³ÉÈË¿ìÊÖ

Y dysgwr Cymraeg sy'n byw yng nghartref Daniel Owen

Nigel Ruck tu allan i'w gartrefFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Nigel Ruck tu allan i'w gartref

  • Cyhoeddwyd

Yn ei ddyddiau ysgol cynnar ym Mynydd Cynffig nôl yn y 70au roedd Nigel Ruck yn dioddef yn hytrach na mwynhau gwersi Cymraeg.

"I fi roedd o fel Lladin, o'n i ddim yn ei ddeall o gwbl, ddim yn ei fwynhau," meddai.

Ond erbyn hyn, mae'r peiriannydd 63 oed wedi gweld tro ar fyd ac yn diwtor gyda Coleg Cambria yn y gogledd yn helpu eraill i ddysgu'r iaith.

Ffynhonnell y llun, Charlie Wiles
Disgrifiad o’r llun,

Nigel Ruck - erbyn hyn mae'r peiriannydd rhan-amser yn diwtor Cymraeg gyda Coleg Cambria

O 'ddioddef' yr iaith, i diwtora

Daeth y cyfan wedi ymweliad â Bangor rai blynyddoedd yn ôl a darganfod fod y Gymraeg yn iaith fyw ar y strydoedd ac yn drysor oedd yn werth ei chadw a'i throsglwyddo i eraill.

Dywedodd pan gafodd ei fagu ym Mynydd Cynffig ger Pen-y-bont ar Ogwr, doedd o ddim yn credu bod yna unrhyw un yn siarad Cymraeg yn lleol; argraff mae'n cyfadde’ oedd yn un anghywir.

Yn yr ysgol nid oedd y Gymraeg yn un o'i hoff bynciau, meddai: "I ddweud y gwir fe fethais i arholiad GCE yr adeg hynny, oedd hynny yn dweud llawer."

Ond nawr, ac yntau yn gweithio'n rhan amser am ddau ddiwrnod yr wythnos, mae'n mynd ati i roi gwersi Cymraeg gyda'r nos yn ardal Bwcle, Sir Y Fflint.

Ffynhonnell y llun, Charlie Wiles
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwersi dan ofal Nigel ym Mwcle yn awr a hanner o hyd, ddwywaith yr wythnos

Ar ôl graddio mewn peirianneg ym Manceinion a gweithio am gyfnod yng ngwaith BP ym Mae Baglan, fe symudodd i weithio i Adran yr Amgylchedd yn 2001. A dyna pan ddaeth y tro ar fyd ieithyddol.

"Pan o'n i yn astudio ym Manceinion, o'n i o hyd yn teimlo yn Gymro. Ond pan es i Fangor a chlywed yr iaith yn cael ei siarad o'n i'n teimlo fel bod rhywbeth ar goll.

"Wrth fynd yn ôl i Fanceinion neu Warrington roeddwn yn teimlo fy mod ond yn hanner Cymro heb yr iaith."

Yna daeth cyfle gyda'i waith i fynd ar gwrs Cymraeg yn y Gweithle gyda Phrifysgol Bangor yn 2001.

"Nes i fwynhau o yn fawr, y dull o ddysgu, oedd o mor wych," meddai.

Symud i wlad Daniel Owen

Symudodd i fyw i'r Wyddgrug, ond parhaodd gyda'r gwersi Cymraeg gan fynd ar gwrs Wlpan yn 2003.

"Mi wnes i symud efo Asiantaeth yr Amgylchedd o Fangor i swydd newydd yn Warrington ym mis Mai 2005," meddai.

"Erbyn hynny ro'n i'n hooked ar y dysgu ac ro'n i'n lwcus i ddarganfod cyrsiau nos yn Yr Wyddgrug.

"Roeddwn yn mynd i wersi o dan adain y Brifysgol yn Yr Wyddgrug gydag Eirian Conlon, ac yna gwersi Cymraeg pellach, uwch a gloywi."

