Cerddi Rownd 1
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Pennill yn rhoi sglein gadarnhaol ar un o benawdau’r newyddion
Y Derwyddon
‘Pris Pysgod a Sglods i fynd dros £10.00 am y tro cyntaf!’
Hen arfer fydd yn darfod, ond i’r cei
daw’r cam â gollyngdod
rhag bigitian gwylanod
yn fy nghefn yn dwyn fy nghod!
Meirion Jones 8.5
Penllyn
“Mad Vlad goes Nuclear”
Fe fûm yn wir yn ceisio
Rhoi sglein ar hyn i’th blesio
 morthwyl Rwsia uwch Wcrain
A’r cledd o’i wain, dwi’m isio.
Beryl Griffiths 8.5
2 Cwpled caeth yn cynnwys yn cynnwys unrhyw deitl personol
Y Derwyddon
Dathlwn ganrif Syr Ifan
a’i air byw i bedwar ban.
Siw Jones 8.5
Penllyn
Yn ‘Syr’ ac un o’r seiri,
Mae’n iawn, daw i’n Salem ni.
Alwyn Jones 8
Cynigion ychwanegol
Yn ei win, mae ambell 诺r
na haedda’r term bonheddwr.
‘Un bach’ a godaf i Bob,
a chasgen i’r Archesgob!
Yn eu cawl, pam fod y Cwîn
yn gwario cyfoeth gwerin?
Hei man, hon yw’r un i mi,
y siapus Missis Hippi!
Di-sail yw'r honiadau, Syr,
i Haf fwyta ffon fetr!
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘fe gododd y prisiau ar unwaith’
Y Derwyddon
I’r rhai a fu’n caru yn ddiffaith,
daeth pilsen i gynnig rhyw obaith,
ond er y mawrhau,
y stoc sy’n lleihau,
fe gododd y prisiau ar unwaith!
Meirion Jones 8.5
Penllyn
Bu gwerthu’r hen garej yn artaith,
Doedd neb am roi cynnig, dim gobaith..
Tan soniais fod Bancsi
Am symud i’n stryd ni!
Fe gododd y prisiau ar unwaith.
Beryl Griffiths yn darllen gwaith Aled Jones 8
Cynigion ychwanegol
Fe gododd y prishe ar unweth
‘rôl Lexa i ddishgu ‘nhafodieth,
mae rial hen gês
gyda’i wên, wêth a wês,
ma’ acen y roces yn berffeth!
Fe gododd y prisiau ar unwaith,
Ers hynny ’rwy’n byw mewn anobaith,
Ar fore dydd Llun
Yn un naw saith un
Mi gollais pob ‘swlltyn’ mewn noswaith.
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Clydwch
Y Derwyddon
G诺r a’i ymladd o’i Gremlin,
ei air draw ymhell o’r drin.
'Dyw gêm browd ei gamau bras
heb ei alw o’i balas.
Myn hedd ei gwmni ei hun,
yn chwimwth ei orchymyn.
Ond bob dydd oherwydd hwn,
yn eu miloedd mi welwn
y di-wely di-aelwyd,
di-bac a di-brydau bwyd,
tua’r ffin â’u plant ar ffo,
a’u dolur yn ein dwylo.
Tudur Hallam 9
Penllyn
(Er cof am Taid Cynythog)
Dacw G'nythog, a hogyn
ganol yr haf hwyaf un
efo'i daid, a'i holl fyd o'n
rhan o'r un erw honno.
Yno fe wêl, drwy ofal,
o'r t欧 i'r beudy bob wal
ddi-fwlch; pob modfedd o'i fyd
yn lân. Mae'n sylwi, ennyd,
ar y dwylo mawr, dulas,
y rhai sy'n nabod yr ias
giaidd yng nghanol gaeaf
na wêl 诺yr yng nghanol haf.
Gruffudd Antur 9.5
5 Pennill ymson wrth olchi’r car
Y Derwyddon
Cymeraf fy sedd bob Dydd Sadwrn
i ddarllen y Western Mail,
a’r swish-swish yn chwyrlïo o ’nghwmpas,
am bumpunt, mae’n fargen gwerth chweil!
Ond gyda phris tanwydd yn codi
‘sdim gobaith i rywun fel fi,
defnyddiaf fy ‘mys pas’ - i ddiawl a’r holl gost,
a throi’r Rover yn gennel i’r ci!
Llyr James – 8.5
Penllyn
Y mae dy lampau fu yn ddu
Yn danbaid fel y lleuad
A’th ddrychau di fel sêr y nos
Yn sgleinio yn fy llygad.
Fe fu y gwaith yn ymdrech fawr
Fe gliriwyd pla o bryfed
Eu coesau cam a’u cyrff yn slwj
Yn nofio yn y bwced.
