Rhan o'r A470 ar gau wedi damwain tr锚n ger Llanbrynmair
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Trafnidiaeth wedi cadarnhau fod dau dr锚n cyflymder isel wedi taro yn erbyn ei gilydd ger Llanbrynmair.
Cadarnhaodd Network Rail a Trafnidiaeth Cymru bod y gwasanaethau brys yn ymateb i ddigwyddiad rhwng y tr锚n 18:31 o Amwythig i Aberystwyth a thr锚n 19:09 o Fachynlleth i Amwythig nos Lun.
"Mae'r rheilffordd ar gau wrth i'r gwaith fynd rhagddo," meddai datganiad ar y cyd.
"Ein prif flaenoriaeth yw diogelwch teithwyr ac ry'n yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi y gwasanaethau brys wrth iddyn nhw ymateb i'r digwyddiad."
Mae Heddlu-Dyfed Powys wedi cau ffordd yr A470 yn ardal Talerddig ac yn cynghori gyrwyr i osgoi'r ardal.
Yn 么l trigolion lleol mae ambiwlansys ac ambiwlans awyr wedi cyrraedd y safle ac yn 么l adroddiadau fe gyrhaeddodd hofrennydd gwylwyr y glannau Rescue 936 y lleoliad yn hwyr nos Lun.
Mae Gwasanaeth T芒n ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cadarnhau bod diffoddwyr t芒n yn ymateb i鈥檙 digwyddiad.
Dywedon nhw eu bod wedi'u galw wedi iddyn nhw gael eu hysbysu am ddamwain tr锚n am 19:34 ond maen nhw wedi gwrthod gwneud sylw pellach.
Dywed Trafnidiaeth Cymru y bydd y gwasanaethau rhwng Amwythig ac Aberystwyth yn cael eu canslo am y tro ond byddan nhw'n darparu dull arall o deithio rhwng y ddau le.
Oherwydd bod ffyrdd ar gau, ni fydd y gwasanaeth yn galw yng ngorsaf Caersws am y tro.