Cestyll
Mae rhywbeth rhyfedd a grymus ar droed ar fryniau Eryri. Mae cerddoriaeth Cestyll yn rhywbeth rhwng Syd Barrett, Os Mutantes ac Ennio Morricone, caneuon seicadelig a swynol a fyddai鈥檔 cyd-fynd yn berffaith 芒 ffilm annibynnol ychydig yn wahanol i鈥檙 arfer wedi鈥檌 leoli ym mynyddoedd gogledd Cymru.
Fact title | Fact data |
---|---|
Artistiaid: |
Dion Hamer, Cynyr Hamer, Calvin Thomas
|
Arddull: |
Amgen, Seicedelig, Roc, Indie, Electro
|
O: |
Rhosgadfan
|
Ffurfiodd y brodyr Dion a Cynyr Hamer y band nôl yn 2008. Erbyn hyn mae Calvin Thomas wedi ymuno â nhw i chwarae gitâr bas.
Cafodd eu demos a’u senglau dwbl Cymraeg diweddar (‘Argau’ ac ‘Ar Agor’), eu chwarae a’u canmol i’r cymylau ar 6Music, 成人快手 Radio Wales a 成人快手 Radio Cymru. Mae yna bobl ddiflas sy’n meddwl nad oes unrhyw beth newydd i’w glywed, a bod cerddoriaeth bop a roc mewn cylch cythreulig o hen syniadau’n cael eu hailgylchu a’u cyflwyno fel rhywbeth newydd. Mae Castles yn eu profi nhw’n gwbl anghywir.
A’r eironi ydy, er bod enw’r band yn galw hanes mawreddog i gof, Castles yw sain y dyfodol.