成人快手

Arestio dyn ar ffo rhag yr FBI yng ngogledd Cymru

Poster 'Most Wanted Terrorist' Daniel Andreas San DiegoFfynhonnell y llun, FBI
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn oedd ar restr Most Wanted yr FBI yn yr Unol Daleithiau wedi cael ei arestio yng ngogledd Cymru ddydd Llun.

Cafodd Daniel Andreas San Diego ei arestio yn Sir Conwy, 20 mlynedd ers i ddau fom ffrwydro yn ardal San Francisco.

Roedd Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Gwrth-derfysgaeth yn rhan o'r digwyddiad gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol.

Cadarnhaodd yr FBI bod y dyn wedi ei ganfod mewn eiddo yng nghefn gwlad, ger coedwig.

Mae'r FBI wedi bod yn chwilio am y dyn 46 oed ers i fomiau ffrwydro ger swyddfeydd, y cyntaf yn Emeryville yn Awst 2003.

Ym Medi 2003, ffrwydrodd bom arall y tu allan i gwmni yn Pleasanton.

Ffynhonnell y llun, FBI

Bellach mae'n wynebu cael ei gludo yn 么l i鈥檙 Unol Daleithiau er mwyn wynebu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Mae Mr San Diego wedi cael ei gysylltu 芒 gr诺p hawliau anifeiliaid eithafol yn y gorffennol gan yr FBI.

Dywedodd llefarydd ar ran yr FBI bod arestio'r dyn 鈥測n dangos, waeth pa mor hir mae'n ei gymryd, bydd yr FBI yn dod o hyd i chi".

Ymddangosodd Mr San Diego yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mawrth, wrth i'r achos o'i gludo ddechrau, ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa.

Roedd gwobr o $250,000 (拢199,000) am wybodaeth oedd yn arwain at ei ganfod.

Pynciau cysylltiedig