Ac i unioni'r cam a'i gyfnod ysgol uwchradd, fe brofodd ei allu ieithyddol gyda Lefel A yn y Gymraeg.

"Mae dysgu'r iaith wedi agor gymaint o ddrysau, dod i werthfawrogi llenyddiaeth Cymraeg a dod i wybod gwahanol bethau am fy Nghymru i," meddai.

"Dim ond ar ôl dysgu'r iaith a holi ambell i berson nôl ym Mynydd Cynffig nes i ddod i wybod fod yna rai ar yr un stryd â mi pan oeddwn yn tyfu fyny yn siarad yr iaith, ond oedd o ddim yn amlwg pryd hynny."

Ffynhonnell y llun, Eirian Conlon
Disgrifiad o’r llun,

Nigel Ruck, sy'n byw yng Nghae'r Ffynnon, cartref Daniel Owen, a Brian Lloyd, Maer Yr Wyddgrug yn ystod y seremoni i ddadorchuddio'r plac glas

Mae'n sôn hefyd am ei anwybodaeth cyn dysgu Cymraeg am lenyddiaeth Cymraeg ac am un cyd-ddigwyddiad rhyfedd iawn.

"Wrth edrych am dÅ· i brynu yn Yr Wyddgrug dywedodd y gwerthwr wrthyf fod y tÅ· yn un oedd yn gartref i'r nofelydd Daniel Owen.

"Doedd gennyf ddim syniad pwy oedd y Daniel hwn, na chwaith pa mor bwysig oedd o i hanes y nofel yng Nghymru.

"Erbyn hyn mae yna garreg coffa i nodi'r man lle gafodd Daniel Owen ei eni, a hefyd ddiwedd Medi cafodd cofeb las ei ddadorchuddio ar ein tÅ·, i nodi'r fan lle fu'n byw wedi llwyddiant ei nofelau cyntaf."

Ffynhonnell y llun, Eirian Conlon
Disgrifiad o’r llun,

Cae'r Ffynnon, a gafodd ei adeiladu am £400, yr elw wnaeth Daniel Owen o'i nofel lwyddiannus Rhys Lewis, a'r garreg sy'n nodi lle cafodd y nofelydd ei eni

Bellach mae Nigel wedi byw yn Y Wyddgrug am bron i 20 mlynedd a'i ferch, Megan, wedi bod drwy'r gyfundrefn addysg Gymraeg.

"Mae hi newydd gwblhau ei blwyddyn gyntaf yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ym Mangor ac fe fydd hi yn dilyn rhan o'i chwrs hi drwy gyfrwng y Gymraeg."

Y teiliwr a ddaeth yn nofelydd

Ffynhonnell y llun, Swyddfa Gofnodion Sir y Fflint
Disgrifiad o’r llun,

Daniel Owen - awdur nofelau fel Y Dreflan ac Enoc Huws

Cafodd Daniel Owen ei eni yn Yr Wyddgrug, mewn rhes o dai teras oedd yn gartref i lowyr.

Boddwyd ei dad a dau frawd iddo mewn damwain ym mhwll glo’r Argoed, gan adael y teulu mewn tlodi.

Yn gweithio mewn siop fel prentis teiliwr dechreuodd lenydda ac ysgrifennu. Gydag elw o'i nofelau cyntaf fe benderfynodd godi tÅ· i'w fam ar draws y ffordd i'w gartref genedigol. Erbyn heddiw y tÅ· hwnnw - Cae'r Ffynnon - yw cartref Nigel Ruck a'i deulu.

Mae'r cyn brentis teiliwr yn cael ei gydnabod fel nofelydd Cymraeg mwyaf blaengar y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Bydd Gŵyl Daniel Owen - sy'n dathlu bywyd a chyfraniad y nofelydd - yn cael ei chynnal rhwng Hydref 19-25 yn Yr Wyddgrug.