Darganfod hen lun gan Dafydd Iwan mewn siop elusen
- Cyhoeddwyd
Yng nghefn meddwl nifer o bobl wrth chwilota mewn siopau elusen mae 'na gwestiwn: oes 鈥榥a drysor cudd yn llechu yma sy'n disgwyl i gael ei ddarganfod?
Dyna鈥檔 union ddigwyddodd i ddynes o Fwcle pan ddaeth o hyd i ddarlun wedi ei beintio gan Gymro adnabyddus鈥 ond un sydd ddim yn enwog am ei luniau.
'Does bosib bod o'n peintio hefyd'
Roedd Marian Antrobus, sydd o Lanefydd yn wreiddiol, yn gwirfoddoli yn siop elusen T欧鈥檙 Eos ym Mwcle yn ddiweddar - fel mae wedi gwneud unwaith yr wythnos ers pum mlynedd.
Un o'i thasgau cyntaf yn y bore ydi paratoi'r ffenest siop i geisio denu cymaint o bobl 芒 phosib i ddod i mewn a gwario, er mwyn codi cymaint o arian 芒 phosib i鈥檙 hosbis yn Wrecsam.
Wrth iddi weithio yn y ffenest fe welodd un o鈥檙 rhoddion oedd ar werth - llun o Garn Fadryn, Pen Ll欧n.
Mewn cyfweliad ar raglen Bore Cothi ar 成人快手 Radio Cymru dywedodd: 鈥淒yma fi鈥檔 gweld yr ochr arall, tu 么l i鈥檙 llun - ac roedd 鈥榥a amlen ac roedd o鈥檔 dweud 鈥楧afydd Iwan鈥 ar un o鈥檙 lluniau.
"O'n i鈥檔 meddwl am tua 10 munud 鈥榳el dwi鈥檔 nabod Dafydd Iwan fel gwleidydd a chanwr a phregethwr ac mae ganddo lot o ddawn wahanol ac wedyn nesh i feddwl... dim posib bod y dyn yn peintio hefyd鈥.鈥
Ar 么l gorffen gosod y ffenest fe aeth i n么l y llun ac agor yr amlen. Ynddi roedd 鈥榥a bapur gydag enw Dafydd Iwan ac Oriel Plas Glyn y Weddw 2008 arno.
Roedd darn arall o bapur yn nodi enw'r arlunydd 鈥楧afydd Iwan鈥 ac yn dweud ei fod wedi cael ychydig o wersi arlunio yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman.
'Jacpot!'
Ond boed yn Dafydd Iwan neu鈥檔 Da Vinci, mae鈥檔 rhaid bod gant y cant pwy ydi'r artist cyn gwerthu unrhyw waith celf.
鈥淒yma fi鈥檔 ffonio鈥檔 ffrind yn y Wyddgrug a gofyn i Margaret i ba ysgol aeth Dafydd Iwan, achos faswn i ddim yn gwybod y pethe yma,鈥 eglurodd Marian. 鈥淎 dyma hi鈥檔 deud 鈥榠a i Ysgol Dyffryn Aman aeth o鈥 a nesh i feddwl 鈥榳el jacpot! Am wych!鈥
鈥淢ae unrhywbeth 鈥榙a ni鈥檔 ffeindio 鈥榙a ni鈥檔 meddwl sy鈥檔 drysor 鈥榙a ni isho neud pres allan ohono fo - achos hel arian yda ni yn de.鈥
Fe gysyllton nhw gyda theulu Dafydd Iwan, wnaeth gadarnhau a dweud y bydden nhw'n hapus petai'r darn celf yn gwneud arian i'r elusen.
Felly dyma ei roi ar werth ar wefan Ebay - ac fe gafodd ei brynu am 拢308.
鈥淒wi鈥檔 hapus iawn mod i wedi ffeindio trysor a hefyd faswn i鈥檔 deud mod i 鈥榙i ffeindio rwbath sydd wedi cael ei achub mewn ffordd,鈥 meddai Marian.
鈥淢ae 鈥榥a lot o bethe sy鈥檔 dod fewn i siop elusen sydd yn gwerthu鈥檔 dda, ond dydi llunia ddim yn hawdd iawn eu gwerthu fel arfer - maen nhw鈥檔 bethe reit bersonol.
鈥淥'n i mor hapus achos mae arian mor bwysig i鈥檙 hosbis.鈥
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2023