Dyn ar ffo rhag yr FBI yng Nghymru yn 'ddymunol, hoffus a distaw'
- Cyhoeddwyd
Roedd dyn oedd ar ffo rhag yr FBI yng ngogledd Cymru yn "ddymunol, hoffus, a digon distaw", yn 么l un wnaeth werthu ei d欧 iddo'r llynedd.
Cafodd Daniel Andreas San Diego ei arestio yn ardal Maenan, Sir Conwy, ddydd Llun, ar 么l bod ar restr Most Wanted yr FBI yn yr Unol Daleithiau ers 20 mlynedd.
Dywedodd Aled Evans nad oedd wedi adnabod lluniau'r FBI yn syth, ond ei fod bellach yn sicr mai dyma'r dyn wnaeth gyflwyno ei hun fel 'Danny' wrth brynu'r t欧 am 拢425,000.
Yn siarad ar Dros Frecwast fore Iau, dywedodd Mr Evans bod y t欧 a werthodd mewn lleoliad anghysbell fyddai'n "le perffaith iddo fo brynu a cadw ei ben i lawr".
Cafodd Daniel Andreas San Diego ei arestio mewn cysylltiad 芒 dau fom wnaeth ffrwydro yn ardal San Francisco, California yn 2003.
Mae gwybodaeth gan yr FBI yn dweud fod dau fom wedi ffrwydro tua awr ar wah芒n ar 28 Awst 2003 ar gampws cwmni biotechnoleg yn Emeryville.
Fe wnaeth bom arall oedd yn cynnwys hoelion ffrwydro ar safle cwmni cynhyrchion maeth yn Pleasanton ar 26 Medi 2003.
Cafodd San Diego ei gyhuddo mewn llys yn California ym mis Gorffennaf 2004 am ei gysylltiad honedig 芒鈥檙 troseddau, yn 么l yr FBI.
Dywedodd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ddydd Mercher eu bod yn credu bod San Diego yn byw yn yr ardal ers "nifer o flynyddoedd", o bosib dan enw arall.
Mae Mr San Diego wedi cael ei gysylltu 芒 gr诺p hawliau anifeiliaid eithafol yn y gorffennol gan yr FBI.
Ar 么l ei arestio, dywedodd llefarydd ar ran yr FBI ei fod 鈥測n dangos, waeth pa mor hir mae'n ei gymryd, bydd yr FBI yn dod o hyd i chi".
Y gred yw nad oedd Mr San Diego wedi ei weld gan yr FBI ers 2003 pan oedd swyddogion yn ei ddilyn yn San Francisco.
"Parciodd ei gar, dod allan ohono a cherdded i lawr y stryd ac yna, os dwi'n cofio'n iawn, aeth i mewn i orsaf drenau Bart a dyna oedd y tro diwethaf i ni ei weld", meddai'r David Johnson o'r FBI yn 2013.
Mae'n wynebu cael ei gludo yn 么l i鈥檙 Unol Daleithiau er mwyn wynebu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Ymddangosodd Mr San Diego yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mawrth, wrth i'r achos o'i gludo ddechrau, ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa.
Roedd gwobr o $250,000 (拢199,000) am wybodaeth oedd yn arwain at ei ganfod.
Mae gwybodaeth Y Gofrestrfa Tir yn dangos fod Mr San Diego wedi defnyddio'r enw Danny Webb i brynu'r t欧 am 拢425,000 ar 10 Awst, 2023.
Dywedodd Aled Evans ei fod wedi gwerthu'r t欧 i ddyn o'r enw 'Danny'.
"Buon ni'n sgwrsio 芒 fo am ryw bum munud ac 'oedd o wedi ei syfrdanu gyda'r olygfa o'r lle.
"'Oedd y golygfa o Llidiart y Coed yn werth ei weld a dyna ddaru werthu'r lle i fo a ro'th o gynnig ar y t欧 dydd Llun a felly fuodd hi, ddaru o brynu鈥檙 lle."
Roedd o'n ddyn "dymunol, hoffus a digon distaw," meddai Mr Evans.
"O'n i'n meddwl na Canadian oedd o, ddim Americanwr, am bod o'n siarad yn ddistaw...
"'Oedd o'n licio beicio mynydd a'r goedwig wrth y t欧 - 'oedd o'n edrych ymlaen at fynd ar ei feic trwy'r coed.
"Fe wnaeth cyn-gymydog ffonio ni gyda'r nos nos Fercher... nes i edrych ar y lluniau eto a meddwl 'ia, fo ydi o'."
Dywedodd Mr Evans fod 'Danny' wedi dweud iddo ddod i Gymru i weithio.
"'Oedd o'n gweithio ym myd IT ac oedd o'n dweud bod o'n byw yn ochra'r Wyddgrug, a bod genna fo d欧 yn Wyddgrug a doedd genna fo ddim angen gwerthu hwnnw cyn prynu lle ni, so doedd pres ddim yn swnio'n broblem."
Mae'r t欧 mewn lleoliad eithaf anghysbell, meddai Aled - sy'n dweud fod y newyddion "heb suddo i fewn eto".
"'Oedd y t欧 yn arbennig, fel 'sa chi'n deud - you either love it, or hate it - doedd o'm yn d欧 i 90% o bobl.
"'Oedd yr ardd yn fawr, a 'chydig bach yn serth. Ac oedd 'na waith - dyna pam oedda ni'n gadael oherwydd fod ni'n gwario gormod o amser yn garddio ac yn edrych ar 么l y lle.
"Ond fel mae pethau wedi troi allan, 'oedd o'n le perffaith i fo brynu a cadw'i ben i lawr."
Ychwanegodd bod y dyn wedi "dotio at yr olygfa", ond bod siawns y "bydd ei olygfa am y blynyddoedd nesaf yn ddipyn salach yn bydd".
Yn 么l gohebydd 成人快手 Cymru, Rob Thomas, mae Llidiart y Coed yn "anodd iawn i'w ffeindio" mewn ardal mor wledig nes bod gyrwyr "prin yn mynd tu hwnt i'r ail g锚r".
Dywedodd: "Pan lwyddodd yr FBI o'r diwedd i ddal eu dyn roedd yn byw ar ddiwedd trac hir, cul sydd prin yn bosib i yrru arno.
"Mae'n rhan o lwybr troed ar fryn serth, coediog tua golygfan boblogaidd Cadair Ifan Goch a'r golygfeydd syfrdanol ar draws y Carneddau.
"Mae Llidiart y Coed yn elwa, fel y byddai gwerthwyr tai yn ei ddweud, o'r un golygfeydd syfrdanol.
"Dim ond s诺n isel y traffig o'r A470 sy'n eich atgoffa pa mor agos rydych chi mewn gwirionedd at fywyd cyfoes bob dydd.
"Mae'r t欧 ei hun o olwg defnyddwyr y llwybr troed oherwydd garej fawr sydd uwch ei ben."
Ychwanegodd bod sawl t欧 lleol yn ymddangos yn dai haf, a bod dau sy'n byw yn lleol heb gael cysylltiad uniongyrchol 芒 San Diego, er bod un yn 'nabod ei gar, sydd wedi parcio ger y t欧.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn 么l