Main content

Cerddi Rownd 1

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Pennill yn rhoi sglein gadarnhaol ar un o benawdau’r newyddion

Y Llewod Cochion

Codwn wydrau i'n marchogion
Gwerthfawrogwn eu hymdrechion
(A bydd lluniau yn reit handi
I anghofio'r 'parties dodgy').

Iwan Wyn Parry 8

Aberhafren

Rhai glew yw’r Adar Gleision,
eu cynnydd sy’n ddi-stop,
maen nhw lan ym mhen y lîg
’mond ugain lle o’r top!

Aron Pritchard 8.5

Cynigion ychwanegol

Milfeddygol o goleg - yfory
Ei fawredd yw'r adeg
Down yn rhydd, bob dydd drwy deg
Oes y cael yw'n seicoleg.

2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw ddiod

Y Llewod Cochion

(Hysbyseb trin hangover)
Yfwch de’n y bore bach
I foddi pob cyfeddach.

Gwerfyl Price 8.5

Aberhafren

A gawn ein Hawst o ganu,
llawn byrgyrs a largyrs lu?

Mari George 8.5

Cynigion ychwanegol

Wrth ’styried y cwpled caeth,
daw gwin i wneud gwahaniaeth!

Os achwyn a wna syched
Manna’n wir yw lemonêd.!

‘Latte oer yn lle Flat White!’
Digiodd Ieuan Vendigeit.

Yn warth, ond waeth ni chwerthin
A jawch, cofiwch ddod â’r gin

Yn goron i’n magwraeth
Waeth pwy – yw bwyd llwy a llaeth

Mae gennym awr amgenach
Yng nghwmni y 'butty' bach.

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae rhai yn ei alw yn ffobia’

Y Llewod Cochion

Mae rhai yn ei alw yn "ffobia"
Neu "ofn", "dwi'm yn licio" ,"llai'm diodda'"
C诺n, cathod , bo-bo
Na neidr ar ffo
Ond beryg mai Boris di'r gwaetha'

Mair Tomos Ifans 8.5

Aberhafren

Mae’n gas gen i bob torrwr gwalltia,
mae rhai yn ei alw yn ffobia;
ond os collaf fy mwng
bydd fy mysls fel sbwng...
ai siswrn yw hwnna Delila?

Llion Pryderi Roberts 8.5

Cynigion ychwanegol

Mae rhai yn ei alw yn ffobia
Pob nos Sul, am saith, dwi'n o bethma,
Daw drostaf ryw rash
O'm sawdl i'm tash,
Wel mash..wr mod i ofn y limriga'.

De Pfeffel, ai effaith rhyw drawma,
mae rhai yn ei alw yn ffobia,
yw ofni’r gwirionedd
wrth rwdlio’n y Senedd?
Dim peryg, jest joio dweud c’lwydda!

Y mwya heb os o’m gwendida,
mae rhai yn ei alw yn ffobia,
yw ofn newid odla
ar ganol limriga;
bydd raid imi weithio ar hwnna.

4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Apêl

Y Llewod Cochion

(Cymorth Cristnogol a'r plentyn yn yr hysbyseb)

Dy ddwylo, dy eiddilwch.
Dy lygaid, y llaid a'r llwch.
Dy erfyn. Rwyt yn darfod.
Y mae yn nyfnder fy mod
Sgrech! Sgrech a hollta fy sgrin!
Gwgaf...Trip bach i'r gegin.

O taw! Nôl ar fy settee
S诺n Elon ar sianeli,
Gwêl un sydd â chyfoeth gwlad
Yn llywio am y lleuad.

Llosgi, doleri ar dân...
Mewn adfyd, mynnu hedfan!

Pryderi Jones 9

Aberhafren

Hysbyseb o wynebau,
meidrolion fel briwsion brau’n
ddiyngan sy’n ymddangos
â’u hesgyrn noeth ar sgrîn nos.

Ar y maes â’i hanner mur,
hyd y dwst yn ddidostur,
dod â baich mae haul di-baid
tir anial y trueiniaid.

Am ennyd, mae’n fy mhoeni
a mynnaf – fe yrraf fi
arian hael, ond llithro wnaf
liw nos i’r sianel nesaf.

Aron Pritchard 9.5

5 Pennill ymson mewn siop offer trydanol

Y Llewod Cochion

Mae'r hwfer yma'n smwddio,
A'r haearn yma'n hwfro,
Ffrij sy'n ffwrn a micsar piws
- 'mond plwg 'fo ffiws o' n isho.

Mair Tomos Ifans 8.5

Aberhafren

Dw i’m isie rhyw sgrin lond y stafell
na ffôn sydd yn chargio mewn rhewgell
na cherdded ar leuad trwy headset VR.
Does ganddoch chi’m tostar a thegell?

Mari George 8.5

Cynigion ychwanegol

Pa iws oedd imi wario
ar widescreen fel g诺r gwallgo?
Trigain modfedd ar ei hyd
a sdim byd werth ei wylio!

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Y Cynllun Peilot

Y Llewod Cochion

Adeiladu stad fach, un, dau, tri,
'Solar panels' ar y to, a dyna ni.

Dyma dai fforddiadwy, ac yn help i greu gwaith
Gan sicrhau cymuned a dyfodol i'r iaith.

Cynllun i'w gefnogi, ar fy ngwir,
Cynllun i'w ledaenu drwy'r holl sir.

Mam a Dad yn prynu un o'r tai i'r mab,
Ond 'di hwnnw ddim rîlî isho byw yng nghefn gwlad.

