成人快手

Ceredigion: Disgwyl cefnu ar gynllun i gau ysgolion cynradd

Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn yw un o'r ysgolion sydd 芒'i dyfodol yn y fantol

  • Cyhoeddwyd

Mae鈥檔 ymddangos na fydd pedair ysgol gynradd wledig yng Ngheredigion yn cau'r flwyddyn nesaf ar 么l i鈥檙 cyngor dderbyn her ffurfiol i鈥檙 cynnig i beidio 芒鈥檜 hariannu ar 么l y flwyddyn academaidd bresennol.

Mae dyfodol pedair ysgol wedi bod o dan ystyriaeth - ym mhentrefi'r Borth, Llangwyryfon, Llanfihangel-y-Creuddyn a Phonterwyd.

Ond mae yn awgrymu nad yw'r cynllun gwreiddiol i gau'r ysgolion erbyn 31 Awst 2025 yn "gyraeddadwy" ac y dylid trin yr ymgynghoriad statudol presennol fel un "anffurfiol ar ad-drefnu a dyfodol yr ysgolion".

Wrth ymateb, dywedodd Cyngor Ceredigion eu bod yn derbyn nad yw'r amserlen gyfredol ar gyfer y broses ad-drefnu "yn un y gellir ei chyflawni", a'u bod am "ddadansoddi'n briodol" wedi'r ymgynghori anffurfiol.

Ysgol Craig yr Wylfa, Borth, Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn, Ysgol Syr John Rhys, Ponterwyd ac Ysgol Llangwyryfon oedd yr ysgolion oedd yn destun ymgynghoriad.

Ym mis Medi fe wnaeth y cyngor sir gymeradwyo dechrau proses ymgynghori ar y posibilrwydd o gau'r ysgolion - gan ddweud mai niferoedd isel o ddisgyblion a dyletswydd i wneud arbedion oedd wrth wraidd y penderfyniad.

Yn 么l adroddiadau i gabinet y cyngor, mae ffigyrau'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) yn awgrymu bod nifer y plant yn yr ysgolion wedi gostwng ers 2020, tra'u bod yn rhagweld cwymp pellach yn y dyfodol.

Ond roedd ymateb chwyrn i'r cynlluniau yn lleol, gydag ymgyrchwyr yn dadlau bod yr ysgolion yn ganolog i'w cymunedau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu nifer o ymgyrchwyr yn protestio yn erbyn y cynlluniau i gau'r ysgolion

Mae papurau'r cabinet yn nodi fod yr awdurdod lleol wedi derbyn her ffurfiol i'r cynlluniau i gynnal ymgynghoriad statudol ar 19 Tachwedd.

O ganlyniad, fe fydd y cabinet yn ystyried a oes angen diwygio'r penderfyniad i gynnal ymgynghoriad statudol er mwyn gwneud "y broses bresennol yn un o gyfnod ymgynghori anffurfiol er mwyn casglu rhagor o wybodaeth".

Ychwanega'r dogfennau: "Bydd yr ymatebion a dderbynnir yn ystod y cyfnod ymgynghori anffurfiol yn cael eu dadansoddi'n briodol, a bydd unrhyw argymhellion o ymgynghoriad statudol yn y dyfodol, ac asesiadau yn cael eu paratoi a'u cwblhau mewn dull cynhwysfawr.

Bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i鈥檙 cabinet 鈥渕aes o law鈥.

Amserlen ddim yn 'gyraeddadwy'

Mae'r adroddiad, a fydd yn cael ei drafod gan y Cabinet ddydd Mawrth, yn dweud nad yw "peidio a虃 chynnal yr ysgolion o 31 Awst 2025 yn opsiwn, ac nid yw'r amserlen yn gyraeddadwy.鈥

"Derbynnir nad yw鈥檙 amserlen gyfredol ar gyfer y broses ad-drefnu yn un y gellir ei chyflawni."

Os yw aelodau鈥檙 cabinet yn cefnogi鈥檙 argymhellion, mae鈥檔 golygu na fydd yr ysgolion yn cau'r flwyddyn nesaf.

Mae鈥檙 adroddiad hefyd yn nodi鈥檙 risg y gallai鈥檙 cyngor wynebu her gyfreithiol os yw鈥檔 bwrw ymlaen gyda鈥檙 ymgynghoriad statudol.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu'r tro pedol posib gan ddisgrifio llywodraethwyr a rhieni'r pedair ysgol fel "ysbrydoliaeth i gymunedau ar draws Cymru ac esiampl wych i'r plant".

Dywedodd Cyngor Ceredigion: "Gofynnir i鈥檙 Cabinet ailystyried y penderfyniad i gymeradwyo'r cynnig i ddechrau ar y broses o gynnal ymgynghoriad statudol er mwyn dod i ben 芒鈥檙 ddarpariaeth yn y bedair Ysgol o 31 Awst 2025.

"Yn dilyn sialens ffurfiol i鈥檙 amserlen a chynnwys y ddogfen ymgynghori a鈥檙 asesiadau effaith gysylltiedig, derbynnir nad yw鈥檙 amserlen gyfredol ar gyfer y broses ad-drefnu yn un y gellir ei chyflawni.

"Mi fydd yr ymatebion a dderbynnir yn ystod y cyfnod ymgynghori anffurfiol yn cael eu dadansoddi'n briodol, a bydd unrhyw argymhellion o ymgynghoriad statudol yn y dyfodol, ac asesiadau yn cael eu paratoi a'u cwblhau mewn dull cynhwysfawr."

Pynciau cysylltiedig