yr agweddau tywyllaf ar fywyd, gan roi urddas go iawn i'w cerddoriaeth.
Mae We're No Heroes wedi rhannu llwyfan â Peace, Public Service Broadcasting, Catfish and the Bottlemen a Future of the Left. Druan â’u holynwyr ar y llwyfan!