Mam a Dad yn rentio i denantiaid o'r dre
Ond mae'r t欧 yn rhy bell a ma' na broblem efo'r wê.

Hysbysebu'r t欧 unwaith eto. "Ar Gael"
Ond mae'r rent yn rhy ddrud i'r locals yn ddi-ffael.

'TY GWAG' ! Rhaid talu dwbwl y dreth i'r Cyngor Sir,
Rhaid meddwl tu allan i'r bocs, oes yn wir.

Tynnu lluniau'r machlud o'r 'skylight' yn y to
'Decking' rhad tu allan, a dyna fo !

Sbïo mewn drwy'r ffenast, be' welwch chi ?
Teulu bach ar wyliau mewn Air B & B

Nath y cynllun ddim cweit gweithio, ddaeth y peilat ddim i'r lan,
Ond mae Mam a Dad yn hapus efo' 'Pension Plan' !

Mair Tomos Ifans 9

Aberhafren

Un bore yn ei wely, fe styrbiwyd Ceri Wyn,
gan alwad bump y bore; atebodd yntau’n syn:
‘Hawddamor. Pa helynt sydd? Atebwch ar un waith’.
Adroddodd llais pryderus yr hanes hir a maith
fod rhestr timau’r Talwrn eleni UN yn brin,
‘Mawr ddiolch am eich galwad, ond na phoenydiwch ddim.
Mae gennyf gynllun mentrus’, medd Ceri Wyn yn si诺r,
‘Er mwyn ffeindio siwpyr tîm, bydd rhaid mynd dros y d诺r.
I fynd i’r fan a fynnaf, nid â na char na thrên,
Fe wnaf hyfforddi’n beilot, a chyrchu eroplên.’
’Mhen wythnos, cawsai’i leisans, rôl derbyn nôl y sôn
hyfforddiant dwys yng nghocpit Prins William, gynt o Fôn.
Mewn jymbo jet Plwmp Airways ein Ceri ni a aeth
i driongl y Bermiwda, nes canfod pedwar ffraeth
o’r niwloedd gynt: Tal a Nei, a Dafydd ap, cwl d诺d,
a Gwerful Mechain hithau (i sgwennu cerddi r诺d).
Roedd pawb yn disgwyl pethau mawr, o Lundain fawr i L欧n,
ond och, bu’n rhaid eu gwahardd o’r ornest yn Rownd Un,
ac ofer fu’r holl ymdrech, a’r cynllun peilot ewn –
doedd gan y tîm ddim WIFI i yrru’r tasgau i mewn!

Llion Pryderi Roberts 8.5

7 Ateb llinell ar y pryd - ‘Mawr yw’r ffws am rewi’r ffi’

Y Llewod Cochion

Arian ni ddaw i Ceri,
Mawr yw'r ffws am rewi'r ffi.

Sam Robinson 0.5

Aberhafren

Mawr yw’r ffws am rewi’r ffi
oherwydd cyflog Ceri!

Aron Pritchard 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Callio

Y Llewod Cochion

Cringoch ei chôt
â mellten wen ar ei hwyneb
yn rhannu llygaid llawn diawlineb
mor wyllt â’r mynydd moel.

Teimlodd y tir erioed ffasiwn gyflymder,
na’r defaid ffasiwn fraw.
Clywodd y bwncath ffasiwn sgrechian,
na’r cymdogion ffasiwn ddiawlio.

Nid dylni na chythreuldeb sydd ar fai;
gorfrwdfrydedd yw gwendid Mabli Haf,
yr ast fêch goch gen i,
ei llam sy’n gynt na’i deall.

Ond fesul helfa a fesul cae,
cam wrth lef mae hi’n altro yn ara’ bêch.

Fe arhosith y mynydd am weddill fy oes
a dim ond tair oed ydi hon.
Mae eisiau blwyddyn i gallio bob coes
ac oes i gallio’r ffon.

Sam Robinson 9.5

Aberhafren

Darllenant eu Sul o glawr i glawr,
helpu ei gilydd i lenwi sgwariau gwag yn gywir
a’r beiro’n bodio’u byw.

Yn eu pennau arllwysant yr atebion
nôl i’r potyn inc,
rhedeg rhwng eu du a gwyn
at Suliau o gerdded, heb gynllun, heb gwestiwn,
pan oedd annibendod trwy eu gwalltiau,
pan daflent eu hamser i’r d诺r,
rhoi geiriau’n glou at ei gilydd heb gliw,
sarnu chwerthin,
agor gwin ag ewinedd
ac yfed y gwyll trwy welltyn.

...gwenant a gofyn,
pryd a sut y plygodd diwrnod dau
i’w le mor daclus?

Mari George 9.5

9 Englyn: Fferi

Y Llewod Cochion

Hon a egyr drwy eigion - ein hiraeth
A'n horiau yn feithion,
Lwybr, uniad cariadon,
Yn aros dau dros y don.

Pryderi Jones 8.5

Aberhafren

Cer ar daith llawn gobeithion – cer di bant
cariad bach, yn fodlon,
dy gario wna dwylo’r don
i dir na wêl flinderon.

Mari George 9.5

Cynigion ychwanegol

Chwalwyd eu holl freuddwydion brau o weld
Bro well wrth i eigion
Llydanfor llwyd eu hanfon
I weryd oer islaw'r don.

CYFANSWM MARCIAU

LLEWOD COCHION 70
ABERHAFREN 71.5