³ÉÈË¿ìÊÖ

Canser y fron: Blwyddyn o aros, poeni, rhannu a gobeithio

Elin GlynFfynhonnell y llun, Elin Glyn
  • Cyhoeddwyd

Ar 18 Hydref 2023, teimlodd Elin Glyn o Fae Penrhyn lwmp yn ei bron am y tro cyntaf. Ers hynny, mae hi wedi cofnodi ei siwrne ar ei chyfrif Instagram.

Flwyddyn yn ddiweddarach, a hithau’n fis Ymwybyddiaeth Canser y Fron, mae Elin yn rhannu gyda Cymru Fyw yr hyn sydd wedi digwydd iddi dros y flwyddyn ddiwethaf, a pham ei bod hi wedi dewis bod mor agored â phosib am ei salwch ar y cyfryngau cymdeithasol. Dyma ei stori:

Ffynhonnell y llun, Elin Glyn
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y newyddion am y canser o gwmpas pen-blwydd merch Elin yn ddwy oed

"Fel wal gerrig yn hitio chdi’n syth yn dy fol"

"18 Hydref 2023 - diwrnod ‘na i fyth anghofio. Mynd ag Arthur, yr hynaf oedd newydd droi’n bump, i’r ysgol, a dod adra a newid clwt Ani – oedd yn flwydd - a ges i boen sydyn ond siarp yn fy mrest dde. Yno roedd lwmp nad oeddwn wedi deimlo o’r blaen, ond lwmp amlwg.

"Ffoniais Mam a’r gŵr yn syth, mewn panic llwyr. Y ddau yn dweud wrtha i i drio peidio poeni, ond i ffonio y doctor yn syth i fod yn saff. O fewn hanner awr roedd gen i apwyntiad ar gyfer y diwrnod wedyn.

"Wrth edrych yn ôl, unwaith teimlais y lwmp, dwi’n meddwl ro’n i’n gwybod mai canser oedd o. Pan es i i glinig y frest, gwelais wyneb y radiographer... ac ro’n i’n gwybod. Ges i fy ngyrru am mammogram ar ôl yr ultrasound a griais i drwy’r holl beth (bechod ar y ddynas oedd yn ’neud o!).

"Ond wrth i mi adael y clinig, dywedodd y doctor ei bod hi yn 90% siwr mai lympiau benign oedd yno ac i mi beidio poeni.

"Tua pythefnos wedyn ges i apwyntiad, a ‘na i byth anghofio y sioc o glywed y geiriau ‘it’s cancer’. Hyd yn oed ar ôl mis o drio paratoi fy hun ‘jyst rhag ofn’, roedd o fel wal gerrig yn hitio chdi’n syth yn dy fol.

"Dwi’m yn cofio llawer o weddill yr apwyntiad hwnnw, dim ond cofio Mam yn crio a jyst teimlad o boeni yn ofnadwy dros y plant."

Ffynhonnell y llun, Elin Glyn
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl wynebu canser, mae Elin yn bwriadu mwynhau ei bywyd

Instagram yn gyfle i fod yn 'hollol onest'

Beth a ddilynodd oedd wythnosau o brofion ac aros am atebion. Cafodd y newyddion da fod y canser ddim wedi lledu i’r nodau lymff, ond y newyddion ddim cystal fod rhaid iddi gael codi ei bron dde.

Yn ffodus, dydi hi ddim wedi gorfod cael cemotherapi, ac mae Elin nawr yn iach o ganser.

Dechreuodd Elin gyfrif Instagram, yn gynnar iawn yn ei siwrne â chanser, rhywbeth sydd wedi bod o help mawr iddi ddygymod â’r hyn roedd hi’n mynd drwyddo, meddai.

"Mae bod yn hollol agored wedi bod yn help enfawr i fi. Does na’m byd gwaeth pan tydi pobl ddim yn siŵr beth i ddweud, neu’n teimlo fel eu bod nhw angen anwybyddu'r pwnc yn gyfan gwbl, achos mae o'n rhywbeth sydd yn cymryd bywyd drosodd ac yn amhosib ei anwybyddu.

"Cymuned Instagram 'nath helpu fwya’ dwi’n meddwl. Doeddwn i ddim yn 'nabod neb oed fi – 33 – oedd yn mynd trwy’r un peth, felly roedd jyst edrych ar gyfrifon gwahanol o bobl yn yr un sefyllfa yn help mawr o ran y positifrwydd a rhannu teimladau.

"Dwi’n berson reit swil, ac felly mae’r cyfrif wedi rhoi mwgwd i fi guddio tu ôl, mewn ffordd, ac wedi rhoi’r cyfle i mi fod yn hollol onest a dangos y positifrwydd ro’n i rili angen ei glywed lot o’r amser.

