Reuel Elijah
Efallai y byddai鈥檙 rheini y mae cerddoriaeth Gymreig yn ddiarth iddynt yn synnu wrth weld s卯n gerddoriaeth drefol ffyniannus yng Nghaerdydd, ond mae鈥檙 raddfa lawn, sy鈥檔 amrywio o grime i R&B tyner, i'w chlywed yn uchel ar strydoedd y ddinas.
Fact title | Fact data |
---|---|
Arddull: |
R&B, Hip-Hop
|
O: |
Caerdydd
|
Mae Reuel Elijah yn un o sêr mwyaf addawol y ddinas heb os nac oni bai. Dim ond 19 oed yw ef, ond mae eisoes wedi ennill ei blwyf fel diddanwr. Mae wedi bod yn rhan o griw dawnsio stryd byd enwog ‘Jukebox’, ac wedi ymddangos ar sioeau teledu megis The Slammer, Children in Need a Got To Dance.
Mae’r dyhead hwnnw i berfformio a chyfareddu cynulleidfa yn rhan amlwg o’i gerddoriaeth hefyd. Gwyliodd filoedd o bobl ei fersiwn ef o ‘Girls Love Beyonce’ gan Drake ar YouTube mewn ychydig ddyddiau, ac mae R&B soffistigedig a swynol Drake yn llathen fesur i gerddoriaeth Reuel ei hun.
Mae wedi perfformio ar lwyfannau mor amrywiol â llwyfan 成人快手 Horizons yn Festival X Caerdydd, ac wedi cefnogi Stormzy yn Ayia Napa yng Ngroeg.
Mae uchelgeisiau Reuel Elijah yn bellgyrhaeddol a’i gerddoriaeth yn goeth ac yn hawdd gwrando arni. Dyn ifanc gyda dyfodol disglair dros ben.