Main content

Talwrn Cwpan y Byd 2022

Defnyddiwyd system sgorio gêm bêl-droed ar gyfer y marciau

1 Tydragerdd: Cyfarwyddiadau i Deithwyr

Tîm John Charles (GH)

Haia DI Ti’n mynd i Qatar?
Paid cuddio dim yn dy gitâr.
Dim cwrw, cyffuria na phorn na chig moch
a gwell peidio mentro y boxers draig goch.
Joia DI yng nghwpan y byd
ond paid canu’n rhydd neu byddi yno o hyd.
#rhywunynycarchardrosofi

Gwion Hallam 2

Tîm Gary Speed (AR)

Cadwa’n glir o’r unig lôn
sy’n croesi’r Fenai i Sir Fôn.

Arwel Pod Roberts 1

Maen nhw’n dwedyd ac yn sôn
Fod ’na giwiau yn Sir Fon.
Ond mi dwi’n gweld ciwiau cyson
Dros y d诺r yn Sir Gaernarfon.AR

Ewch â’ch heniaith, a chanwch - ynddi hi
da chi, ymfalchïwch;
Ewch i Gatar a chariwch
nodau’r iaith gyda chi’n drwch.CE

2 Tsiant addas i gefnogwyr un o dimoedd pêl droed Cwpan y Byd 2022

Tîm John Charles (GH)

Ben Cabango – Bendigedig Ben Cabango – Bendigedig
Ben Cabango – Bendigedig Bang, Bang, Bang.

Ben Davies – Bendigeidfran Ben Davies – Bendigeidfran
Ben Davies - Bendigeidfran A fo Ben bid bont.

Gwion Hallam 2

Tîm Gary Speed (RhI)

(Yn ôl ac ymlaen rhwng y ddau set o gefnogwyr yn y gêm bosib rhwng Qatar ac Iran)

Ar gam-drin pobol y rhown fri!
Mae'n record hawliau dynol ni
yn waeth o lawer na'ch un chi!!

Rhys Iorwerth 2

“Does dim ond un Bale Does dim ond un Bale
a plis gawn ni hi nôl i drio sgorio gôl!”

Mae'n gryf,
Mae'n dynn
Fel cynghanedd Ceri Wyn,
Ben Davies...
Ben Davies...

(Cymru)
Mi fydd raid i chi aros am deirawr,
falla tair a hanner, ond pwy sydd isio
mynd adra mewn ambiwlans?

3 Limrig yn cynnwys yr ymadrodd ‘yma o hyd’

Tîm John Charles (GL)


Dwi yma o hyd ar y bog
’rôl cynhyrchu anghenfil o lòg,
mae o’n denau a hir
ac yn drewi – yn wir,
mae’r un ffunud â Jacob Rees Mogg.

Geraint Lovgreen 2

Tîm Gary Speed (AR)

(Croesair Golwg)

Pump i lawr sydd yn wag ers cyhyd.
O’i ddatrys, byddwn fodlon fy myd
A’m ffiol yn llawn.
Y cliw ydy ‘grawn’.
Be ydy o? Ym, aaaa… O! 哦d.

Arwel Pod Roberts 1

Dwi yma o hyd yn pendroni
Pam nad ydyw rhai'n cael eu cosbi
Am ddeifio i'r llawr,
A gwneud rhyw sioe fawr,
Cyn edrych o'u cwmpas a chodi?

Ers marw’r T-Rex a Sant Cadfan,
ers Crist, ers dyfeisiad y llwyfan
ers dechreuad y byd,
mae o yma o hyd
ac o hyd, ac o hyd…Dafydd Iwan.

Fy ngwraig, Tudur Owen a Duw:
gyda'r tri, ’dyddiau hyn, mae'n rhaid byw,
ac yn yr un byd
mae "Yma o Hyd"
sydd byth fwy na munud o 'nghlyw.

Dwi yma ers dwn i ddim pryd.
Deud y gwir, rydw i yma o hyd
Yn clwydo fel chwaden
Yn nh欧 bach y Saith Seren.
Ar ôl damwen efo sêt bog a glud.

4 Cywydd ysgafn (rhwng 12 a 18 llinell): Y Wal Goch

Tîm John Charles (LlJ)

Mae hon yn fwy na meini
un wal bri-nylon yw hi,
rhyw gaer polyester i gyd
a saif mewn aertex hefyd,
er y static dros ditws,
teiliau hud yw’r crysau tlws.

Trwy Hummel mae patrymau
Lotto ac Umbro yn gwau
a gw欧r ffans fod dagrau ffydd
yn ddafnau drwy’r hen ddefnydd
a hanes ein trueni
ar led yn ei Admiral hi.

