Main content

Cerddi Rownd 1

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Pennill yn rhoi sglein gadarnhaol ar un o benawdau’r newyddion

Tanau Tawe

“Household energy bills ‘set to double’ ” (Times, 28 Rhagfyr 2021)
Os gwnewch chi haneru eich defnydd,
Bydd y gost yr un fath i’ch aelwydydd.
Wrth rynnu i arbed y boced,
Cewch gyfle i achub y blaned.

Elin Meek 8.5

Llanrug

Tua’r sêr, ad Astra, yn sgil y frech
Aiff cyfoeth Pfeizer, yn BioNTech;
A bydd Zeneciaid gwrth NovaVax,
Pan fyddant gelain, yn ‘sgoi bob tacs.

John Roberts 8

Cynigion ychwanegol

‘No spectators at matches in Wales’
Er na chawn fynd i gemau
Na herio o’r terasau,
Os nad yw’r reff yn hollol deg
Ni chlywith reg na’i amau.

2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw aderyn

Tanau Tawe

Bws hynod yw’r bws wennol,
Myn o hyd ddod yma’n ôl

Tom Price 8.5

Llanrug

Yn rhybudd ar hirddydd haf,
daw galwad y gôg olaf.

Dafydd Williams 8.5

Cynigion ychwanegol

Robin goch, gwron, bronfalch,
Wna’r tro yn ginio i’r gwalch.

Un heriol ydi ‘mharot,
rhugl yw, ond rhega lot!

Hi’n gweld nyth sguthan, – y gôg
aeth heibio i nyth hebog.

Yn rhy hwyr, dysgwn o raid
na welwn, fwy, wenoliaid.

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Does fawr wedi newid, rwy’n ofni’

Tanau Tawe

Does fawr wedi newid, rwy’n ofni
Ers cyrraedd eich Idwal fis Medi.
Er ga’th e’r ‘run hwp
 gweddill y trwp,
Mae’n dal ‘run mor dwp ag yw Dadi.

Keri Morgan 8

Llanrug

‘Does fawr wedi newid dwi’n ofni,
Marwolaeth, ystormydd, llid , trethi,
Pob math o ‘Welsh Not’
Yr holl blincin lot;
A Tottenham Hotspur yn colli!

John Roberts 8.5

Cynigion ychwanegol

Does fawr wedi newid, rwy’n ofni,
A thebyg i’r llynedd fydd ’leni,
Ac mae eto greisis
Bod papur wal Boris
Yn ormod o grocbris i Carrie.

Dan glo bu’r tafarnau eleni,
Heb ‘glwb nos’ roedd pawb ‘di sobri.
Ond erys y Toris
Yn barti y partis,
Does fawr wedi newid rwy’n ofni.

Mae pawb hyd y lle ‘ma yn holi
Â’n tîm ni bob amser yn colli.
‘Rôl diodde o hyd
A ddaw tro ar fyd?
Does fawr wedi newid rwy’n ofni.

4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Dysgu Iaith

Tanau Tawe

Awr hwyl, un bore heulog,
Cychwyn o’r glyn tua’r glog ;
Allt geiriau yn blodeuo,
Briga’r iaith yn wlyb o’r gro.

Ond yr esgyn sy’n dwysáu
Ar gleidir ei threigladau,
A’r boen na ddygir i ben
Ydyw rhiw ei chystrawen!

Ond dyma hi! Er gwynt main
Ac oerfin creigiau hirfain,
Rwy’n iau, rwy’n Gymro newydd,
Ar drumwel yr awel rydd.

Robat Powell 9

Llanrug

Down i gwrdd, y dyn â’i gi
a minnau; camau heini
i hebrwng c诺n hyd lwybrau
yw y daith bob dydd I’n dau.
Gwladaidd, wyf o braidd ein bro,
yn glud daeth ef i glwydo;
mudan a byw fel meudwy
yn ein mysg, sawl blwyddyn mwy.
Ei “Good Morning” â’m gwinga
heibio’r dyn â’r “bore da.”
Un o ddau ni ildia ddim,
iaith ein bro iddo’n ddiddim.

Richard Lloyd Jones 8

5 Pennill ymson cyflwynydd tywydd

Tanau Tawe

Am y tywydd, gorau tewi,
Yw’r hen wireb, ond rhaid imi
Rwdlan am dair munud union,
Er mai “glaw” yw’r rhagolygon.

Elin Meek 8.5

Llanrug

Da oedd fy ngweledigaeth,
a ddaeth â phres bach del
O gael y wraig i agor
y siopau ambarel.
Proffwydaf yn nosweithiol
A hynny yn llawn ffydd,
Y bydd yn gwneud cawodydd,
Rhai trymion bron pob dydd.

Dafydd Williams 8.5

Cynigion ychwanegol

Cwestiwn i Dafydd Iwan
Fu’n holi ‘pam’ yn syn -
Â’r byd yn c’nesu’n gyfan,
Lle mae yr eira gwyn?

Y crêy’r glas sy’n hedfan i fyny’r dyffryn
A’r gath yn troi cefn ar y tân;
Yr ieir sy’n pigo eu plu yn ddiderfyn,
Ac mae siawns y cawn eira mân.

Ond mae ffenestr y stiwdio yn ddagrau i gyd
Ac mae argoelion tywydd gwell i’r byd.
Tydi’n dda ‘mod i’n cofio hen goelion gwlad
Y rhai a glywais ar lin fy nhad.