Ffynhonnell y llun, Elin Glyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elin wedi rhannu popeth ar ei chyfrif Instagram - o aros am ei mastectomy yn yr ysbyty ym mis Ionawr, i'r prawf diweddaraf ar lwmp ar ei bron chwith dros yr haf

"Hefyd, i ddangos y darnau ddim mor bositif, pan roeddwn i yn cael dyddiau rili caled. Ar yr adegau yna, roedd cymaint o bobl - pobl doeddwn i erioed wedi cyfarfod o’r blaen - yn estyn allan ac yn bod yn gymaint o nerth i mi.

"Mae ‘na adegau tywyll iawn pan yn mynd trwy driniaeth canser, ac mae iechyd meddwl yn cael dipyn o battering! Ond dwi’n meddwl fod hyn yn fwy o gymhelliad i fi rannu popeth.

"Mae pawb wedi bod yn hollol amazing ac isho helpu, ond dwi wedi sylweddoli nad oes neb yn deall yn llwyr os nad ydyn nhw wedi cael ei effeithio r’un fath. Felly os ydy’r pethau dwi’n rhannu yn helpu rywun, yna mae werth o!

"Yn ddiweddar rydw i wedi bod ar gwrs Moving Forward sydd yn cael ei gynnal gan elusen Breast Cancer Now. Yno, fe gwrddais i â’r grŵp o ferched mwya’ ysbrydoledig, ac maen nhw wedi bod yn gymaint o help.

"Mae diagnosis canser yn gallu bod yn unig ofnadwy, ac mae siarad gyda phobl sydd yn yr un cwch yn amhrisiadwy."

Edrych tua'r dyfodol

Er iddi ‘ganu’r gloch’ yn yr ysbyty fel arwydd ei bod wedi gorffen ei driniaeth ym mis Ebrill, cafodd gyfnod pryderus arall ym mis Gorffennaf, pan deimlodd lwmp newydd yn ei bron chwith. Yn ffodus, cafodd ei brofi nad oedd y canser yn ei ôl.

Mae Elin nawr ar siwrne corfforol, i ad-ennill egni, a siwrne emosiynol, i geisio dod i delerau gyda’r hyn mae hi wedi mynd drwyddo, ac mae hi'n edrych ymlaen gyda chynnwrf i’r dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Elin Glyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elin a'i theulu a ffrindiau wedi bod yn codi arian i elusen canser y fron ers ei diagnosis

"Dwi’n meddwl mod i wedi colli ffydd yn fy nghorff trwy y diagnosis; mae o wedi fy ngadael i lawr. Ac ar ôl colli’r frest, fe gollais i lot o hyder.

"Mae ymarfer corff wedi rhoi ychydig o hyn yn ôl i mi ac dwi isho bod mor iach a ffit a dwi’n gallu. Dwi’n meddwl bod hi’n bwysig trio edrych ar ôl fy hun a fy iechyd meddwl.

"Dwi’n meddwl bod pob rhan o’r daith wedi dod â thameidiau anodd a phethau gwahanol i boeni amdanyn nhw.

"I ddechrau, roedd y disgwyl am atebion yn annioddefol. Poeni mod i’n mynd i adael y plant heb fam a’u bod nhw rhy ifanc i gofio fi. Dwi’n meddwl mai dyna oedd y peth anoddaf un.

"Ond wrth i’r triniaeth fynd yn ei flaen ac wrth i mi sylweddoli mod i yn y dwylo gorau a fod modd trin y canser, fe ddysgais i reoli y poeni a cheisio’i droi mewn i bositifrwydd.

"Tydi hyn ddim yn bosib bob tro yn amlwg. Weithiau dim ond crio gyda ffrind neu ‘ngŵr neu mewn i glustog neith y job! A ma’ hynny’n ocê.

Ffynhonnell y llun, Elin Glyn
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi’n edrych ymlaen i flwyddyn gyda lot llai o boeni gobeithio, a jyst byw bywyd a mwynhau’r teulu bach"

"Faswn i yn dweud wrth Elin Hydref 2023: 'Ti’n mynd i fod yn ocê. Mae’r siwrne yn anodd ac mae ‘na adegau caled, ond ti’n galetach ac mae pawb yn mynd i helpu chdi trwyddo.' Hefyd 'don’t sweat the small stuff!'

"Ma’n anodd coelio y flwyddyn ddiwethaf. Mae bywyd wedi newid yn gyfan gwbl. Dwi fel person wedi newid, a dwi’n dysgu dod i arfer hefo hynny a gweithio allan beth yw fy ‘normal’ newydd i.

"Dwi’n edrych ymlaen i flwyddyn gyda lot llai o boeni gobeithio, a jyst byw bywyd a mwynhau’r teulu bach. Dwi wedi dysgu bod bywyd yn fyr, a dwi’n bwriadu ei fwynhau tra dwi’n gallu!"

Pynciau cysylltiedig