³ÉÈË¿ìÊÖ

Lluniau: Gŵyl Sŵn 2024

y dorfFfynhonnell y llun, Nadine Ballantyne
  • Cyhoeddwyd

Roedd hi'n benwythnos Gŵyl Sŵn unwaith eto yng Nghaerdydd – gŵyl sy'n llwyfannu'r talent cerddorol diweddaraf o Gymru a thu hwnt.

Llenwodd y mynychwyr wyth o wahanol leoliadau dros dridiau yn y brifddinas gan ddod â thair wythnos o ddathliadau Caerdydd Dinas Cerddoriaeth i ben.

Dyma rai o'r golygfeydd dros y penwythnos.

Ffynhonnell y llun, Elijah Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Razkid, artist grime a rap o Gaerdydd, yn perfformio yn Tiny Rebel. Mae Razkid wedi debryn cefnogaeth gan Forte Project – cynllun datblygu talent yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Jamie Chapman
Disgrifiad o’r llun,

Talulah yng Nghlwb Ifor Bach. Rhyddhaodd Talulah ei EP cyntaf, Solas, ym mis Medi. Buon nhw hefyd yn rhan o raglen ddogfen Radio Cymru, Deffro'r Atgof, yn nodi canrif ers i Prosses Rhys ennill y goron am y bryddest ddadleuol, Atgof.

Ffynhonnell y llun, Jamie Chapman
Disgrifiad o’r llun,

Lily Fontaine, prif leisydd y band English Teacher. Enillodd y band Gwobr Mercury mis diwethaf am ei albwm cyntaf, 'This Could Be Texas'.

Ffynhonnell y llun, Siria Ferrer
Disgrifiad o’r llun,

Un arall o leoliadau'r ŵyl, Cornerstone ar Charles Street. Yn ogystal â pherfformiadau dyma ble cynhaliwyd cynhadledd yr ŵyl, Sŵn Connect, a oedd yn cynnwys sesiynau panel di-ri.

Ffynhonnell y llun, Ceirios Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Y band indie/seicadelig, Melin Melyn. Mae'r band wedi meithrin enw da iddyn nhw eu hunain am sioeau byw hwyliog, egnïol ac unigryw.

Ffynhonnell y llun, Sam Stevens
Disgrifiad o’r llun,

Tu allan i Glwb Ifor Bach, yr ardal sy'n cael ei 'nabod yn annwyl gan y selogion fel "the smokers" - cyfle i bobl gael sgwrs fach rhwng gweld bandiau

Ffynhonnell y llun, Ceirios Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Mared, y gantores o Lannefydd

Ffynhonnell y llun, Jamie Chapman
Disgrifiad o’r llun,

Y Tramshed yn llawn yn mwynhau perfformiad English Teacher

Ffynhonnell y llun, Elijah Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Hana Lili, a oedd yn perfformio yn Cornerstone nos Sadwrn. Perfformiodd Hana yn Stadiwm Prinicipality yn 2023 yn cefnogi Coldplay.

Ffynhonnell y llun, Jamie Chapman
Disgrifiad o’r llun,

Adwaith, y band indie-rock o Gaerfyrddin, yn perfformio yn Tramshed

Ffynhonnell y llun, Sam Stevens
Disgrifiad o’r llun,

Perfformiad egnïol NewWaveSound.Ent yn Tiny Rebel

Ffynhonnell y llun, Siria Ferrer
Disgrifiad o’r llun,

Roedd nifer o drafodaethau'n cael eu cynnal yn ystod y penwythnos gyda arbenigwyr diwydiant, fel hon am y wasg gerddoriaeth gyfoes gyda rai o newyddiadurwyr y cylchgrawn DIY, Sophie Williams a Rupert Verker. Cafodd y brif sgwrs ei chynnal brynhawn dydd Sadwrn pan sgwrsiodd Gavin Allen o Brifysgol Caerdydd efo Lily Fontaine o English Teacher a Phillip Selway o Radiohead.

Ffynhonnell y llun, Jamie Chapman
Disgrifiad o’r llun,

Yn dod a cherddoriaeth ag elfen gwerin i'r ŵyl oedd y gantores Mari Mathias. Yn gynharach eleni roedd Mari yn un o artistiaid Green Man Rising yn yr ŵyl yng Nghrughywel.

Ffynhonnell y llun, Ceirios Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Malan, y gantores o Wynedd, yn perfformio yn Tiny Rebel.