成人快手

Mam i bedwar o Wynedd yn cael ei dedfrydu ar 么l esgeuluso ei phlant

Llys CaernarfonFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Clywodd y llys bod dau o'i phlant wedi eu darganfod yn noeth yn eu cartref

  • Cyhoeddwyd

Mae mam o Wynedd wedi derbyn gorchymyn cymunedol o 18 mis ar 么l cyfaddef i bedwar cyhuddiad o esgeuluso plant.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon bod dau o'i phlant wedi eu canfod yn noeth yn eu cartref, lle cafwyd hyd i ysgarthion mewn ystafell wely ac mewn ystafell ymolchi.

Roedd y fam i bedwar, nad oes modd ei henwi oherwydd cyfyngiadau cyfreithiol, wedi cyfaddef y cyhuddiadau ar 么l i gymdogion godi pryderon ar 么l i larwm d芒n seinio am amser hir.

Wrth ddod o hyd i offer cegin yn toddi ar y popty, gwelodd cymdogion ddau o blant yn noethlymun yn y t欧.

Nid oedd y diffynnydd 鈥測n deall yr hyn a ofynnwyd iddi鈥 pan holodd cymdogion am leoliad ei phlant eraill, gan ganfod un yn cysgu yn yr ystafell fyw.

Yn ddiweddarach daeth yr heddlu o hyd i sbwriel sylweddol ar y llawr, clytiau budr, potel wydr wedi torri a鈥檙 bath 鈥渨edi鈥檌 daenu mewn carthion鈥 - roedd olion traed hefyd yn dangos bod plentyn wedi cerdded drwy鈥檙 baw.

Roedd meddyginiaethau hefyd wedi'u gweld 鈥測n hawdd o fewn cyrraedd plentyn鈥, gyda larwm mwg yn y lolfa hefyd wedi ei orchuddio gan fag plastig.

Dywedodd y diffynnydd ei bod wedi disgyn i gysgu ac wedi 鈥減anicio鈥, ond cyfaddefodd yn ddiweddarach ei bod yn 鈥渆i chael hi鈥檔 anodd ymdopi鈥.

Gan nodi ei bod hi fel arfer yn glanhau鈥檙 t欧 bob wythnos, roedd hi鈥檔 鈥済wybod ei fod yn dipyn o lanast鈥.

'Llanast afiach'

Clywodd y llys fod gan y diffynnydd 鈥渁nghenion cymhleth鈥 a鈥檌 bod 鈥渁ngen help鈥, yn byw gyda 鈥渘ifer o gyflyrau iechyd meddwl鈥 ac wedi dioddef trawma tra'n blentyn.

Dywedodd hefyd ei bod yn caru ei phlant a'i bod yn gobeithio adfer cysylltiad 芒 nhw yn y dyfodol.

Cafodd yr amodau yn y cartref eu disgrifio gan y Barnwr Timothy Pets fel rhai 鈥渁flan鈥 a bod 鈥渓lanast afiach鈥, ond gwnaeth hefyd gydnabod fod gan y diffynnydd 鈥渂roblemau iechyd meddwl sylweddol鈥.

鈥淲naethoch chi ddim ymdopi 芒 pha mor ddrwg oedd pethau鈥檔 mynd,鈥 meddai.

鈥淢ae angen cyfnod hir gyda gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol.鈥

Gan gydnabod ei bod 鈥渨edi cymryd camau breision tuag at roi trefn ar ei bywyd鈥, cafodd orchymyn cymunedol 18 mis a bydd hefyd yn cael cynnig cymorth iechyd meddwl.

Bydd hefyd yn ofynnol iddi wisgo tag electronig am 120 diwrnod i fonitro ymataliad alcohol a chwblhau 100 o oriau o waith di-d芒l.

Pynciau cysylltiedig