Hen grysau yw’n goroesiad,
yn eu sglein mae hanes gwlad
a chaf fod rhyw haf trwy ras
yn dod o grys Adidas
yn y wal gynefin hon,
yn y Walia bri-nylon.

Llion Jones 3

Tîm Gary Speed (CE)

Mis du. Ond mae si dawel
am rai nýts o Gymru’n hel
llond eu bag – ffoi rhag yr iâ
i wres cyfandir Asia.

Mae Catar fel byd arall.
Eto i’r côr chwarter call,
i gael hwyl a gweld eu gwlad,
heidiai’r llu draw i’r lleuad.
Mae hen ddolen o’r enw
‘Book Hotels in Timbuktu’ —
’tasa niwl, a ffleits yn her,
sortient hofrennydd siarter.
Ordrai’r rhai ffyddlonaf dro
O Sblott ar fws i Blwto.

Y wal goch sy’n ailgychwyn,
trwyddi hi, mae’r fflam ynghyn.
Yn dwrw mawr, yn dra mad,
Doha — mae’r Cymry’n d诺ad.

Carwyn Eckley 3

5 Triban beddargraff dyfarnwr neu ddyfarnwraig

Tîm John Charles (AB)

Dim amser ychwanegol
I'r sticlar cadw rheol,
R'ôl rhoi cic gosb i'r rhai ar lawr
Mae nawr mewn bocs gwahanol.

Anest Bryn 2

Tîm Gary Speed (CW)

Fe’i gwawdiwyd ar y dechrau
A rhwygwyd hi yn griau
Ond tecach chwiban doedd gan r’un,
Roedd cystal dyn â’r gorau.

Casi Wyn 3

Daeth flare o’r dorf amdano
roedd wedi’i losgi drosto,
ond y ffwtbolars oll, rhyw fodd
wrthododd biso arno.

Fe hefriodd yn wythnosol
Am ddeifars gor-ledrithiol,
I lawr aeth yntau yn y bocs
Heb giamocs, dyna ddeifiol.

Ro’th gerdyn coch i’r Tarw –
roedd hynny’n biti garw,

cans dan ei ên mi gafodd glec
a fflipin hec, bu VARw.

Dyfarnwr craff, technegol –
y gorau’n ystadegol –
ond bu ei einioes yn un fer.
Dim amser ychwanegol

Daeth miloedd yn eu crysau
Coch, melyn, glas a streipiau,
I ddweud ffarwel yn griw cytûn.
Roedd un bron yn ei ddagrau.

6 Cân (heb fod dros funud a hanner o berfformiad): Pwt o Sylwebaeth o Gêm Bêl Droed

Tîm John Charles (GL)

Wel, croeso ichi i’r Cae Ras dan awyr las mis Ionawr,
ma’r ornest ar fin cychwyn, Jeff, a’r reff yn gwirio’i oriawr.
Deng mil a hanner yn y dorf yn disgwyl mor frwdfrydig
i Wrecsam herio arwyr llon Manceini-on Unedig

Cwpan Lloegr, trydedd rownd, a’r Dreigie’n bownd o ennill, cewri Wrecsam heddiw’r pnawn, dros Gymru wnawn nhw sefyll. Jordan Davies i Luke Young, â sodliad tyngedfennol,
Young i Mullin, ac mae’n gôl! Mae’r Red Wall yn fyddarol!

[Y DORF]
Ffal di rwdl lam tam, twli ridl di
Ti rei tam tam ton tonnam,
Tîm canmolus gweddus gwiw
a’i enw ydyw Wrecsam.

James Jones yn pasio’r bêl i Forde drwy’r coridor ansicrwydd, y bêl yn taro cefn y rhwyd - am nwyd! ac am fedrusrwydd!
Wrecsam dwy United dim: di’r Cae Ras ddim yn ddistaw,

Erbyn hyn, mae’r cae yn wag a bois Ten Hag sydd allan. Enw Wrecsam yn yr het - rhowch fet ar rhein am y gwpan. Mwy barddonol ydi hud y ‘Cup’ na ’mbyd gan Waldo!
I fawrion Wrecsam canwn fawl! Pwy ddiawl ’di’r boi Ronaldo?

[Y DORF]
Ffal di rwdl lam tam, twli ridl di
Ti rei tam tam ton tonnam,
Tîm canmolus gweddus gwiw
a’i enw ydyw Wrecsam.
Ffal di rwdl lam tam, twli ridl di
Ti rei tam tam ton tonnam,
Tîm canmolus gweddus gwiw
a’i enw ydyw ... WRECSAM!

