Cerddi Rownd 1
1 Trydargerdd (heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Epigram Dychanol
Caernarfon
Er garwed yw bywyd, mae’n sobrach na sobr
Bod lliaws o’r farn fod marwolaeth yn wobr.
Emlyn Gomer 8.5
Beirdd Myrddin
A’r Cymry i gyd yn byw yng Nghaerdydd,
ai yno y gwelwn ni Gymru yn rhydd?
Aled Evans 8.5
Cynigion ychwanegol
Anodd gwrthwynebu’r drefn
Heb fynych glec i’r asgwrn cefn.
.
Gwleidyddiaeth: mae fel torri mawn –
Crefft syml gyda’r twlsyn iawn.
Pivac
Wrth ddewis ei dîm dros Gymru,
mathemategydd sydd wrth waith;
mae'n cyfri rhwng un a phymtheg,
yna'n dechrau â thri rhif 7.
Yng Nghaersalem cawsom bregeth
am seddau gwag a chadw’r Sul,
nid bod yno ruthr gwallgof
tuag at y llwybr cul.
2. Cwpled caeth yn cynnwys yn cynnwys enw unrhyw ddodrefnyn
Caernarfon
Gwae, gwae pan fo dyn o’i go
yn arwain polit biwro
Ifan Prys 8.5
Beirdd Myrddin
Y mae’n hel bwndel ein bod,
dirgelwch yw’r drâr gwaelod.
Lowri Lloyd 9
Cynigion ychwanegol
Un salw, hanner solet,
heb un iws yw’r cabinet!
O’u harfer, mor anorfod
yw’r camau oes i’r comôd.
Ai y dreser drwy’r oesau
yw mesur y bur hoff bau?
Mae yno’i llyfr emynau
a’i ffydd mewn drâr MFI.
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘O’r diwedd mae’r dydd yn ymestyn’
Caernarfon
O’r diwedd mae’r dydd yn ymestyn
felly es i am dro i Laniestyn
lle ces gyngor gan Sais,
un uchel ei lais -
“Oi, Taffy, you git, tuck yer vest in!”
Geraint Lovgreen 8.5
Beirdd Myrddin
O’r diwedd mae’r dydd yn ymestyn
O heddiw tan ddiwedd Mehefin,
A’r chwyn yn yr ardd
Yn edrych mor hardd;
Ail-wylltio yw nefoedd y pwdryn.
Ann Lewis 8.5
Cynigion ychwanegol
O’r diwedd mae’r dydd yn ymestyn,
A’i olau yn hebrwng y gwanwyn.
Ond i’r de o Hawaii
Mae’r dydd yn byrhau -
Ac a’ch helpo os ydach chi’n bengwin.
O’r diwedd mae’r dydd yn ymestyn;
Ond peidiwch â llonni ’run blewyn -
Waeth faint fydd ei hyd,
Newidith o’m byd:
Fydd hi’n gwawrio cyn tewith y Meuryn.
O’r diwedd mae’r dydd yn ymestyn
Fel lastig mewn blwmyrs ar fachyn.
Os na fydd y straen
Yn ormod ar rhain,
Fe’u gwisgaf o nawr tan y Sulgwyn.
O’r diwedd mae’r dydd yn ymestyn
a Gareth wnaeth wella yn sydyn
gan sgorio dwy gôl
cyn hedfan yn ôl
i chware naw ‘hole’ bore wedyn.
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Fideo
Caernarfon
Ym myd gwell eu stafelloedd,
o siot i siot, dawnsio oedd
llafnau hip y llwyfan hwn,
nhw a’u ffysio am ffasiwn,
cyn i wae’r kalinka’n wyllt
droi’r gwaraidd i’w st诺r gorwyllt.
I’r curiad annawnsiadwy
Tiktok yw eu tacteg hwy
i ni nawr gael gwylio’n ôl
yn ein rhengoedd cyfryngol
goreograffi ffiaidd
bale hir Vladimir flaidd.
Ifan Prys 10
Beirdd Myrddin
Fideo
cofio Dai Jones
Ar y diwrnod bu Dai Jones farw fe dderbyniais glip fideo byr i’r ffôn fach lle mae’r Dai ifanc yn cael gwers saethu colomennod clai gyda Gerallt Lloyd Owen; bu tipyn o hwyl pan deimlodd Dai gic y gwn ar ei ysgwydd.
Anelodd ei Lanilar
drwy ei sgwrs at filltir sgwâr,
a hi’n agor tymhorau
hiwmor iaith i’r camerâu.
Rhuthrwyd drwy'r glwyd i gefn gwlad
a thaniodd ei chwerthiniad,
ei wn ar waith amgenach
a’i eiriau’n fyw ar sgrin fach.
Mae’r llun a’r hanner munud
yn coffáu’i ddegawdau i gyd,
er y rhwyg, fe oeda’r wên
trwy’r oesau â’r gatrisen.
Geraint Roberts 9
5 Triban beddargraff dylunydd ffasiwn
Caernarfon
Arloesi oedd ei fawredd,
A hynny hyd y diwedd.
Ei arch nid yw yn steil y dydd:
Mi fydd ’mhen ugain mlynedd.
Emlyn Gomer 9
Beirdd Myrddin
Ym Mharis gwnaeth ei ffortiwn,
i Horeb ddaeth heb fwtwn;
mewn amdo rhad heb label bras,
aeth yntau mas o ffasiwn.
Garmon Dyfri 9
Cynigion ychwanegol
Yma y gorwedd Madog,
Wnaeth drôns o weiran bigog
A swagro hyd ryw gatwalk swanc:
Ei dranc nid oedd odidog.
Fe luniodd bob dilledyn
â mawredd anghyffredin
ond penderfynodd ddweud gwdbei
mewn tie-dye pinc a melyn.