( Crey’r glas, cath ac ieir
– arwyddion glaw.
Dafnau glaw yn aros yn hir ar ffenestr –
glaw i glirio a hindda i ddod.)

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Ar goll

Tanau Tawe

Ci achub wyf i, sy’n mynd mas ar drywydd
Y beirdd aiff ar goll, o’r glêr i’r Archdderwydd.
A’u pennau’n y gwynt, ânt i gors y gynghanedd,
I goedwig y proest, neu niwloedd amwysedd.
Rhaid imi eu cael yn ddiogel oddi yno,
Er bod ’na rai’n dweud mai gwell fyddai peidio.

Yn ’Steddfod Llanrwst y ces fy hyfforddi:
Roedd llond lle o feirdd i mi gael eu ffroeni
Trwy ffau’r Babell Lên, Cylch ’r Orsedd, gefn llwyfan -
Roedd mwy wrth y bar nag ydoedd yn unman!

Rwy wrthi ers ’ny, ym mhob rhan o Gymru
Yn dilyn ôl traed y beirdd sy’n bustachu
I greu cerddi gwych i’r Meuryn byd-enwog.
Ni 诺yr e ddim byd; er mai fe yw ’mherchennog:
Af ati liw nos pan fydd yn ei stydi
Yn esgus ei fod yn creu neu’n tafoli.

Ac felly, pan fydd cnwd gwych ar y Talwrn,
A minnau dan ddesg y Meuryn â’m hasgwrn,
Rwy’n teimlo’n reit falch, gan mai fi sy’n gyfrifol
Am achub y beirdd i’w Talwrn Tragwyddol.

Elin Meek 8.5

Llanrug

Ddoe, fe gefais fy arestio
Mewn pyjamas pinc yn Brymbo.

Bum yng Nghaer yn gwario’n wirion
Yn y sêls, a chaed anrhegion;
Prynu ‘jamas pinc, rhai frilly
I’m hanwylyd – a bicini.

Tro anghywir wrth ddod adra –
Colli’r ffordd a chwilio am noddfa.
Gweled arwydd ‘ Neuadd Brymbo’
A ‘gwisg ffansi yma a Bingo.’

Dim yw golli, gwisgo’r ‘jamas,
Mentro’i mewn i’r neuadd gynnas.
“ Two fat ladies, eighty eight”,
‘Bingo’, meddwn innau’n strêt.

Meddai’r galwr yn reit snotty,
“ Where’s the other big fat lady?”
Dan ei ên y cafodd ateb
Ac aeth ynta’i dragwyddoldeb.

Dyna pam ces fy arestio
Mewn pyjamas pinc yn Brymbo.

Dafydd Williams yn darllen gwaith Dafydd Whiteside Thomas 8.5

7 Ateb llinell ar y pryd - ‘Y mae’r gêm, i’r Poms, mor gas’

Tanau Tawe

Y mae'r gem, i'r Poms, mor gas,
Eleni bu'n alanas.

Keri Morgan

Llanrug

Y mae'r gem i'r Poms mor gas,
yn galennig, galanas.

John Roberts 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Dros Nos

Tanau Tawe

Trwy foroedd y tywyllwch
Ni ddaw na chwa na chwyn,
Ac nid yw llais yr awel
Ond rhyw ochenaid fwyn ;
Ac os yw’r byd heb lun, heb liw,
Mae’r oll yn glyd drwy oriau Duw.

Ond draw yng nghefn y ddinas
Trodd ’sgidiau cryf o bell
I rwygo mab o’i wely
A’i guro yn ei gell ;
Mae’r düwch hwn heb liw, heb lun ;
Ni thyr y wawr yng nghalon dyn.

Robat Powell 9

Llanrug

( Cyrraedd pen blwydd arwyddocaol)

Neithiwr,
Ar Ddydd G诺yl Ddewi ’99,
Llithrodd fy mam o’n gafael
Yn Nhardis y nos.
Oriau’n gynt,
Roedd yn gwneud ei gwallt
Yn salon y pentref,
Cyn i strôc agor drws
Y blwch diamser.

Heddiw,
Rwyf innau’n eistedd
Yn aros fy nhro,
Fy ngwallt yn wyn,
A meddyliau’n cronni.
Dros nos,
Yng ngherbyd yr Arglwydd Amser,
Cyrhaeddais yr un oed â hi.

John Roberts 8.5

9 Englyn: Gwobr


Tanau Tawe

[Gwraig wedi ei churo gan ei phartner]

Er bod ôl y Nadolig – ar wefus
Yr wyf yn rhoi cynnig
Ar ymatal rhag dal dig:
Haeddais ei hwyl anniddig.

Elin Meek 9.5

Llanrug

Â’i rodres am y brwydro, - i weddwon
gwag iddynt yw cofio;
ei ‘syr’ nid yw’n cysuro,
â’u gw欧r hwy o dan y gro.

Richard Lloyd Jones 8.5

Cynigion ychwanegol

Elin Meek

[Ar ôl clywed am gefnogwr pêl droed Lloegr yn rhoi ei docyn i gêm i fyny er mwyn mynd i’r ysbyty i roi mêr asgwrn i arbed bywyd dieithryn]

Ei docyn cyntaf, ond cafodd alwad,
Ac wele, o’i wirfodd,
Yn ddiymdroi mae’n rhoi rhodd
I un wella. Pwy ‘nillodd?

CYFANSWM MARCIAU

TANAU TAWE 69.5
LLANRUG 67.5