Geraint Lovgreen 3


Tîm Gary Speed (CW)

(Dyma bwt o sylwebaeth o Gêm Bêl Droed yng Nghatar:
fydd ’na son am hawliau dynol wrth yfed peintiau yn y bar?)

Iaith sy’n uno, iaith ryngwladol
ydi iaith y gêm bêl-droed,
iaith sy’n tynnu’r hen a’r ifanc,
yn cysylltu pawb, bob oed.

Ond pan fydd y bêl yn taro
cefn y rhwyd wrth sgorio gôl,
a fydd nerth y gic yn gysur
i’r rhai fydd yno ar ei hôl?

Tra bo Cymru oll yn dathlu,
gweiddi’n uchel ac yn lân
dros bwysigrwydd parchu cyd-ddyn,
ai gwirionedd sydd i’n cân?

Fydd r’un enfys ar ein fflagiau
a’u lleisiau hwythau dal yn fud,
ai gorfoledd ynteu methiant
ydi cipio cwpan byd?

A phan fydd y bêl yn taro
cefn y rhwyd wrth sgorio gôl,
a fydd nerth y gic yn gysur
i’r rhai fydd yno ar ei hôl?

Casi Wyn 3

Ateb Llinell ar y Pryd – Cyn y gêm canwn y gân

Tîm John Charles

Cyn y gêm canwn y gân
I Dduw, a Dafydd Iwan

Osian Wyn Owen 1

Tîm Gary Speed

Cyn y gêm canwn y gân
Un well â’r Saeson allan

Carwyn Eckley

8 Cerdd (rhwng 12 a 18 llinell): Sgôr

Tîm John Charles (OWO)

Bore Sadwrn,
ac arogl Deep Heat yn dew drwy’r t欧.
Saim cig moch yn crogi, a’r paneidiau’n bechadurus o felys.
Gwylio ’nhad yn stwffio’r styds rhacsiog i fag,
a sgeintio mwd sych hen Sadyrnau hyd lawr y gegin.

Cyn ei hel hi i gae oer
i sipian yn gyndyn ar y Bovril, i weddi fy ffug nealltwriaeth o’r lein,
ac i wrando ar Dad yn rhegi’r reff, yn Gymraeg.

Cyn mynd, a chanlyn arogl Brut fy ’nhad i mewn i’r dafarn
i godi peint, waeth beth fo’r sgôr.

Bore Sadwrn arall. Menyn yn dew ar fara brith
a phaneidiau cry’n segura mewn tseina crand.

A dwi’n denig. Denig rhag lliwiau pastel blodau angladd
a chanlyn arogl Brut
i far cefn y co’
i godi peint, waeth beth fo’r sgôr

Osian Wyn Owen 3

Tîm Gary Speed (IaG)
(i Zahra Khoshnavaz - bardd ifanc o Tehran, a ffan bêl-droed sydd yn gorfod gwisgo fel dyn er mwyn gwylio gemau yn Iran.)

Daeth y locsyn drwy'r post...
Yna, y pwytho poenus i drymhau aeliau,
i wryweiddio trwyn;
trawsnewid fy ngwep i gael gweld Persepolis;
celu'r gwir er mwyn gwylio Iran.
Ac euthum yn gaeth i stadiwm Azadi,
yn rhith g诺r, cyn y gôl;
cyn i alto fy angerdd fradychu'r blewiach ffug.
Ond closio wnaeth y gw欧r syn o'm cwmpas,
(nid o ran nwyd, ond chwaergarwch);
cyrchasant dd诺r hanner-amser ar fy rhan
a ffurfio pedol i'm gwarchod rhag gwg y Drefn,
rhag soldiwrs cudd ei moesoldeb hi.
A choronais fy mhrotest drwy rannu fy llun
i'w herio. Ac eto. Ac eto.
Bûm ferch ddewr, cyn y bûm dri mis mewn cell...
Wyf heddiw ar herw... mae'n Gwpan y Byd...
a chân y stadiwm heb y nodau ucha' o hyd...

Ifor ap Glyn 3

9 Englyn ar y pryd – Jyngl / Jwngl

Tîm John Charles

Rhowch mewn tanc un Matt Hancock – a llyngir
yn lleng i greu hafoc,
ac o raid gollyngwch groc
i falu ei ddau foloc

Osian Wyn Owen 2

Tîm Gary Speed


 bwyell o bell, i’r byw y torwn
goetiroedd dynolryw,
yn estron ein distryw’n
caru gwerth

Rhys Iorwerth 3