Fe aeth i gwrdd â Gabriel
mewn jîns a sodle uchel,
gan gredu câi, â’i haute couture,
bid siwr, ei gwneud yn angel.
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Newid Meddwl
Caernarfon
dwi isio newid meddwl, ma’r un sy gen i’n hen
ac wedi ei orlenwi efo ffeithie bach myndên
dwi’n sylwi wrth heneiddio mod i’n dechre ffwndro dwtsh
dwi’n anghofio pethe pwysig ac yn cofio pob rhyw rwtsh
dwi isio newid meddwl, ma’r un sy gen i’n hen
dwi isio cael un newydd sbon o’r siop, mewn seloffên
dwi’n meddwl yn dragywydd am syniadau hollol hurt
a’n breuddwydio am gêm dennis efo Boris ar y cyrt
dwi isio newid meddwl, ma’r un sy gen i’n hen
dwi byth yn cofio enw neb, ma’r holl beth yn insên
dwi’n treulio fy holl oriau sbâr yn pori ar Tic Toc
yn gwylio fidios boring gan ryw foi sy’n trwsio cloc
dwi isio newid meddwl, ma’r un sy gen i’n hen,
fel na fyddaf i byth eto yn camgymryd John am Jên
rhyw olchiad ymenyddol fysa’n dda, dan law y Toris
a chael ymennydd newydd hollol wag fel Nadine Dorries
dwi isio newid meddwl, ma’r un sy gen i’n hen
a’i gelloedd yn crebachu wedi oes yn y ffast lên
er mwyn i mi gael gadael yr hen fyd ’ma efo gwên
dwi am fynd i’r gyfnewidfa: dwi angen newid brên.
Geraint Lovgreen 9
Beirdd Myrddin
Fe ganais y tro dwetha’ am golli f’annwyl ffrind,
y bardd o rym trydanol oedd bellach wedi mynd
i domen sgrap prydyddion a gedwir i’r rhai hyn
sydd wedi colli’u hawen neu’n gweithio nawr i’r prins.
Yno mae aelodau Tir Iarll yn ôl pob sôn;
rhan fwyaf o feirdd Gwynedd a’r un ddaw o Sir Fôn.
Fe glywsoch inni guro beirdd mawr yr Iarlldir glei;
nid bod ni’n hoffi dannod eu cwymp wrth Dyl a Nei.
Mor llethol oedd yr ymdrech i guro’r ornest hon,
roedd angen meddwl newydd, po gore’n newydd sbon.
Rhoi adfyrt ar y rhyngrwyd a wnes yn ddigon clên
yn gofyn ar i rywun fy anrhegu gyda’i frên.
Daeth ‘mennydd o Gaernarfon a hwnnw’n fach tu hwnt
ond ffaeles weithio brawddeg heb lwyth o eiriau brwnt.
Ces hanner brên y Meuryn, i’w adael heb ddim byd,
a chadwes ddweud ‘dim ware’, ‘sdim dowt’ a ‘jawch’ o hyd.
Ond colli wnes y gallu i yngan gyda ‘ngheg,
“Sdim dowt bod hon gan Aled, dim ware’n haeddu deg.”
O’r diwedd daeth datrysiad a sgwennais hyn o gân
‘da brên T’wysog Andrew odd heb gael iws o’r bla’n.
Aled Evans 9.5
7 Ateb llinell ar y pryd - ‘Anodd iawn yw maddau hyn’
Caernarfon
Arfer â’r lladd diderfyn
Anodd iawn yw maddau hyn
Ifor ap Glyn 0.5
Beirdd Myrddin
O gilio rhag y gelyn
Anodd iawn yw maddau hyn.
Lowri Lloyd
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Hel Ynghyd
Caernarfon
Ble heno ferw’r gorlan wag
Lle bu’r hel mynydd gynt,
A’r giatiau ffliwt ym mhen y bwlch
Yn ochain yn y gwynt?
Ble heno gysur neuadd chwâl
Lle swatiai teulu bach,
A’u cyrff yn wlyb dan awyr hy
Fel cathod slwtsh o sach?
Ble heno’r gerdd all gynnal sgwrs
Rhwng Kyiv a bryniau’n gwlad,
Drwy weu ein geiriau tlws a brwnt
Yn siarad, nid siarâd?
Ifor ap Glyn 9.5
Beirdd Myrddin
Y pensiliau ar lawr
yw matsys fy meddwl,
pob un yn goch
er i’w henfys wadu
effaith lawn eu ffrwydriad.
Llond dau focs,
â’u min wedi’u trin
yn barod i greu
a datrys posau mawr
y meddyliau bach …
sy nawr yn dosbarthu
fy nhymer yn olosg cymen
nôl i’r drôr heb ’run syniad pam.
A dysgaf innau
tra’n gwylio’r dwylo dyfal
a phlesio petrus
eu llygaid mwll
y gall gwreichionen
hefyd ddiffodd fflam.
Lowri Lloyd 9
9 Englyn: Map
Caernarfon
Y gw欧r hen, uchel eu gradd, yno maent
uwchlaw map yr ymladd
yn olrhain mewn manylradd
hydred a lledred y lladd.
Ifan Prys 10
Beirdd Myrddin
Map Google - dau gariad
Un dydd rhof fy nghwmpawd iddi – a’r ffôn
lle mae’r ffyrdd yn croesi,
siario wnaf ein siwrnai ni,
yr un hewl a’i chorneli.
Geraint Roberts 9.5
Cynigion ychwanegol
Un daith a rannwn bob dwthwn, y ffordd
a’i ffin hyd y gwelwn
yn parhau i gau a gwn
o Lan i Lan diflannwn.