Ond rôl y chwys a’r bysedd briw
Fan hyn y byddi’n llonydd,
Tra bydd dy danwydd di mor ddrud
Fe gerddaf hyd y lonydd.
Beryl Griffiths 8.5
Cynigion ychwanegol
Ar ôl ‘mhell dros flwyddyn yn segur
mae’r car coch yn dyheu am y ffyrdd,
ond nawr wrth i’m rwbio yn galed -
‘rwy’n gweld ei fod nawr yn un gwyrdd!
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Gweld o Chwith
Y Derwyddon
A minnau ond yn eiliad oed,
cyhoeddodd Mam fy enw,
“cei dy fedyddio’n Eryl Wyn,
boed wryw neu yn fen’w”.
Nid oedd fy ngeirfa ar y pryd
yn eang, ond mi lwyddais
i ddangos mod i’n gweld o chwith
cael enw crwt…… a sgrechiais!
Gweld chwith, dwi byth, o orfod mynd
’da’r bois i ‘whare ffwtbol;
ac ‘rwyf yn ‘Syr’ i’r sgamwyr sydd
yn ffonio yma’n ddyddiol.
Daw e-byst lu gan ferched gwyllt
yn daer yn chwilio dynion,
a’r hys-bys ddaw am dabled las,
sy’n llawn ei addewidion!
Mor ddryslyd ydy hyn o fyd,
beth allaf wneud am hyn?
mi holaf gyngor rhywun call,
fel.......... Mrs Ceri Wyn !
Eryl Mathias 8.5
Penllyn
Fe glywais i lu nefol
Un 'Dolig, do yn wir
Yn canu geiriau’r plygain
Yn uchel uwch y tir.
Es allan i’r tywyllwch
Ac edrych rownd y t欧,
A gwelais yn fy syndod
Yn uchel oddi fry
Ddau angel dan y lleuad
Yn codi dros ffens yr ardd,
Yn eu gynau gwynion
Golygfa digon hardd,
Fyny a lawr yr aethant
Fel rhyw ddwy wennol wen,
Aeth un i fyny’n uchel
A’r llall a thin dros ben.
Ond wedi craffu ‘mhellach
Adnabais i un dîn,
Ie, g诺r a gwraig drws nesa
Oedd ar eu trampolîn.
Alwyn Jones – 8.5
7. Llinell ar y pryd: Nid yw yn newyddion da
Y Derwyddon
Os cipiant Kyiv a'i difa,
nid yw yn newyddion da.
Tudur Hallam 0.5
Penllyn
Sion mewn dim byd ond sanna
Nid yw yn newyddion da!
Haf Llewelyn
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Obsesiwn
Y Derwyddon
Dewch i mewn i’m ‘stafell fach,
mae’n glyd, lle da am stori;
mi rannaf un gyfrinach fawr -
os gwisgwch ‘het dychmygu’!
Mae drws llawn hud i’m ‘stafell i,
a ffenest yn ei ganol,
‘rwyf wrth fy modd yn edrych mas
drwy’r dydd ar fyd rhyfeddol.
Fy nhegan newydd yw y drws,
mil gwell na Cyw a Peppa,
‘rwy’n treulio oriau’n mynd a dod
o’r siop neu Wlad Y Rwla.
Rhyw ddydd, pan fyddaf i yn fawr,
a’r byd yn gofyn rhagor ;
mi chwiliaf am y ffenest fach,
a’r drws sy’n cau ac agor.
Siw Jones 9
Penllyn
Achau
Er cof am ewythr arbennig - Evie Morgan Jones
Nid terfyn ydoedd clawdd dy filltir gron,
i ti roedd gwerth ar bob rhyw garreg fach,
a gallet osod llinach hwn a hon,
gan ddirwyn hyd y clawdd i'r seithfed ach.
'Pwy fu yn trwsio waliau ar Foel Wen?'
'Roedd, honno, wyddost ti, yn geifn i'th daid!'
A ninnau'n gwenu wedyn, ysgwyd pen,
ni fedren gofio'r oll am nad oedd raid.
Pan ddeuai dwylo newydd at y clawdd
gan geisio gosod carreg yn eu tro,
'Fan hyn mae'n perthyn?' Roeddet ti a'th nawdd
i ni yn garreg sail, yn bwyth, yn glo.
Heddiw mae niwl y topia'n cuddio'r tir,
Ond fory, bydd y clawdd i'w weld yn glir.
Haf Llewelyn 10
9 Englyn: Terfysg
Y Derwyddon
Bloody Sunday, Derry Ionawr 30ain 1972
Mae angerdd yn y cerdded, - a dolur
di-hawliau, diniwed,
a grym amgenach ei gred
na'u hawl i danio bwled.
Llyr James – 9.5
Penllyn
Mae o hyd 诺r ym meudy'i anobaith
heb neb i anelu'i
hen wn, y gwn sy'n mynnu
nad yw dyn ond coch a du.
Gruffudd Antur 9